Pwy ydyn ni

TrC

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, a chafodd ei sefydlu i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a chynaliadwy o safon uchel y mae pobl Cymru yn falch ohono. TrC yw rhiant-gwmni’r grŵp, ac mae’n gynghorydd arbenigol ac eiriolwr dros faterion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Er bod TrC yn darparu cyngor technegol i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio a datblygu polisi; nid yw TrC yn gosod polisi, ac nid ydym ychwaith yn arfer unrhyw swyddogaethau statudol. Nid yw TrC yn awdurdod trafnidiaeth.

Fel rhiant-gwmni’r grŵp, mae gan TrC gyfrifoldeb cyffredinol am wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru a rhanbarthau’r gororau (sy’n cael eu darparu gan Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig); ac rydym yn cymryd mwy a mwy o ran mewn cynlluniau bysiau a theithio llesol ledled Cymru. Wrth i’n cylch gwaith barhau i ehangu, rydym yn gweithio i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull cwbl integredig o safon ryngwladol a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru. Rydym am wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis diogel, hawdd ac amlwg i bobl Cymru, gan leihau dibyniaeth ar geir er mwyn helpu i gyrraedd targedau datgarboneiddio uchelgeisiol Cymru, a sicrhau bod trafnidiaeth yng Nghymru yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd ein rhwydwaith trafnidiaeth integredig yn cysylltu cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru, gan ddod â’r buddsoddiad a’r cyfleoedd i economïau lleol sydd eu hangen ar bobl i ffynnu.

Rydym yn ymgymryd â rhaglen sylweddol o drawsnewid seilwaith ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gyflwyno cerbydau newydd, gwella gorsafoedd a gwneud gwaith i weithredu gwasanaeth mwy effeithlon a di-drafferth ar gyfer cyswllt â chwsmeriaid er mwyn ysbrydoli ymddiriedaeth, brwdfrydedd a hyder. Mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni’n parhau i wella ein dealltwriaeth o’u hanghenion er mwyn darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

 

Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf

Un o is-gwmnïau TrC yw Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf, sy’n gyfrifol am redeg gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd ar draws Rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Crewyd Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig fel ‘Gweithredwr y Dewis Olaf’ Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2021, i olynu masnachfraint rheilffyrdd bresennol KeolisAmey Cymru, Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC, a sefydlwyd ym mis Hydref 2018. Arewiniodd pandemig y Coronafeirws ddechrau 2020 at heriau sylweddol na welwyd eu tebyg o’r blaen i ddiwydiant rheilffyrdd y DU, a arweiniodd at ostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr a’r refeniw. O’r herwydd, daeth masnachfraint KeolisAmey Wales, Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC, i ben, a daeth gwasanaethau rheilffyrdd ar draws Cymru a’r gororau dan berchnogaeth gyhoeddus. Sefydlwyd Rheilffyrdd TrCymru Cyfyngedig, ac maent bellach yn rheoli 248 o orsafoedd ac yn gweithredu’r holl brif wasanaethau sy’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaethau sy’n cysylltu Cymru â Chaer, Amwythig, Lerpwl, Manceinion, Crewe, Bidston a Cheltenham.

 

Gwasanaethau Arloesi TrC Cyfyngedig

Mae Gwasanaethau Arloesi TRC Cyf yn fenter ar y cyd rhwng TrC, Keolis ac Amey, lle mai TrC yw’r prif gyfranddaliwr. Mae’r cwmni’n darparu arbenigedd a gallu arbenigol i sbarduno arloesedd a newid ar gyfer grŵp ehangach TrC, gan eu galluogi i ddarparu system drafnidiaeth aml-ddull integredig ar gyfer pobl Cymru a’r gororau.

 

Pullman Rail Limited

Mae Pullman Rail Limited yn is-gwmni i TrC, a ddaeth o dan berchnogaeth TrC ym mis Awst 2021. Mae Pullman Rail Limited yn parhau i weithredu fel cwmni annibynnol sy’n darparu gwasanaethau o dan ei frand ei hun. Gan weithredu o’i depo yn Nhreganna, Caerdydd, mae Pullman Rail yn darparu arbenigedd technegol ar y rheilffyrdd; uwchraddio cerbydau arbenigol; atgyweirio, adnewyddu a chynnal a chadw pob cerbyd rheilffordd sy’n cludo teithwyr neu nwyddau; ac atebion peirianneg.

 

TfW Fibre

Mae ffeibr, neu TfW Fibre Limited, yn is-gwmni i Trafnidiaeth Cymru (TrC) a sefydlwyd i ddatgloi gwerth newydd o seilwaith y sector cyhoeddus. Yn deillio o drydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) TrC, mae ffeibr yn gwmni seilwaith arloesol sy'n darparu rhwydwaith rhyngrwyd ffeibr llawn capasiti uchel.

Drwy harneisio'r capasiti ffeibr cudd sydd wedi'i fewnosod yn systemau signalau CVL wedi'u huwchraddio, mae ffeibr yn grymuso busnesau gyda gwasanaethau cysylltedd rhwydwaith capasiti uchel tra hefyd yn cysylltu Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd.

Mae'r fenter arloesol hon yn gydweithrediad rhwng TrC ac Adran Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol Llywodraeth Cymru, wedi'i chynllunio i wneud y mwyaf o botensial asedau cyhoeddus. Mae ffeibr yn helpu i bontio'r bwlch digidol trwy ddod â mynediad rhyngrwyd cyflym iawn i gartrefi a busnesau yn rhai o gymunedau anoddaf eu cyrraedd a'r rhai sydd dan anfantais yng Nghymru, yn ogystal ag ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan sbarduno twf cynhwysol a ffyniant digidol i bawb.