Amserlenni trenau Cymru a’r DU
Rydyn ni am eich helpu chi i gynllunio’ch taith gyda hyder, felly gwiriwch ein hamserlenni trên cyn ichi deithio i osgoi unrhyw newidiadau annisgwyl.
Ar adegau, bydd angen inni gyflwyno amserlenni newydd neu dros dro pan fydd gwaith hanfodol wedi’i gynllunio, neu os bydd unrhyw broblemau’n codi ar y rhwydwaith. Gwiriwch am unrhyw newidiadau i amserau a chysylltiadau trên gyda gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill cyn ichi deithio.
Gallwch gadw’n hysbys drwy ddefnyddio’n ap, sy’n darparu’r amserau trên diweddaraf ac sy’n eich cadw chi’n hysbys ynghylch eich taith.
Newid amserlen o ddydd Sadwrn 10 Hydref 2026
Newid dros dro i'r amserlen o ddydd Sadwrn 10 Hydref i ddydd Gwener 4 Rhagfyr
Rydym yn gwneud newidiadau i'n hamserlenni ar draws ein rhwydwaith i wella dibynadwyedd yn ystod tymor yr hydref.
Yn ystod yr hydref, gall dail sydd wedi cwympo gronni ar y rheilffordd ac, o'u cyfuno â lleithder, creu haen llithrig ar y rheilffyrdd tebyg i iâ du ar y ffyrdd. Gall hyn leihau tyniant, gan ei gwneud hi'n anoddach i drenau gyflymu a brecio'n effei.thlon.
Er mwyn helpu i gynnal gwasanaethau prydlon a dibynadwy, bydd rhai teithiau yn cael eu ail amseru ychydig, gan ganiatáu amser ychwanegol i yrwyr trên brecio a chyflymu'n ddiogel yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan gwymp dail.
Gwiriwch cyn i chi deithio, gan y gallai gwasanaethau adael gorsafoedd ychydig funudau'n gynharach nag arfer.
Dyma grynodeb o’r newidiadau mwyaf sylweddol
Wrecsam i Lerpwl (llinell Wrecsam i Bidston)
Bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn dechrau ac yn gorffen yn Wrecsam Cyffredinol. Ni fydd unrhyw wasanaethau bysiau yn lle trenau yn rhedeg rhwng Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Canolog. Bydd teithiau ar hyd y llwybr hwn yn cael eu hail-amseru tua 1-3 munud, gyda chysylltiadau yn cael eu cadw yn Shotton.
Llinell Maesteg
Bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau o Gaerdydd Canolog i Faesteg yn gadael Caerdydd 1-2 funud ynghynt.
Ni fydd y gwasanaeth 23:16 o Gaerdydd Canolog i Faesteg yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, er mwyn caniatáu i'r Trên Trin Rheilffordd redeg ar linell Maesteg.
Cynghorir cwsmeriaid i deithio ar y gwasanaeth 23:20 o Gaerdydd Canolog i Gaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr, lle bydd bws yn rhedeg i Faesteg.
Cyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog (llinell Dyffryn Conwy)
Mân ail-amseru gwasanaethau ar hyd y llwybr, gyda theithiau'n cymryd 2-3 munud yn hirach. Bydd trenau'n gadael Blaenau Ffestiniog ychydig yn gynt.
Amwythig i Gasnewydd (Gororau)
Mân ail-amseru gwasanaethau ar hyd y llwybr.
Amwythig i Birmingham
Mân ail-amseru gwasanaethau rhwng Amwythig a Wolverhampton, gyda rhai gwasanaethau yn gadael Amwythig ychydig yn gynharach.
Amwythig i Gaer a Crewe
Mân ail-amseru ar hyd y llwybr.
I gael manylion llawn ac i gynllunio'ch taith, gwiriwch cyn teithio trwy ymweld â trc.cymru a nodwch fanylion y daith o 10 Hydref ymlaen.
Newid amserlen o ddydd Sul 17 Mai 2026
O ddydd Sul 17 Mai, mae ein hamserlenni wedi newid. Gwiriwch fanylion eich taith am newidiadau i amserau neu blatfformau neu am unrhyw gysylltiadau i mewn i wasanaethau a weithredir gan gwmnïau trên eraill.
Dyma grynodeb o’r newidiadau mwyaf sylweddol
Arfordir a Gororau Gogledd Cymru
- Bydd y gwasanaeth bob awr o Fanceinion yn rhedeg i Gaergybi ac oddi yno yn lle Llandudno.
- Bydd y gwasanaeth bob awr o Lerpwl i Gaer yn cael ei ymestyn i Landudno.
- Bydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau o Ogledd Cymru i Birmingham, sydd bob dwy awr ar hyn o bryd, yn rhedeg i Gyffordd Llandudno ac oddi yno, nid Caergybi.
- Bydd rhagor o wasanaethau’n galw mewn gorsafoedd rhwng Caergybi a Bangor ac ni fydd y Fali bellach yn arhosfan ar gais yn unig.
- Bydd y gwasanaethau bob awr ar wahân o Wrecsam i Gaer ac o Gaer i Crewe yn cael eu cyfuno i fod yn un gwasanaeth drwodd.
Gorllewin Cymru
Mae rhai gwasanaethau Doc Penfro / Aberdaugleddau / Harbwr Abergwaun wedi cael eu hail-amseru ychydig gyda rhai'n gadael yn gynharach (dydd Llun - dydd Sul) ac mae gwasanaeth boreol ychwanegol i Ddoc Penfro wedi'i ychwanegu ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Cynghorir cwsmeriaid yn gryf i wirio cyn teithio, gan fod patrymau galw mewn gorsafoedd hefyd yn newid a gall trenau alw mewn gwahanol orsafoedd nag o'r blaen.
I gael manylion llawn ac i gynllunio'ch taith, gwiriwch cyn teithio trwy ymweld â trc.cymru a nodwch fanylion y daith o 17 Mai ymlaen.
Llyfrynnau amserlenni 2026
Os hoffech greu amserlen y gellir ei lawrlwytho, sy’n benodol i’ch taith chi, gallwch wneud hynny ar dudalen National Rail Enquiries.
Medi 2026
Abertawe - Amwythig | Lein Calon Cymru
Caerdydd - Manceinion / Caer / Cyffordd Llandudno / Caergybi
Caerdydd Canolog - Cheltenham Spa
Gorllewin Cymru - Abertawe a Caerdydd
Caergybi / Llandudno - Caer - Manceinion / Lerpwl
Cwm Rhymni - Caerffili - Caerdydd Canolog
Caerdydd i Benarth, Ynys y Barri a Bro Morgannwg
Tref Glynebwy - Casnewydd / Caerdydd Canolog
Mai 2026
Llandudno - Blaenau Ffestiniog
Newidiadau i amserlenni’r Metro
Gall amserlenni newid hefyd oherwydd gwaith o drawsnewid y metro ar draws ein rhwydwaith. Ewch i’n tudalen am y gwaith o drawsnewid y metro i gael rhagor o wybodaeth.
Ad-daliadau yn sgil newidiadau i amserlenni
Os ydych chi eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau, byddwch chi’n gallu defnyddio eich tocynnau ar wasanaethau trên eraill TrC. Fel arall, gallwch chi wneud cais am ad-daliad drwy fynd i’n tudalen ad-daliadau.
Rydyn ni’n argymell defnyddio’n cynllunydd teithiau i aros yn gwbl hysbys ynghylch amserau trên, unrhyw newidiadau iddynt a theithiau sydd wedi cael eu canslo.
Cwestiynau cyffredin
Sut alla i ddod o hyd i’r amserau trên mwyaf cywir ar gyfer fy nhaith?
Y ffordd orau i wirio amserau trên yw drwy ddefnyddio’n cynllunydd teithio neu ap TrC. Caiff yr offer hwn eu diweddaru’n rheolaidd i ddangos unrhyw newidiadau a gynlluniwyd neu unrhyw amserlenni dros dro ar draws rhwydwaith Cymru a’r DU.
Pam ydy amserlenni trên yn newid?
Rydyn ni’n diweddaru’n amserlenni i wella’n gwasanaethau, galluogi gwaith cynnal a chadw hanfodol, neu pan fod prosiectau pwysig fel ein gwaith trawsnewid Metro ar waith. Rydyn ni bob amser yn ceisio darparu gwybodaeth glir er mwyn ichi gynllunio ymlaen llaw.
Beth ddylwn i wneud os ydy amserau fy nhrên wedi newid ers imi brynu tocyn?
Os oes yna newid amserlen sy’n effeithio ar eich taith, rydyn ni’n hapus ichi ddefnyddio’ch tocyn ar wasanaeth TrC arall. Os nad yw’r amserau newydd yn gweithio ichi, gallwch fynd i’n tudalen ad-daliadau i gael eich arian yn ôl.
Ymhle alla i gael copi o amserlen ar gyfer trên penodol?
Gallwch ddod o hyd i restr o lyfrynnau ag amserlenni cyfredol ar y dudalen hon. Am amserlen wedi’i deilwra i’ch llwybr penodol chi, rydyn ni’n argymell defnyddio’r teclyn a ddarperir gan National Rail Enquiries.
Ydy’r amserau trên yng Nghymru'r un peth ar y penwythnos?
Mae amserau trên yn aml yn wahanol ddydd Sadwrn a Sul er mwyn galluogi gwaith gwella traciau neu er mwyn rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith ar lwybrau sy’n boblogaidd dros y gwyliau. Gwiriwch eich dyddiad teithio penodol bob amser o 17 Mai gan ddefnyddio’n cynllunydd teithio.
-
Oeddech chi’n gwybod?Ymunwch â'n panel cwsmeriaidRhannwch eich barn a helpwch i lunio'r ffordd y mae Cymru'n teithio.Dweud eich dweud