Canllaw i gyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu 
 

Croeso

I gyd-fynd â’r negeseuon allweddol, a chefnogi pobl i newid eu hymddygiad o ran teithio, rydym am hyrwyddo’r camau y mae awdurdodau lleol yn eu cymryd i hyrwyddo cerdded, olwynio a beicio. 

Yn yr adnodd hwn, fe welwch dempled a syniadau ar gyfer y cyfryngau i helpu i hyrwyddo’r negeseuon a’r gweithgareddau allweddol o ran cerdded, olwynio a beicio.

Cofiwch deilwra’r awgrymiadau hyn i’ch awdurdod lleol chi.

 

Penawdau delweddau cyfryngau cymdeithasol a awgrymir

Mae’r adran hon yn dangos enghreifftiau o eiriau/brawddegau i hyrwyddo teithio llesol o fewn delwedd.

 

English Cymraeg
We’re helping people walk more. Rydyn ni’n helpu pobl i gerdded mwy.
We’re helping people cycle more. Rydyn ni’n helpu pobl i feicio mwy.
We’re helping people travel sustainably. Rydyn ni’n helpu pobl i deithio’n gynaliadwy.
We’re helping people look after their health and wellbeing.  Rydyn ni’n helpu pobl i ofalu am eu hiechyd a’u lles.
We’re helping people leave the car when it’s not too far. Rydyn ni’n helpu pobl i adael y car pan nad yw’n rhy bell.
We’re helping people choose cleaner and greener travel. Rydyn ni’n helpu pobl i ddewis dulliau teithio glanach a gwyrddach.
We’re helping people build those pennies into pounds through active travel. Rydyn ni’n helpu pobl i droi’r ceiniogau hynny’n bunnoedd drwy deithio llesol.
Have your say. Dweud eich dweud.

Sut a phryd i ddefnyddio’r uchod

  • Mae penawdau delweddau cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o bersonoli a hyrwyddo neges allweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n cael ei hargymell ar gyfer llwyfannau fel Facebook a Twitter (X).
  • Maent hefyd yn ffordd dda o hyrwyddo blogiau, arolygon ac erthyglau newyddion.

 

Negeseuon allweddol a awgrymir ar thema sy’n cyd-fynd â’r delweddau

Mae’r adran hon yn dangos “statws” y neges cyfryngau cymdeithasol sy’n tynnu sylw at y prif negeseuon rydych chi am eu cyfleu.
 

 

Amgylcheddol - Negeseuon allweddol

English Cymraeg
Walking, wheeling, cycling to school or work can help improve air quality. Gall cerdded, olwynio, beicio i’r ysgol neu i’r gwaith helpu i wella ansawdd yr aer.
We all need to do our bit to tackle climate change for us and our children. Walking, wheeling or cycling are great ways to reduce your carbon footprint. Mae angen i bob un ohonom wneud ein rhan i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd er ein mwyn ni a’n plant. Mae cerdded, olwynio neu feicio yn ffyrdd gwych o leihau eich ôl-troed carbon.
We are making it easier to walk, wheel and cycle, so why not get active on your way to work or school? Rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws cerdded, olwynio a beicio, felly beth am gadw’n heini ar eich ffordd i’r gwaith neu’r ysgol?
If you’re making a longer journey, using the train instead of the car uses 86% less CO2 on a 30-mile journey. Os ydych chi’n gwneud taith hirach, mae defnyddio’r trên yn lle’r car yn defnyddio 86% yn llai o CO2 ar daith 30 milltir.
Fewer cars on the road means safer roads and cleaner air Mae llai o geir ar y ffordd yn golygu ffyrdd mwy diogel ac aer glanach
Why not try leaving the car at home for shorter journeys? Beth am roi cynnig ar adael y car gartref ar deithiau byrrach?

