Rydyn ni yma i helpu pobl i deithio mewn ffyrdd sy'n dda i'r blaned, yn dda i'r boced ac yn dda i fywyd go iawn. I wneud hyn, mae angen cymorth arnom gan fusnesau talentog, busnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.

I ni, nid dim ond prynu nwyddau a gwasanaethau yw caffael. Rydym yn defnyddio ein cadwyn gyflenwi er budd economi, amgylchedd, diwylliant a phobl Cymru wrth sicrhau gwerth am arian cyhoeddus Cymru.

 

Ymunwch â ni i lunio dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru

Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth amlfoddol cysylltiedig sy'n cysylltu cymunedau, yn cefnogi twf economaidd ac yn helpu pobl i deithio'n fwy cynaliadwy. Drwy weithio gyda ni, byddwch yn rhan o genhadaeth sy'n mynd y tu hwnt i symud pobl. Mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd, lleihau allyriadau carbon a gwella bywydau ledled Cymru.

 

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

  • Gweledigaeth a rennir - nid ydym yn prynu yn unig; rydym yn partneru â chyflenwyr sy'n rhannu ein huchelgais ar gyfer arloesedd, dibynadwyedd ac effaith gymdeithasol.
  • Cynaliadwyedd wrth wraidd y gwaith - mae pob contract yn cyfrannu at Gymru fwy cynaliadwy, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Cyfleoedd ar gyfer twf - o fusnesau bach a chanolig lleol i arloeswyr byd-eang, rydym yn cynnig llwyfan i arddangos eich arbenigedd a thyfu gyda ni wrth i ni drawsnewid trafnidiaeth.
  • Cydweithio, nid cydymffurfio yn unig - rydym yn credu mewn meithrin perthnasoedd hirdymor, cyd-ddylunio atebion a chreu gwerth i gymunedau gyda'n gilydd.
  • Effaith y tu hwnt i drafnidiaeth - byddwch yn helpu i gyflawni gwerth cymdeithasol, cefnogi swyddi lleol a chryfhau cadwyni cyflenwi Cymru.

Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth y mae Cymru'n falch ohono.

 

Y ddeddfwriaeth rydyn ni'n ei dilyn ar gyfer caffael

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
  • Deddf Caffael 2023
  • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

 

Cysylltu

Cyfeiriad cofrestredig

3 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH