Diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol

Mae trafnidiaeth yn cysylltu pobl a chymunedau, yn helpu busnesau i ffynnu, yn cefnogi swyddi ac yn creu ffyniant. Mae'n declyn pwerus a deinamig ar gyfer cydlyniad cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol.

Bydd Llwybr Newydd - Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn siapio trafnidiaeth yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae'n blaenoriaethu anghenion teithio pobl a'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae ein dull o ddatblygu cynaliadwy yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n amlinellu saith nod llesiant a phum ffordd o weithio i helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

Ym mis Mehefin 2024, daethom yn gorff a enwir o yn y ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol i ddrafftio a chyhoeddi amcanion llesiant ochr yn ochr â datganiad llesiant.

 

Ein hamcanion llesiant

Mae ein pedwar amcan llesiant yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cyflawni ein hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi datblygu'r rhain i integreiddio ac alinio â'r saith nod llesiant. Mae pob un o'n hamcanion corfforaethol yn effeithio'n uniongyrchol ar fwy nag un nod ac mae ganddo effeithiau cadarnhaol ar draws pob nod.

Amlinellir yr amcanion hyn yn ein datganiad llesiant. Byddant yn ein harwain er mwyn sicrhau bod ein holl benderfyniadau yn ystyried anghenion pobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol.

 

1. Galluogi pobl a chymunedau

Trwy ein dull sy’n canolbwyntio ar gymunedau, byddwn yn creu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gwasanaethu pawb yng Nghymru a'r gororau, fel eu bod yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio ar gyfer eu hanghenion teithio. Byddwn yn gweithio gyda'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu i ddeall eu hanghenion ac adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal.

Er mwyn cefnogi Cymru iachach, byddwn yn hyrwyddo cerdded, olwynio a beicio drwy greu seilwaith sy'n annog gweithgarwch corfforol ac yn lleihau rhwystrau i deithio llesol.

Byddwn yn darparu gwybodaeth deithio glir ac yn helpu'r rhai sy'n llai hyderus. Mae sicrhau bod ein rhwydwaith yn hawdd ei ddefnyddio yn lleihau anghydraddoldeb trafnidiaeth ac yn grymuso pobl i deithio'n annibynnol.

 

2. Bod o fudd i’r amgylchedd

Byddwn yn parhau i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach a mwy effeithlon sy'n grymuso pobl i deithio'n fwy cynaliadwy ac yn hyrwyddo bioamrywiaeth.

Gan weithio'n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid amgylcheddol, byddwn yn dylunio atebion trafnidiaeth arloesol sy'n lleihau allyriadau niweidiol ac yn integreiddio egwyddorion dylunio cynaliadwy sy'n cefnogi bywyd gwyllt a systemau ecolegol.

Byddwn yn effeithlon trwy ddilyn dull economi gylchol. Byddwn yn defnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu sy'n lleihau ein heffaith amgylcheddol ac yn adeiladu rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n gwarchod bioamrywiaeth.

 

3. Cefnogi ardaloedd lleol a'r economi

Rydym am i'n rhwydwaith trafnidiaeth helpu i dyfu economi Cymru a helpu cymunedau i ffynnu. Byddwn yn alinio ein prosiectau seilwaith â chyfleoedd i fusnesau lleol, gan gefnogi swyddi a gyrru ffyniant rhanbarthol.

Byddwn yn mabwysiadu'r dechnoleg ddiweddaraf, yn integreiddio atebion ac yn mynd i'r afael â fforddiadwyedd trafnidiaeth fel blaenoriaeth. Byddwn yn sicrhau bod ein rhwydwaith yn hygyrch i bob grŵp economaidd-gymdeithasol gyda mynediad cyfartal i waith, addysg a gwasanaethau hanfodol.

Trwy gynllunio ar y cyd, byddwn yn dylunio system drafnidiaeth sy'n cefnogi twf rhanbarthol, yn ysgogi arloesedd ac yn creu cyfleoedd ystyrlon i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.

 

4. Dyrchafu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r Gymraeg a darparu opsiynau carbon isel a fforddiadwy i wneud y celfyddydau, chwaraeon a diwylliant Cymru yn fwy hygyrch. Byddwn yn rhoi'r Gymraeg wrth wraidd ein gwasanaethau, ein seilwaith, ein harwyddion a'r negeseuon rydym yn eu cyfathrebu.

Byddwn yn cysylltu pobl â chyrchfannau diwylliannol, tirweddau hanesyddol a safleoedd treftadaeth trwy weithio gydag arbenigwyr diwylliannol ac arbenigwyr treftadaeth lleol a grwpiau cymunedol. Byddwn yn dilyn dull gweithredu sensitif er mwyn lleihau unrhyw effaith negyddol ar amgylcheddau hanesyddol neu warchodedig. Trwy'r dull cyfannol hwn, byddwn yn defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth i wasanaethu pobl, diogelu diwylliant a gwella cymunedau Cymru.