Hashnodau y gellid eu defnyddio i gyd-fynd â’ch negeseuon allweddol:

#CadwnHeini 
#AerGlan
#GlanachGwyrddach
#SeroNet

 

Amser - Negeseuon allweddol

English Cymraeg
Skip the traffic by walking, wheeling or cycling on your work commute. Osgowch y traffig drwy gerdded, olwynio neu feicio ar eich taith i’r gwaith.
Skip the traffic by walking, wheeling or cycling on your school run. Osgowch y traffig drwy gerdded, olwynio neu feicio wrth fynd i’r ysgol.
No need to pay and display when travelling on foot. Dim angen talu ac arddangos wrth deithio ar droed.
Spend some quality time together by walking, wheeling or cycling to or from school. Treuliwch amser gwerth chweil gyda’ch gilydd drwy gerdded, olwynio neu feicio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.
Walking home from school gives you time to chat to your children about their day. Mae cerdded adref o’r ysgol yn rhoi amser i chi sgwrsio â’ch plant am eu diwrnod.
Discover more “me time” when walking, wheeling and cycling. Cewch fwy o “amser i fi” wrth gerdded, olwynio a beicio.

Hashnodau y gellid eu defnyddio i gyd-fynd â’ch negeseuon allweddol:

#ArbedAmser
#MwyoAmseriFi
#AmserGydanGilydd
#AmserGwerthChweil

 

Iechyd - Negeseuon allweddol

English Cymraeg 
Regular walking, wheeling or cycling has been shown to reduce your risk of cancer, cardiovascular disease, type 2 diabetes, and improves mental well-being. Dangoswyd bod cerdded, olwynio neu feicio rheolaidd yn lleihau eich risg o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2, ac yn gwella lles meddyliol.
Walking, wheeling or cycling on your commute helps boost your energy, setting you up for the day. Mae cerdded, olwynio neu feicio wrth gymudo yn helpu i roi hwb i’ch egni, yn barod am y diwrnod.
Need to reach your step count? Walking to or from the bus or train is a great way of building physical activity into your daily routine. Angen cyrraedd eich cyfrif camau? Mae cerdded at y bws neu’r trên yn ffordd wych o gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol.
We are making it easier to walk, wheel and cycle, so why not get active on your way to work or school? Rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws cerdded, olwynio a beicio, felly beth am gadw’n heini ar eich ffordd i’r gwaith neu’r ysgol?
Physical activity is a healthy choice, medically proven to reduce the risk of chronic diseases and even depression. Mae gweithgarwch corfforol yn ddewis iach, wedi’i brofi’n feddygol i leihau’r risg o glefydau cronig a hyd yn oed iselder.

Hashnodau y gellid eu defnyddio i gyd-fynd â’ch negeseuon allweddol:

#FiIach
#CadwnHeini
#Llesiant
#IechydMeddwl
#BodYnBositif

 

Ymgysylltu / ymgyrchoedd

English Cymraeg
What are your reasons for travelling actively or taking public transport to work? Tell us about your journey. Beth yw eich rhesymau dros deithio’n llesol neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i’r gwaith? Dywedwch wrthym am eich siwrnai.
Do you walk, wheel or cycle or take public transport to work? We’d love to see pictures of your journey. Ydych chi’n cerdded, yn olwynio neu feicio neu’n mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus i’r gwaith? Byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau o’ch siwrnai.
Plan your next outing / commute by foot, bike or public transport on the Traveline Cymru website or app. Cynlluniwch eich trip / taith gymudo nesaf ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ar wefan neu ap Traveline Cymru.
Play along the way. Whether you're travelling with children, or you are a child at heart, why not play along the way when walking, wheeling or cycling. Beth am chwarae ar y ffordd. P’un a ydych chi’n teithio gyda phlant, neu’n dal yn blentyn eich hun wrth reddf, beth am chwarae ar y ffordd wrth fynd ar droed, ar olwynion neu ar feic.

Hashnodau y gellid eu defnyddio i gyd-fynd â’ch negeseuon allweddol:

#DweudEichDweud
#GweldMwyGwneudMwyBodYnFwy
#ChwaraeArYFfordd
#GwaithChwarae

Mae tagio partneriaid mewnol neu allanol yn eich hashnodau yn gallu arwain at fwy o gyfathrebu ar draws grwpiau. Er enghraifft, mae annog pobl i chwarae ar y ffordd drwy deithio llesol yn cynyddu ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd Gwaith Chwarae.