Llwybrau gwyrdd

Rydym yn creu mannau gwyrdd ac yn gwella bioamrywiaeth mewn 25 o’n gorsafoedd rheilffordd a phum ardal gymunedol sydd wedi’u lleoli o fewn milltir i orsaf.

Lansiwyd y prosiect Llwybrau Gwyrdd ym mis Mai 2021. Mae’n cael ei gefnogi gan £100,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy ei Chynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae'r cynllun yn helpu i ofalu am yr amgylcheddau naturiol unigryw a hardd a geir ger gorsafoedd rheilffordd ar hyd a lled Cymru. Mae hefyd yn cefnogi llesiant pobl sy’n byw yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu drwy ganiatáu iddynt ymgysylltu â byd natur wrth iddynt deithio i’w cyrchfannau.

Gwyddom fod ein cymunedau yn ymfalchïo mewn gofalu am eu mannau gwyrdd. Rydym yn gweithio’n agos gyda phobl leol, partneriaid cyflenwi lleol a’n mabwysiadwyr gorsafoedd wrth i ni gysylltu Cymru â Llwybrau Gwyrdd.

 

Gorsafoedd Gogledd Cymru

  • Gorsaf reilffordd Abergele
      • Rydyn ni wedi creu llwybr gwyrdd newydd drwy’r orsaf.
      • Rydyn ni wedi adeiladu wyth o botiau plannu newydd gyda phlanhigion brodorol sy’n gyfeillgar i bryfed peillio gan ddefnyddio pridd a blodau cynaliadwy heb fawn sy’n addas ar gyfer yr amgylchedd arfordirol.
      • Cefnogwyd ymdrechion plannu gan swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a staff o Gyngor Tref Abergele.
      • Rydyn ni’n edrych ar gynigion i blannu llwyni a blodau gwyllt ar ramp mynediad yr orsaf a’r ardal laswelltir ar y platfformau. 

       

      Wedi

      Abergale

  • Gorsaf reilffordd Bangor
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu naw o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf, gan greu llwybr gwyrdd o fynedfa’r orsaf i’r prif blatfform.
      • Mae grŵp mabwysiadu Cyfeillion Gorsaf Bangor yn gofalu am y potiau. 
      • Rydyn ni’n ychwanegu potiau plannu sy’n cynnwys planhigion a blodau brodorol sy’n gyfeillgar i bryfed peillio ac sy’n gwella’r synhwyrau.
      • Mae’r planhigion a’r blodau brodorol yn defnyddio pridd cynaliadwy heb fawn i wella ymddangosiad yr orsaf a chefnogi bioamrywiaeth leol.
      • Rydyn ni wedi cefnogi Cyfeillion Gorsaf Bangor gyda chyfarpar ac adnoddau i barhau â gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y gymuned. 

       

      Wedi

      Bangor After 1

      Bangor After 2

  • Gorsaf reilffordd Conwy
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu pedwar o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf ac sydd wedi cael eu mabwysiadu gan y grŵp cyn-filwyr ‘Boots on the Ground’
      • Mae’r potiau plannu wedi creu llwybrau gwyrdd ar ddwy ochr yr orsaf, gan wella’r profiad i deithwyr.
      • Mae pryfed peillio wedi cael eu gweld yn yr orsaf o fewn dyddiau i osod y potiau.
      • Bu swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y Sir, hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith plannu.
      • Rydyn ni’n gosod casgenni dŵr i gasglu dŵr glaw a chefnogi llystyfiant. 

       

      Wedi

      Conwy

      Conwy Bee

  • Gorsaf reilffordd Glan Conwy
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu dau o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf ac maent wedi cael eu mabwysiadu gan y preswylwyr.
      • Mae’r planwyr wedi’u lleoli i gynnal planhigion a nodweddion gwyrdd presennol yn yr orsaf.
      • Rydyn ni wedi defnyddio planhigion brodorol i helpu i gefnogi bioamrywiaeth leol. 

       

      Cyn

      Glan Conwy Before

      Wedi

      Glan Conwy After

  • Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu chwech o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf ac maent wedi cael eu mabwysiadu gan Gyfeillion Gorsaf Drenau Cyffordd Llandudno.
      • Buom yn gweithio gyda chyn-filwyr lleol i osod potiau plannu pren cynaliadwy yn yr orsaf.
      • Mae mwy o bryfed peillio wedi ymweld â’r orsaf, gan helpu i gefnogi bioamrywiaeth leol. Mae gwalch-wyfyn helyglys hyd yn oed wedi cael ei weld ymysg y blodau.

       

      Cyn

      Llandudno Junction Before

       

      Wedi

      Llandudno Junction After

      Llandudno Junction Elephant Hawk-Moth

  • Gorsaf reilffordd Porthmadog
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu saith o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf.
      • Mae’r potiau plannu wedi cael eu mabwysiadu gan y grŵp Bwyd Bendigedig, sef grŵp cymunedol sy’n hyrwyddo byw’n gynaliadwy ac addysg bioamrywiaeth.
      • Mae ganddynt hwb ecolegol ger yr orsaf ac maent yn gweithio’n frwd gyda’r ysgol gyfagos i ddarparu rhaglenni addysg ecolegol i blant.
      • Byddan nhw’n ein helpu ni i barhau i wneud gwelliannau i orsaf drenau Porthmadog. 

       

      Wedi

      Porthmadog After

  • Gorsaf reilffordd y Rhyl
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi rhoi cyfle i ni ailblannu 26 o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf, gan greu llwybr gwyrdd o fynedfa’r orsaf i’r prif blatfform.
      • Mae grŵp mabwysiadu Cyfeillion Gorsaf Rhyl yn gofalu am y potiau plannu. 

       

      Wedi

      Rhyl

 

Gorsafoedd De Cymru

  • Gorsaf reilffordd y Fenni
      • Rydym yn ychwanegu mwy o blanwyr gyda phlanhigion a blodau brodorol gan ddefnyddio pridd cynaliadwy heb fawn.
      • Rydym yn edrych ar gynigion ar gyfer planhigion a llochesi ar gyfer bywyd gwyllt lleol yn ardaloedd segur yr orsaf.

       

      Cyn

      Abergavenny Before

       

      Wedi

      Abergavenny After 1

      Abergavenny

      Abergavenny After 3

  • Gorsaf reilffordd Barri
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi ein galluogi i ailblannu potiau plannu sydd yno yn barod er mwyn gwella peillio.
      • Mae tîm bach o staff gorsaf TrC yn gofalu am y potiau.
      • Rydyn ni’n ystyried sut gallwn ni addasu mannau gwyrdd presennol yr orsaf ar gyfer planhigion a llochesi ar gyfer bywyd gwyllt lleol. 

       

      Wedi

      Barry

  • Gorsaf reilffordd Caerffili
      • Rydym wedi ychwanegu chwe phlaniwr newydd gyda chymysgedd o blanhigion synhwyraidd a pheillio i greu Llwybr Gwyrdd o’r stryd fawr i’r orsaf.
      • Rydym wedi defnyddio pridd cynaliadwy, heb fawn.
      • Mae’r orsaf wedi’i mabwysiadu gan aelodau U3A Caerffili ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn wella mannau gwyrdd yr orsaf a chreu llochesi ar gyfer bywyd gwyllt lleol.
      • Roedd yr orsaf a’i mabwysiadwyr hefyd yn rhan o ‘Caerffili yn ei Blodau 2022’, a gwnaethant ennill Gwobr Aur am eu hymdrechion.

       

      Wedi

      Caerphilly After

  • Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd
      • Rydym wedi gwella’r tair ardal bresennol yn yr orsaf gyda phlanhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr ac sy’n gwella’r synhwyrau fel lafant, borage a hebe’s.
      • Mae Rotari Bae Caerdydd wedi mabwysiadu’r orsaf, a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i barhau i wella’r orsaf ar gyfer y gymuned leol a bywyd gwyllt.

