Ein hymrwymiad i fioamrywiaeth

Mae diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn flaenoriaeth i ni.

Mae llawer o’n rheilffyrdd, ein ffyrdd a’n llwybrau cerdded a beicio yn gyforiog o fywyd gwyllt. Maen nhw’n gartref i lawer o wahanol rywogaethau o fflora a ffawna sy’n defnyddio’r cynefinoedd hyn ar gyfer cysgodi, bwydo a bridio. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n galed i warchod y fioamrywiaeth a’r ecosystemau sydd i’w cael ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru.

 

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn nodi sut byddwn yn diogelu ac yn gwella bioamrywiaeth, wrth ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n well, yn fwy integredig a mwy cynaliadwy. Mae gennym bum prif amcan:

  1. Diogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw effeithiau ar fioamrywiaeth ac ecosystemau yn cael eu hasesu a’u lliniaru’n briodol
  2. Rydym yn addo cyfathrebu ac ymgysylltu â’n staff, rhanddeiliaid a’r cyhoedd am y gwaith rydym yn ei wneud a pham
  3. Rydyn ni’n prif-ffrydio bioamrywiaeth yn ein gweithrediadau fel mater o drefn, bob amser yn seiliedig ar arferion gorau
  4. Mae cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sefydliadau bywyd gwyllt a chymunedau lleol yn hynod o werthfawr, ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau oes hir a llwyddiant parhaus unrhyw waith cadwraeth bioamrywiaeth rydyn ni’n ei wneud yn awr, ac yn y dyfodol
  5. Mae ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i wneud yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud – rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu bioamrywiaeth ac mae gennym weledigaethau uchelgeisiol ar gyfer sut y gallwn wneud hyn. Rydyn ni eisiau gosod esiampl fel arweinydd mewn rhwydweithiau trafnidiaeth trefol a gwledig, a hyrwyddo Cymru fel un sy’n arwain y ffordd fel cyrchfan dwristiaeth gynaliadwy o’r radd flaenaf.