Ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio ein rhwydwaith
Rydyn ni’n trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’r gororau er mwyn iddo ddod yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae trafnidiaeth yn hanfodol i les cymdeithasol, economaidd, amgylchedd a diwylliannol Cymru. Dyna pam mae ein gwaith yn cyd-fynd yn llwyr â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru); helpu i greu Cymru rydyn ni i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.
Creu rhwydwaith sy’n addas ar gyfer y dyfodol
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sy’n hygyrch, yn gynaliadwy ac yn effeithlon, gyda chynaliadwyedd yn rhan annatod o’n sefydliad drwyddo draw.
Mae ein cynllun datblygu cynaliadwy yn nodi sut rydyn ni’n:
- Gwneud yn siŵr bod datblygu cynaliadwy yn rhan o’n diwylliant ac wedi’i wreiddio ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
- Nodi ein hymrwymiad a’n dull gweithredu mewn cysylltiad â datblygu cynaliadwy hyd at 2033.
- Pennu nodau, camau gweithredu a chyfrifoldebau clir.
- Bodloni gofynion deddfwriaeth a pholisïau perthnasol.
- Ymgymryd â gweithgareddau allweddol i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy.
Seilwaith gwyrdd
Mae seilwaith gwyrdd yn rhwydwaith strategol o fannau gwyrdd o ansawdd uchel a nodweddion naturiol eraill. Mae wedi’i gynllunio a’i reoli i gefnogi natur a bioamrywiaeth yn ogystal â dod â manteision ansawdd bywyd i gymunedau nawr, ac yn y dyfodol. Mae’n rhan bwysig o ‘gyfalaf naturiol’ y byd.
Mae ardaloedd trefol a’r mannau gwyrdd sydd ynddynt yn bwysig i bobl a bywyd gwyllt, gan greu cynefinoedd a chreu lleoedd y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt. Rydym yn chwilio am fwy o gyfleoedd i adeiladu seilwaith gwyrdd ar draws ein rhwydwaith i helpu i ddarparu ystod eang o fuddion. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd sy’n dod yn fwy cyffredin, gan gynnwys lleihau llifogydd yn sgil dŵr wyneb, llygredd, ‘effaith yr ynys wres’ a gwella storio carbon.
- Darparu cynefinoedd a chysylltedd ar gyfer bywyd gwyllt mewn ardaloedd trefol a chyfrannu at fioamrywiaeth heb unrhyw golled net / enillion net mewn prosiectau.
- Gwella iechyd corfforol a meddyliol drwy ddarparu mannau hamdden, annog teithio llesol, lleihau lefelau straen ac anghydraddoldebau iechyd drwy ddod â phobl yn nes at natur a gwella ansawdd aer.
- Cyfrannu at dargedau bioamrywiaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cynnal a gwella rhwydweithiau ecolegol gadarn a gwella gwasanaethau ecosystem.