Mae gwneud y peth iawn yn un o'n gwerthoedd craidd ac rydym am i'n cadwyn gyflenwi adlewyrchu hyn. Dyna pam rydym yn llunio cod ymddygiad clir i gyflenwyr sy'n adlewyrchu pwy ydym ni a sut rydym yn gweithio.

Bydd hyn yn nodi'r safonau yr ydym yn eu disgwyl gan ein cyflenwyr ar bopeth o arferion busnes moesegol a chydymffurfiaeth gyfreithiol i amodau gwaith teg a chynhwysol. Mae ein cod ymddygiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad i helpu i adeiladu Cymru well, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Rydym am greu partneriaethau cryf a thryloyw gyda'n cyflenwyr sy'n ein helpu i wneud y peth iawn i bobl a chymunedau, i Gymru ac i'r blaned rydym yn byw arni.

Byddwn yn rhannu ein cod ymddygiad cyflenwyr ar y dudalen hon yn fuan, felly cadwch lygad allan.

 

Cysylltu

Cyfeiriad cofrestredig

3 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH