Creu Cymru rydyn ni i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol
Mae ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Diogelu a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol
Mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn dylanwadu ar hunaniaeth ranbarthol, leol a diwylliannol ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at ansawdd bywyd, gan gynnwys mynediad, hygyrchedd a chynhwysiant cymdeithasol. Mae’n cyfrannu at wybodaeth, addysg, dealltwriaeth a’r economi leol a rhanbarthol. Mae’n darparu cyfleoedd hamdden a chyflogaeth. Mae hefyd yn rym pwerus mewn datblygu cynaliadwy.
Mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn cysylltu pobl a lleoedd; maen nhw’n hanfodol i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n galed i barchu a rhannu gwaddol ein rheilffyrdd ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory. Rydyn ni’n gwarchod nodweddion hanesyddol o arwyddocâd diwylliannol ac yn hyrwyddo treftadaeth a hanes y rhwydwaith rheilffyrdd a’i bobl er mwyn i atgofion a gwybodaeth fyw a pharhau.
Datblygu diwylliant bywiog
Mae ein hasedau hanesyddol, fel adeiladau gorsafoedd, yn helpu i greu ymdeimlad o le a hunaniaeth leol. Maen nhw’n rhoi cyfleoedd i gymunedau gysylltu’n ddiwylliannol gydag ymdeimlad o le a gofod.
Rydyn ni’n trawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth ond yn gwarchod a gwella ein hadeiladau a’n tirwedd ar yr un pryd er mwyn i ni adael gwaddol ystyrlon ar gyfer y dyfodol, gan barchu gwaddol y gorffennol.