       

      Cyn

      Cardiff Bay Before

      Wedi

      Cardiff Bay After

      Cardiff Bay After

  • Gorsaf reilffordd Cwmbran
      • Mae tair basged grog newydd wedi cael eu gosod yn yr orsaf er mwyn gwella ei hymddangosiad ar gyfer defnyddwyr y rheilffyrdd a’r gymuned leol.
      • Rydyn ni’n ychwanegu potiau plannu a basgedi crog gyda phlanhigion a blodau brodorol sy’n defnyddio pridd cynaliadwy heb fawn.  Bydd staff yr orsaf yn gofalu am y rhain.
      • Rydyn ni’n edrych ar gynigion i ddefnyddio glaswelltiroedd sy’n ffinio â’r orsaf ar gyfer gwelyau blodau.  

       

      Wedi

      Cwmbran

  • Gorsaf reilffordd Llandrindod
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu  pedwar o botiau plannu i greu llwybr gwyrdd o amgylch yr orsaf.
      • Mae hyn yn cefnogi ymdrechion i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr orsaf.
      • Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Calon Cymru yn awyddus i recriwtio rhywun i ofalu am blanhigion yr orsaf.
      • Rydyn ni’n ystyried sut gallwn ni ddefnyddio tir sy’n ffinio â’r orsaf i greu mannau gwyrdd newydd.

       

      Wedi

      Llandrindod

  • Gorsaf reilffordd Llanwrtyd
      • Mae adeilad yr orsaf bellach yn cael ei redeg gan Gludiant Cymunedol Llanwrtyd (LWCT) sy’n ei ddefnyddio fel Canolfan Gymunedol a man cyfarfod. 
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu chwech o botiau plannu a bocsys bywyd gwyllt i greu llwybr gwyrdd o amgylch yr orsaf.  
      • Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Cymunedol Twynyrodyn i recriwtio gwirfoddolwyr o’r gymuned leol a threfnu diwrnod plannu yn ardd eco'r gymuned leol.  Mae grŵp o fabwysiadwyr gorsafoedd sy’n cynnwys trigolion lleol yn gofalu am hyn.
      • Am ei fod yn orsaf wledig, mae llwybrau gwyrdd o amgylch Llanwrtyd yn ddelfrydol ar gyfer cynnal bioamrywiaeth.

       

      Wedi

      Llanwrtyd

  • Gorsaf reilffordd Pontypridd
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi caniatáu i ni adeiladu tri o botiau plannu newydd ger mynedfa’r orsaf ac ailblannu’r rhai a oedd yno yn barod, gan gynnwys hen botiau plannu a roddwyd gan Amgueddfa Pontypridd.
      • Rydyn ni wedi defnyddio planhigion a blodau brodorol gan ddefnyddio pridd cynaliadwy heb fawn i gynnal bioamrywiaeth.
      • Rydyn ni’n ystyried camau eraill y gallwn ni eu cymryd i wella ymddangosiad yr orsaf gyda mannau gwyrdd newydd a gwell i ddefnyddwyr yr orsaf a’r gymuned leol eu mwynhau.

       

      Wedi

      Pontypridd After

  • Gorsaf reilffordd Treherbert
      • Rydyn ni wedi ychwanegu basgedi ffensys at fynedfa’r orsaf i wella’r ffordd mae’n edrych ar gyfer defnyddwyr y rheilffyrdd.
      • Rydyn ni wedi defnyddio planhigion a blodau brodorol gan ddefnyddio pridd cynaliadwy heb fawn i gynnal bioamrywiaeth leol ac annog rhywogaethau brodorol i ddychwelyd i’r ardal.
      • Rydyn ni’n gwella llystyfiant yr orsaf ac yn ychwanegu llochesi ar gyfer bywyd gwyllt lleol.

       

      Wedi

      Treherbert After

 

Gorsafoedd Gorllewin Cymru

  • Gorsaf reilffordd Rhydaman
      • Rhydaman yw un o’r gorsafoedd cyntaf i agor yng Nghymru, yn ôl yn 1841
      • Mae cyllid gan y prosiect wedi cael ei ddefnyddio i adeiladu potiau plannu ar gyfer yr orsaf, gan greu llwybr gwyrdd ar hyd y platfform.
      • Mae Clwb Llewod Rhydaman, elusen leol a mudiad darparu gwasanaethau sy’n cefnogi cymunedau lleol, wedi mabwysiadu’r orsaf a’r potiau plannu. 

       

      Cyn

      ​​Ammanford Before

      Ammanford Before - Platform

       

      Wedi

      Ammanford

  • Gorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr
      • Pen-y-bont ar Ogwr yw’r bumed orsaf brysuraf yng Nghymru.
      • Mae cyllid gan y prosiect wedi cael ei ddefnyddio i adeiladu mwy o botiau plannu ar gyfer yr orsaf, gan greu llwybr gwyrdd ar hyd y platfform.
      • Mae’n defnyddio pridd cynaliadwy heb fawn i gynnal bioamrywiaeth leol.
      • Mae mabwysiadwyr yn cael eu recriwtio ar gyfer yr orsaf. 

       

      Cyn

      Bridgend Before

       

      Wedi

      Bridgend After

  • Gorsaf reilffordd Glanyfferi
      • Cafodd orsaf Glanyfferi ei hagor yn ôl yn 1852, ac mae’n un o’r gorsafoedd hynaf yng Nghymru.
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu chwech o botiau plannu gyda phlanhigion cyfeillgar i bryfaid peillio i greu llwybr gwyrdd o amgylch yr orsaf.
      • Mae preswylydd lleol yn gofalu am y potiau plannu, ac mae grŵp mabwysiadu ‘Cyfeillion’ wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar gyda chefnogaeth cyngor y dref. 

       

      Wedi

      Ferryside

  • Gorsaf reilffordd Hwlffordd
      • Agorwyd yr adeilad yn wreiddiol yn 1854, ac mae wedi cael ei ddiweddaru sawl gwaith, gan arwain at ennill cyfres o wobrau nodedig, gan gynnwys yr Orsaf Eingl-Wyddelig Orau ddwy flynedd yn olynol yn 1991 a 1992.
      • Mae cyllid o’r prosiect wedi adeiladu pedwar o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf ac sydd wedi cael eu mabwysiadu gan aelodau o Fforwm Ieuenctid Hwlffordd.
      • Mae’r potiau plannu wedi creu llwybr gwyrdd newydd ar hyd y platfform.

       

      Cyn

      Haverfordwest Before

       

      Wedi

      Haverfordwest After

      Haverfordwest After

  • Gorsaf reilffordd Cydweli
      • Cydweli yw’r orsaf fwyaf sy’n cael ei thrawsnewid gan y prosiect Llwybrau Gwyrdd. 
      • Mae gerddi hen drawstiau rheilffyrdd wedi cael eu creu a’u gosod gyda chymorth Centregreat.
      • Bydd Grŵp Sgowtiaid Cydweli yn gofalu am y gerddi.
      • Mae’r gerddi’n gwella gwyrddni’r orsaf yn sylweddol ac yn darparu mynediad at natur i deithwyr, i’r gymuned leol ac i’r bobl ifanc sy’n rhan o Grŵp y Sgowtiaid. 

       

      Wedi

      Kidwelly

      Kidwelly After

  • Gorsaf reilffordd Llanymddyfri
      • Agorwyd adeiladau’r orsaf ar ei newydd wedd gan y Tywysog Siarl ym mis Mehefin 2011, tua 19 mlynedd ar ôl iddynt gael eu cau.
      • Darparodd y prosiect cyllid ar gyfer chwech o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf i roi hwb i fioamrywiaeth cyn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf, lle maent yn disgwyl miloedd o deithwyr ac ymwelwyr.
      • Mae grŵp Cyfeillion Gorsaf Llanymddyfri yn cael ei ffurfio ar hyn o bryd gyda chefnogaeth gan y Cyngor Tref a Phartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Calon Cymru.

       

      Wedi

      Llandovery After

      Llandovery After - Planters

  • Gorsaf reilffordd Aberdaugleddau
      • Aberdaugleddau yw’r orsaf drenau fwyaf gorllewinol yng Nghymru.
      • Darparodd y prosiect cyllid ar gyfer pedwar o botiau plannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio yn yr orsaf sydd wedi cael eu mabwysiadu gan aelodau o’r grŵp ‘Visit Milford Haven’.
      • Mae’r potiau plannu wedi creu llwybr gwyrdd newydd ar hyd y platfform, gan gefnogi bioamrywiaeth leol.  

       

      Cyn

      Milford Haven Before

       

      Wedi

      Milford Haven After

  • Gorsaf reilffordd Doc Penfro
      • Agorwyd yr orsaf yn wreiddiol i wasanaethu Doc y Llynges Frenhinol yn y dref, ac mae adeilad yr orsaf yn strwythur rhestredig Gradd II.
      • Mae cyllid gan y prosiect wedi cael ei ddefnyddio i adeiladu potiau plannu a chreu ardal lles ar ffurf cwrt yn yr orsaf er budd y teithwyr a’r gymuned leol.
      • Mae’r potiau plannu presennol wedi cael eu symud ymhellach ar hyd y platfform ac mae’r ardal werdd o’i hamgylch wedi cael ei thacluso.
      • Mae trigolion lleol yn gofalu am y potiau plannu.

       

      Cyn

      Pembroke Dock Before

       

      Wedi

      Pembroke Dock

  • Gorsaf reilffordd Pontarddulais
      • Adeiladwyd yr orsaf ym 1840 ar brif reilffordd wreiddiol Rheilffordd Llanelli, o Lanelli i Lanymddyfri. Y twnnel 80 llath o hyd yn union i’r de o’r orsaf yw’r twnnel rheilffordd hynaf sy’n dal i gael ei ddefnyddio yng Nghymru, ar ôl iddo gael ei adeiladu’n wreiddiol at ddefnydd tramffyrdd ceffylau tua 1839.
      • Mae'r prosiect wedi ariannu deg blwch bywyd gwyllt a osodwyd yn yr ardal blanedig bresennol.
      • Mabwysiadwyr yr orsaf - U3A Pontarddulais sy’n gofalu am y mannau gwyrdd.
      • Fel gorsaf dawelach, mae Pontarddulais yn ddelfrydol ar gyfer blychau bywyd gwyllt gan eu bod yn llai tebygol o gael eu haflonyddu.

       

      Cyn

      Pontarddulais Before

      Wedi

      Pontarddulais After

      Pontarddulais

 

