Rydym yn ymwybodol bod ein cadwyn gyflenwi a phenderfyniadau caffael yn effeithio ar bobl, cymunedau a'r amgylchedd, nawr ac yn y dyfodol.
Fel rhan o'n hymrwymiad i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, rydym wedi lansio ein Hamcanion Caffael Cymdeithasol Cyfrifol. Bydd yr amcanion yma’n llunio ein dealltwriaeth o werth cymdeithasol mewn caffael a rheoli cytundebau. Maent wedi'u dethol er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy, cysylltiedig sydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r amcanion yn cefnogi ac wedi’u halinio'n agos at ein hamcanion lles o ran Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Eisiau gwneud eich busnes yn fwy cynaliadwy?
Gall dealltwriaeth gredadwy o gynaliadwyedd yn ogystal â dull credadwy o'i gyflawni, fod yn hanfodol os yw eich busnes yn ceisio ennill contractau gan brynwyr sy'n chwilio am gyflenwyr cynaliadwy a moesegol.
Rydym yn bartner balch i Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi, platfform ar-lein a gydnabyddir gan y diwydiant gydag aelodaeth am ddim. Mae'n darparu dysgu a gwella sgiliau helaeth ar arfer gorau cynaliadwyedd i fusnesau a all gyfrif tuag at gredydau DPP ac amcanion dysgu personol eich gweithwyr, gan eu helpu i wella sgiliau.
Mae aelodaeth yn rhoi mynediad i'ch busnes at fodiwlau e-ddysgu, gweminarau, astudiaethau achos ac adnoddau eraill ar bynciau allweddol fel:
- Gwerth cymdeithasol
- Sero net
- Caethwasiaeth fodern
- Iechyd a diogelwch
- Aeddfedrwydd digidol
- Gweithgynhyrchu oddi ar y safle
- Syniadaeth ddarbodus
Mae'r ysgol hefyd yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â chyfoedion, cleientiaid ac arweinwyr y diwydiant sy'n rhannu ymrwymiad i gynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol ac arferion busnes cyfrifol.
Gwefan Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi
|
|
Cysylltu
Cyfeiriad cofrestredig
3 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH