Ein stori ni
2016
Dechrau’r daith
Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd mae Cymru’n teithio.
Rydyn ni yma i wneud teithio cynaliadwy yn ddewis naturiol ac i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae gennym ni waith mawr i’w wneud.
Rydyn ni eisiau i bobl ymddiried a chredu ynom ni ac ymrwymo i newid eu hymddygiad, teithio’n fwy cynaliadwy a gwneud eu rhan ar gyfer ein dyfodol ni oll. Bydd y rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull rydyn ni’n ei adeiladu yn galluogi pobl i wneud hyn.
Boed yn drafnidiaeth gyhoeddus, yn gerdded, ar olwynion neu’n seiclo, rydyn ni eisiau gwneud teithio cynaliadwy nid yn unig y peth iawn i’w wneud, ond hefyd yn beth haws i’w wneud.
2017
Diwedd cyfnod
Rydyn ni’n dechrau’r broses o benodi gweithredwr newydd ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, yn lle Trenau Arriva Cymru.
2018
Gweithredwr trenau newydd wedi’i benodi
Mae contract yn cael ei ddyfarnu i KeolisAmey Cymru i weithredu gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ar ran TrC.
Y glanhau mawr ar orsafoedd yn dechrau
Rydyn ni’n dechrau’r gwaith mawr o lanhau ein gorsafoedd rheilffyrdd yn drwyadl iawn. Mae platfformau, ystafelloedd aros, cysgodfeydd, arwyddion, byrddau gwybodaeth, meysydd parcio a phontydd troed yn cael eu hadnewyddu a’u hailfywiogi.
Gwaith yn dechrau ar ein fflyd newydd sbon o drenau
Mae gwaith yn dechrau ar ddylunio ac adeiladu ein fflyd o drenau newydd sbon gwerth £800 miliwn.
2019
Torri record teithiau
Dan frand TrC, rydyn ni’n rhedeg mwy o wasanaethau rheilffyrdd ar ein rhwydwaith nag erioed o’r blaen wrth i fwy ohonom adael y car gartref a defnyddio’r trên.
Lansio gwasanaeth newydd rhwng Ngogledd Cymru-Lerpwl
Rydym yn dechrau rhedeg 215 o drenau yr wythnos rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl, gan roi hwb economaidd mawr i'r rhanbarth.
Gwneud ein trenau’n addas ar gyfer y dyfodol
Rydym yn dechrau buddsoddi £40 miliwn i uwchraddio ein fflyd bresennol o drenau. Mae ein cwsmeriaid yn elwa o bwyntiau gwefru ffonau newydd, Wi-Fi ar y trenau, yn ogystal â seddi, carpedi a ffitiadau mewnol newydd.
Rydyn ni’n dechrau ail-frandio ein trenau gyda’n lifrai coch a llwyd unigryw.
2020
Covid-19 - cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel
Mae ein timau rheng flaen yn gweithio’n galed i gadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod y pandemig. Rydyn ni’n parhau i redeg gwasanaethau hanfodol ar gyfer gweithwyr allweddol ar anterth yr argyfwng iechyd cyhoeddus.
Rydyn ni wedi rhoi mesurau diogelwch ychwanegol ar waith, fel cadw pellter cymdeithasol ar ein trenau a’n gorsafoedd, systemau unffordd ac yn gwneud gwaith glanhau ychwanegol. Mae ein hymgyrch Teithio’n Saffach yn atgoffa ein cwsmeriaid am deithio’n fwy diogel a’r camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i gadw ein gilydd yn ddiogel.
Wedi adnewyddu dros hanner miliwn o gardiau bws
Rydyn ni’n parhau i roi Cardiau Teithio Rhatach newydd yn lle pob cerdyn bws i bobl dros 60 oed a phobl anabl, ar ran Llywodraeth Cymru a holl gynghorau lleol Cymru.
Gellir eu defnyddio ar bob gwasanaeth bws cymwys yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau trawsffiniol os nad yw hyn yn golygu newid bws yn Lloegr. Gellir eu defnyddio hefyd ar wasanaethau trên penodol yng Nghymru.