Yn ein cymunedau

  • Cymdeithas Rhandiroedd BronFair
      • Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Rhandiroedd BronFair i gasglu gwirfoddolwyr o’r gymuned leol i adeiladu potiau plannu i bobl leol, teuluoedd a phlant ifanc eu defnyddio a’u mwynhau’n ddiogel. 
      • Rydyn ni wedi adeiladu porth bwaog sy’n casglu dŵr glaw i dyfwyr lleol ei ddefnyddio. Bydd pobl leol hefyd yn gallu defnyddio’r safle hon fel man tawel i fyfyrio a chefnogi eu hiechyd a’u lles.
      • Mae’r Gymdeithas Rhandiroedd yn canolbwyntio ar dyfu ffrwythau a llysiau er budd y gymuned leol, gyda defnyddwyr rhandiroedd a’u teuluoedd yn cymryd yr awenau gyda’r gwaith.
  • Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian
      • Rydyn ni’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian i wneud gwelliannau ym Mharc Gwledig Cwm Clydach.
      • Mae Alun Griffiths, contractwr peirianneg sifil ac adeiladu, wedi cefnogi’r Ymddiriedolaeth i ailddylunio eu mannau awyr agored, gyda gwaith paratoi’r pridd wedi ei gwblhau a sied yn cael ei hadeiladu.
      • Rydyn ni wedi sefydlu’r prosiect ‘O’r Pridd i’r Plât’ mewn partneriaeth ag Alun Griffiths a’r gymuned leol, gan helpu i gefnogi tyfu bwyd yn lleol a bioamrywiaeth yn y ganolfan ger y llyn.
      • Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn cefnogi ymdrechion addysgol yn y gymuned i warchod yr amgylchedd lleol.
      • Mae eu hymdrechion wedi cynnwys adeiladu ‘gwestai chwilod’, tai adar, tai i ddraenogod a photiau plannu i gefnogi peillio, natur a bioamrywiaeth.
      • Mae gwirfoddolwyr, ysgolion a phobl leol wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i dyfu ffrwythau a llysiau ffres.
  • Sefydliad Enbarr
      • Rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad Enbarr fel rhan o’n hymdrechion i warchod y bioamrywiaeth unigryw sydd i’w gael o amgylch ein rheilffyrdd.
      • Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu mwy o fannau gwyrdd o amgylch seilwaith rheilffyrdd, yn creu gerddi blodau gwyllt ac yn meithrin planhigion a bywyd gwyllt brodorol i gefnogi byd natur a thraws-beillio yn ein trefi a’n dinasoedd.
      • Rydyn ni wedi ailgyflwyno planhigion brodorol, gan helpu ecosystemau lleol i ffynnu.
      • Rydyn ni wedi creu gardd goffa i alluogi ein cymunedau i fyfyrio a dangos eu gwerthfawrogiad o’n lluoedd arfog a’u teuluoedd.
      • Mae Enbarr hefyd wedi cynnal gweithdy ar reoli glaswelltir a hanes planhigion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth a natur leol.
  • Ffynnon Taf
      • Rydyn ni’n gweithio gyda’r contractwr peirianneg sifil ac adeiladu, Alun Griffiths ac aelodau o’r gymuned leol i helpu i ddiogelu’r amgylchedd lleol yn neuadd bentref Ffynnon Taf, sy’n agos at yr orsaf reilffordd leol.
      • Rydyn ni wedi adeiladu potiau plannu, basgedi crog, bocsys bywyd gwyllt, a hyd yn oed gardd fach i’r gymuned ei defnyddio a’i mwynhau.
      • Rydyn ni wedi plannu gardd perlysiau gyda ‘waliau gwyrdd’ o amgylch Neuadd y Pentref er budd y gymuned.
      • Mae’r safle wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymweliadau gan wahanol rywogaethau o adar yn ogystal â mwy o wenyn, gloÿnnod byw a phryfed eraill.
  • Hyb Cymunedol Twyn
      • Rydyn ni’n gweithio gyda Hyb Cymunedol Twyn i adeiladu gardd synhwyraidd i’r gymuned ei mwynhau.
      • Rydyn ni’n cefnogi bioamrywiaeth leol drwy ofalu am fannau gwyrdd, plannu blodau a phlanhigion i gefnogi bywyd gwyllt a phryfed. 
      • Bydd y cyllid hefyd yn helpu i gefnogi cynefinoedd bywyd gwyllt, defnyddio pridd o ansawdd da ac offer plannu mwy sy’n haws eu dal, ar gyfer ein gwirfoddolwyr sydd â nodweddion gwarchodedig. 
      • Bydd pobl o bob oed a chefndir yn elwa o’r prosiect cynhwysol hwn ac rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau’r cyfranogiad mwyaf posibl. 
      • Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau’r gofod newydd ac yn gweithio gyda’n gwirfoddolwyr i helpu i ofalu amdano. Bydd grwpiau cymunedol lleol hefyd yn gallu ei ddefnyddio ar gyfer cyfleoedd addysg a gwirfoddoli.
Made possible with Heritage Fund logo
Gwnaed yn bosibl gan Cronfa Treftadaeth

Mae TrC wedi cael grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gwerth £100,000 ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Dreftadaeth.