Rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau i gadw pobl yn symud, yn cynnal uwchraddiadau seilwaith hanfodol ac yn cyflawni ein cynlluniau tymor hwy i drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

Mae'r nwyddau rydyn ni'n eu prynu yn amrywio o wisgoedd cydweithwyr i fwyd a diod, offer trafnidiaeth, cerbydau rheilffordd a chyflenwadau gweithredol cyffredinol. Mae gwasanaethau'n cynnwys ymgynghoriaeth beirianyddol a thechnegol, gwasanaethau cyfreithiol ac archwilio a rheoli prosiectau.

Mae ein prosiectau adeiladu ac adnewyddu yn cynnwys depos newydd, uwchraddio gorsafoedd, gwelliannau hygyrchedd a chynnal a chadw hanfodol i gadw ein rhwydwaith yn rhedeg yn ddiogel ac yn effeithlon.

 

Fflyd a cherbydau rheilffordd

Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth fodern, amlfoddol i Gymru. Mae angen partneriaid arnom a all ddarparu atebion arloesol o ansawdd uchel ar gyfer ein fflydoedd rheilffyrdd a bysiau. O drenau a bysiau trydan newydd mwy gwyrdd i offer depo a deunyddiau cynaliadwy, mae ein caffael yn cwmpasu llawer o eitemau.

Drwy weithio gyda ni, byddwch yn helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth, gan greu teithiau mwy cynaliadwy a chysylltiedig i gymunedau ledled Cymru. P'un a ydych chi'n weithgynhyrchwr, yn arloeswr technoleg neu'n arbenigwr mewn cynnal a chadw ac adnewyddu, gallai fod lle i chi yn ein cadwyn gyflenwi.

Pethau allweddol rydyn ni'n eu prynu

  • Rheilffordd - trenau newydd, adnewyddu, systemau tyniant, technoleg diogelwch
  • Bws - cerbydau a’r tu mewn, seilwaith gwefru, adnewyddu, telemateg
  • Offer depo - turnau olwynion, jaciau codi, systemau glanhau
  • Nwyddau traul a rhannau sbâr - breciau, hidlwyr, gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC), cydrannau trydanol

Seilwaith

  • Gwaith cledrau a gwaith sifil - adnewyddu traciau, draenio a gwaith sifil, strwythurau a phontydd, twneli, argloddiau, waliau cynnal, cyfleusterau parcio a theithio
  • Gorsafoedd - adeiladu gorsafoedd newydd, adnewyddu, uwchraddio hygyrchedd, cyfleusterau cwsmeriaid (e.e. mannau aros, neuaddau tocynnau, lifftiau, toiledau, cysgodfeydd bysiau), canolfannau trafnidiaeth
  • Signalau a rheoli - systemau rheoli, uwchraddio signalau, canolfannau rheoli, systemau SCADA
  • Trydaneiddio - offer llinellau uwchben, is-orsafoedd, ceblau
  • Cyfleusterau depo a chyfleusterau cynnal a chadw - depos gwasanaethu trenau, depos bysiau, seilwaith gwefru, rheoli ynni clyfar
  • Seilwaith digidol - systemau gwybodaeth i deithwyr, Wi-Fi, teledu cylch cyfyng, technoleg tocynnau

Gwaith, nwyddau a gwasanaethau

Rydym yn prynu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau. Nid rhestr gynhwysfawr yw hon**

  • dillad gwaith a chyfarpar diogelu personol
  • bwyd a diod
  • offer arlwyo a nwyddau traul
  • cyflenwadau swyddfa a dodrefn
  • cynnal a chadw a pheirianneg
  • ymgynghoriaeth
  • gwasanaethau cyfreithiol, ariannol, yswiriant a rheoli risg
  • diogelwch a theledu cylch cyfyng
  • gwasanaethau glanhau
  • hyfforddiant
  • offer rheilffordd a darnau sbâr

Technoleg

Rydym yn prynu amrywiaeth o offer a gwasanaethau technoleg. Nid rhestr gynhwysfawr yw hon**

  • seiberddiogelwch
  • systemau tocynnau
  • sgriniau gwybodaeth
  • seilwaith TG
  • systemau canolfannau rheoli
  • systemau signalau
  • teledu cylch cyfyng a monitro diogelwch
  • dadansoddeg ac atebion data
  • platfformau symudedd clyfar

 

Cysylltu

Cyfeiriad cofrestredig

3 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH