Swansea Marina

Ydych chi’n chwilio am wyliau mewn dinas gyda thraethau hardd, teithiau cerdded arfordirol a digon i’w ddarganfod ar stepen eich drws? Mae Abertawe yn dod â’r gorau o fywyd y ddinas ac arfordir Cymru ynghyd. O ardal fywiog y glannau a siopau annibynnol i Benrhyn Gŵyr, mae rhywbeth at ddant pawb yn Abertawe.

Boed hynny’n benwythnos i ffwrdd, cyfle i ymweld â theulu a ffrindiau, neu grwydro De Cymru am y tro cyntaf, fe wnawn ni eich helpu i gyrraedd yno ar y trên.

 

Ble mae Abertawe?

Mae Abertawe yn ddinas arfordirol yn ne-orllewin Cymru, tua awr i’r gorllewin o Gaerdydd ar y trên. Mae'r ddinas, sy’n eistedd ar lannau Bae Abertawe, yn borth i Benrhyn Gŵyr, sef cartref rhai o olygfeydd arfordirol mwyaf trawiadol Cymru. Ym 1956, Penrhyn Gŵyr oedd y man cyntaf yn y DU i gael ei ddynodi’n ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’, ac mae bellach yn cael ei gydnabod fel Tirwedd Cenedlaethol.

Gyda chysylltiadau rheilffordd uniongyrchol o ddinasoedd fel Caerdydd, Bryste, Birmingham a Llundain, mae Abertawe yn gyrchfan gwych ar gyfer taith undydd, gwyliau byr neu wyliau hirach.

 

Pam ymweld ag Abertawe?

Mae Abertawe yn cynnig y cymysgedd perffaith o arfordir, diwylliant a chefn gwlad. Treuliwch y bore’n crwydro canol y ddinas, yn pori drwy’r stondinau ym marchnad dan do Abertawe neu’n dysgu mwy am dreftadaeth ddiwydiannol a morwrol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cyn mynd i lan y môr i dreulio’r prynhawn wrth y dŵr.

Os byddwch yn mentro y tu hwnt i’r ddinas, fe welwch bentref glan môr y Mwmbwls, sy’n enwog am ei bier Fictoraidd, ei siopau annibynnol, ei gaffis a’i hufen iâ. Ar hyd yr arfordir o’r Mwmbwls, mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig traethau tywodlyd mawr, baeau tawel, a llwybrau cerdded arfordirol trawiadol.

Ydych chi’n caru llenyddiaeth? Gallwch hefyd ddilyn ôl troed Dylan Thomas, y mae ei fywyd a’i waith yn parhau i fod â chysylltiad agos ag Abertawe.

 

Teithio i Abertawe ar drên

Mae teithio ar drên yn golygu y gallwch gyrraedd canol y ddinas heb boeni am draffig na pharcio. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i gerdded i ganol y ddinas o orsaf drenau Abertawe, lle gallwch fwynhau digonedd o siopau, caffis, bariau a bwytai. Mae gorsaf fysiau Abertawe wedi’i lleoli 15 munud ar droed o Ganolfan Siopa’r Quadrant. O’r fan hon gallwch ddod o hyd i gyfleoedd teithio rheolaidd i gyfeiriad y Mwmbwls, Penrhyn Gŵyr a chyrchfannau eraill ar draws y Bae.

Cyn i chi deithio, defnyddiwch ein cynllunydd teithiau i wirio amseroedd trenau byw a phrynu eich tocynnau trên ar ein gwefan neu ap i sicrhau ein prisiau rhataf gan osgoi ffioedd archebu.

Mae llwybrau poblogaidd yn cynnwys:

 

Cynllunio eich ymweliad ag Abertawe

Ydych chi’n barod i archwilio beth sydd gan Abertawe i’w gynnig? Gallwn ni eich helpu i gyrraedd yno ar y trên, er mwyn i chi allu canolbwyntio ar fwynhau eich diwrnod.