Ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio ein rhwydwaith a lleihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd. Mae ein gwaith yn cynnwys y canlynol:
- Trydaneiddio 172km o gledrau.
- Cyflwyno cerbydau rheilffyrdd newydd.
- Annog dulliau teithio mwy cynaliadwy.
- Helpu i greu llwybrau teithio llesol gwell a mwy hygyrch gyda’n partneriaid.
Creu rhwydwaith sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd
Rydyn ni’n creu rhwydwaith sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol am y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Sicrhau bod y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
- Asesu risgiau newid yn yr hinsawdd ar draws ein holl rwydweithiau a gweithrediadau.
- Llunio a gweithredu atebion sy’n lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
- Galluogi adferiad amserol o effeithiau tywydd garw.
- Cydweithio â phartneriaid allanol i leihau pa mor agored i niwed ydyn ni i effeithiau rhaeadrol yn y dyfodol.
Cynllun addasu a gallu i wrthsefyll yr hinsawdd
Rydyn ni’n datblygu ein cynllun addasu a gallu i wrthsefyll yr hinsawdd. Mae hyn yn cael ei arwain gan ofyniad Llywodraeth Cymru i:
“Sicrhau bod holl weithrediadau TrC sy’n cael eu cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru, yn cael eu llunio a’u darparu ar sail y data diweddaraf ar risg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd a bod cynlluniau cadarn ar waith i addasu i’r newid yn yr hinsawdd”.
- Mae’r cynllun yn seiliedig ar y canlynol
Tywydd gwael
Mae tywydd gwael yn effeithio ar ein rhwydwaith rheilffyrdd bob blwyddyn, gyda gwyntoedd cryf a stormydd yn achosi oedi a chanslo gwasanaethau. Mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o gynyddu pa mor aml a pha mor ddrwg fydd digwyddiadau tywydd eithafol i’n rhwydwaith gyda stormydd yn mynd yn fwy difrifol, gaeafau’n wlypach a thymheredd poethach yn yr haf.
Rydyn ni’n paratoi ein seilwaith a’n gweithrediadau ar gyfer effeithiau ein hinsawdd sy’n newid er mwyn i ni allu lleihau cymaint â phosib faint mae amodau tywydd gwael yn effeithio ar ein gwasanaethau.
Lleihau allyriadau ein cadwyn gyflenwi
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n cadwyn gyflenwi i helpu i leihau allyriadau lle bo hynny’n bosibl.
Mae dadansoddiad parhaus o allyriadau ein cadwyn gyflenwi yn golygu ein bod yn cael darlun cywir o’r ôl troed carbon o’r nwyddau a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu prynu. Wedyn, rydyn ni’n gweithio i ddod o hyd i gyfleoedd i leihau allyriadau fel rhan o’n targedau datgarboneiddio.