Cwestiynau Cyffredin Cerdyn Teithio
Metro De Cymru - y trawsnewid yn dechrau
Rydyn ni’n cymryd perchnogaeth ar Linellau Craidd y Cymoedd oddi ar Network Rail, sy’n rhedeg o Gaerdydd i Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert, Rhymni a Coryton.
Byddant yn rhan o Fetro De Cymru, sef llwybrau bysiau, rheilffyrdd, ar olwynion, cerdded a beicio integredig. Bydd y Metro yn gwella cysylltedd ac yn gwneud teithio cynaliadwy o ddrws i ddrws yn haws ar draws y rhanbarth.
Mae'r Metro wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
fflecsi - gwneud teithiau lleol yn symlach
Rydyn ni’n dechrau ein gwasanaeth bws cyflym newydd sy’n ymateb i alw mewn partneriaeth â chynghorau lleol a gweithredwyr bysiau. Mae fflecsi’n gadael i bobl archebu eu bws a dweud wrtho ble mae nhw angen mynd ymlaen llaw.
Ffordd wahanol, fwy hyblyg a gwyrddach o deithio pellteroedd byrrach yn lleol, boed hynny i’r siopau, i’r ysgol, i’r gwaith neu efallai i apwyntiad meddyg.
Gwella mynediad at lwybrau cerdded a beicio
Rydyn ni’n dechrau rheoli Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru sy’n anelu at wella mynediad at lwybrau cerdded, ar olwynion, beicio ledled Cymru.
Bydd gwneud siwrneiau byrrach ar gefn beic, ar olwynion neu ar droed yn ein helpu ni i gyd i ddiogelu ein hamgylchedd a chadw’n heini ac yn iach hefyd.
2021
Rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen yn sgil pandemig Covid-19, gyda niferoedd teithwyr a refeniw yn gostwng yn sylweddol.
Rydyn ni’n cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros weithredu rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau i ddiogelu’r gwasanaethau hanfodol y mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnynt. Mae hefyd yn ein galluogi i ddiogelu swyddi a pharhau i wneud y gwaith uwchraddio mwyaf arwyddocaol i reilffyrdd Cymru am genhedlaeth.
Rydyn ni’n lansio ein ap rheilffyrdd TrC newydd ymarferol
Rydyn ni’n lansio ein ap dwyieithog newydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd i’n cwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth amser real am deithiau, prynu tocynnau’n gyflym ac yn rhwydd, a gweld pa mor brysur y mae eu trên yn debygol o fod.
Gwaith yn dechrau ar orsaf newydd yn Bow Street
Rydyn ni wedi agor gorsaf drenau newydd gyntaf Cymru ers 2015. Mae’n cysylltu cymuned Bow Street yng Ngheredigion â’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol am y tro cyntaf ers cau’r hen orsaf yn 1965.
fflecsi yn gwella gwasanaeth Bwcabus Gorllewin Cymru
Rydyn ni’n ehangu ein gwasanaethau bws fflecsi i Orllewin Cymru. Mae’r gwasanaeth Bwcabus lleol poblogaidd yn cael ei wella drwy ei gysylltu â’n ap archebu fflecsi a’n canolfan alwadau, sy’n caniatáu i fwy o bobl archebu eu teithiau ymlaen llaw.
Creu mannau ar gyfer natur yn ein gorsafoedd rheilffordd
Rydyn ni’n dechrau ein prosiect Llwybrau Gwyrdd, gyda chefnogaeth £100,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy ei Chynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae’n ymwneud â gweithio gyda’n cymunedau i ofalu am yr amgylcheddau naturiol unigryw a hardd a geir mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru.
Pullman Rail yn dod yn rhan o TrC
Rydyn ni’n llofnodi cytundeb gyda Colas Rail i brynu Pullman Rail Limited. Mae Pullman yn darparu gwasanaethau peirianneg arbenigol ar gyfer trenau yn Nhreganna, ein depo rheilffyrdd mwyaf lle mae’r rhan fwyaf o’n trenau’n cael eu gwasanaethu, eu glanhau a’u cynnal a’u cadw.
Bydd yn ein helpu i weithio’n agosach gyda’n gilydd i ofalu am ein trenau, gwella gwasanaethau i’n cwsmeriaid a sicrhau swyddi cynnal a chadw rheilffyrdd medrus yng Nghymru.
2022
Siop un stop ar gyfer cynllunio teithiau yng Nghymru
Mae PTI Cymru, gweithredwr gwasanaethau cynllunio teithiau Traveline Cymru, yn uno â TrC. Rydyn ni’n defnyddio eu harbenigedd a’u profiad i wneud cynllunio teithiau aml-ddull o ddrws i ddrws yng Nghymru yn symlach ac i’n galluogi ni i gyd i wneud dewisiadau teithio cadarnhaol.
Byddwn yn defnyddio arbenigedd Traveline Cymru i ddarparu gwasanaethau cynllunio teithiau o ansawdd uchel ledled Cymru, gan wneud yn siŵr ein bod yn meithrin ein dealltwriaeth o sut mae ein cwsmeriaid yn hoffi teithio.
Gwaith seilwaith mawr yn parhau wrth i ni adeiladu eich Metro
Mae’r gwaith caled yn parhau wrth i ni drawsnewid a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd er mwyn i ni allu rhedeg gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd ac Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert, Rhymni a Coryton.
Mae ein peirianwyr yn gosod yr offer ar gyfer llinellau uwchben newydd er mwyn i drenau tram newydd, tawelach allu rhedeg gan ddefnyddio trydan.
Lansio ein ap bws newydd
Rydyn ni’n lansio ap gwasanaeth TrawsCymru newydd sy’n galluogi ein cwsmeriaid i brynu tocynnau, i gynllunio eu teithiau, i gael mynediad rhwydd at amserlenni ac i olrhain lle mae eu bws ar y rhwydwaith.
Mae’r ap hefyd yn dangos yr arbedion carbon y byddwn yn eu gwneud drwy ddewis y bws yn lle’r car. Mae’n ffordd wych o weld yr effaith y gall pob un ohonom ei chael os byddwn yn teithio’n fwy cynaliadwy, hyd yn oed os byddwn ond yn gwneud un neu ddwy o deithiau rheolaidd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Trafnidiaeth Cymru i lansio ap newydd
2023
Gwasanaethau bws gwell ar gyfer Gogledd Cymru
Rydyn ni’n cyhoeddi gwasanaeth bws TrawsCymru T8 newydd bob awr rhwng Corwen, Rhuthun, yr Wyddgrug a Chaer sy’n darparu gwasanaethau cyflymach, amlach a mwy cyfleus, gan alluogi teithwyr i deithio heb newid bysiau.
Dyma ‘Happy Valley’ - ein trên newydd sbon cyntaf
Mae’r cyntaf o’n fflyd o drenau newydd sbon sy’n werth £800 miliwn yn cael ei lansio’n swyddogol yn Llandudno a’i enwi’n ‘Happy Valley’. Fe wnaethom herio pobl ifanc Cymru a’r gororau i enwi’r trenau yn ein fflyd newydd.
Wedi’u gwneud yng Nghymru, ein trenau Class 197 fydd asgwrn cefn ein gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf. Mae ganddyn nhw system awyru, mynediad gwastad, toiledau hygyrch, Wi-Fi, pwyntiau gwefru ffôn a sgriniau gwybodaeth newydd i gwsmeriaid.
Bysiau trydan yn dod â ni gam yn nes at sero net
Mae bysiau trydan newydd sbon yn cael eu datgelu ar gyfer llwybr TrawsCymru T1 Caerfyrddin - Aberystwyth. Y bysiau hyn yw’r rhai mwyaf modern, a byddant wedi’u lleoli mewn depo newydd yng Nghaerfyrddin.
Mae’n gam arall ymlaen tuag at drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru, gan ein helpu ni i gyd i deithio’n fwy cynaliadwy a chyflawni sero net.
Mae’r daith yn parhau...
Rydyn ni eisoes wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl a bydd hyn yn parhau wrth i ni ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig a chynaliadwy ledled Cymru. Mae’n gyfrifoldeb mawr, ond rydyn ni’n ymgymryd â’r her.
Ein nod yw cynyddu 40% ar nifer y teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol erbyn 2040, yr amcan a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021