Mynd o Lundain i Abertawe? Teithiwch ar y trên a chyfnewid y brifddinas am Abertawe, i fwynhau’r glannau, y marchnadoedd c arfordir Gŵyr sy’n hawdd ei gyrraedd.
Os ydych chi’n dechrau ar eich taith yn Llundain Euston, fel arfer bydd angen i chi deithio i Lundain Paddington, lle mae trenau uniongyrchol yn gadael am Abertawe. Mae’r gwasanaethau uniongyrchol cyflymaf o Lundain Paddington yn cymryd tua 2 awr 42 munud, sy’n golygu bod y trên yn ddewis cyfleus ar gyfer gwyliau dinesig neu arhosiad hirach yn ne Cymru.
Prynwch eich tocynnau drwy Trafnidiaeth Cymru, ac ni fyddwch yn talu ffioedd archebu.
- Hyd y daith: Tua 3 awr 50 munud o Lundain Euston, yn dibynnu ar eich cysylltiad ar draws Llundain
- Trenau uniongyrchol: Dim un o Euston; mae gwasanaethau uniongyrchol yn rhedeg o Lundain Paddington i Abertawe
- Amlder: Tua 20 trên uniongyrchol o Lundain i Abertawe bob dydd
- Trên uniongyrchol cyntaf: Tua 05:23 o Lundain Paddington
- Trên uniongyrchol olaf: Tua 22:49 o Lundain Paddington
- Gadael: Llundain Euston, gan drosglwyddo ar draws Llundain i Lundain Paddington
- Gorsaf rydych yn teithio iddi: Abertawe
- Arbed ar docynnau: Prynwch docynnau Advance yn gynnar, defnyddiwch Gerdyn Rheilffordd neu dewiswch docyn Cyfnodau Tawelach os oes un ar gael
Gall amseroedd trenau amrywio, yn enwedig ar benwythnosau, felly defnyddiwch ein hadnodd cynllunio teithiau cyn teithio.
Pam teithio ar drên o Lundain i Abertawe?
Gadael Llundain am ychydig ddyddiau? Mae Abertawe yn cynnig atyniadau dinas ac arfordir Cymru i gyd yn yr un lle.
- Treulio amser wrth y dŵr - Mae Bae Abertawe yn ymestyn ar hyd ymyl y ddinas, gyda’r marina, y promenâd a glan y môr i gyd o fewn cyrraedd hawdd. Am ddiwrnod hirach ar yr arfordir, ewch allan i’r Mwmbwls neu i Benrhyn Gŵyr.
- Mynd i weld ochr arall i hanes Cymru - Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd stori diwydiant ac arloesi yng Nghymru, ac mae cysylltiad Abertawe â Dylan Thomas yn dal yn amlwg ar draws y ddinas.
- Galw heibio Marchnad Abertawe - Mae marchnad dan do fwyaf Cymru yn lle da i brynu cynnyrch lleol, cael cinio neu flasu ffefrynnau Cymreig gan gynnwys bara lawr a phice ar y maen.
- Treulio amser ym Mhenrhyn Gŵyr - Ychydig y tu allan i Abertawe, daeth Penrhyn Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU ym 1956 ac mae bellach yn cael ei gydnabod fel Tirwedd Genedlaethol.
- Mynd i’r Mwmbwls - Mae siopau annibynnol, caffis, teithiau cerdded arfordirol a’r pier Fictoraidd yn gwneud y Mwmbwls yn ychwanegiad hawdd at wyliau yn Abertawe.
Angen mwy o syniadau? Mae ein canllaw i bethau i’w gwneud yn Abertawe yn cynnwys amgueddfeydd, atyniadau i deuluoedd, y Mwmbwls, Penrhyn Gŵyr a gweithgareddau rhad ac am ddim.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru
Awgrymiadau gorau ar gyfer prynu eich tocynnau trên o Lundain i Abertawe
Mae sawl ffordd o gadw cost eich taith i lawr:
- Tocynnau Advance* - Prynwch ymlaen llaw i gael gafael ar rai o’r prisiau rhataf
- Cardiau Rheilffordd - Gall Cardiau Rheilffordd cymwys arbed hyd at draean i chi ar lawer o deithiau
- Tocynnau Cyfnodau Tawelach - Gall teithio y tu allan i’r cyfnodau prysuraf gynnig gwell gwerth am arian
- Tocynnau unrhyw bryd - Defnyddiol os oes angen mwy o hyblygrwydd arnoch chi o ran pryd rydych chi’n teithio
- Prynu’n uniongyrchol - Prynwch drwy ein gwefan neu ap, a does dim ffioedd archebu
Mae ein ap hefyd yn gadael i chi wirio amseroedd trenau a chymharu opsiynau tocynnau mewn un lle.
*Mae tocynnau Advance yn gyfyngedig o ran nifer ac yn amodol ar argaeledd. Drwy brynu tocyn yn gynharach, bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi ddod o hyd i’r tocynnau rhataf.
Cwestiynau cyffredin
Alla i gael trên uniongyrchol o Lundain Euston i Abertawe?
Na. Mae trenau uniongyrchol o Abertawe yn gadael o Lundain Paddington yn hytrach nag Euston. Os ydych chi’n dechrau yn Llundain Euston, bydd angen i chi deithio ar draws Llundain i Paddington, cyn parhau â’ch taith i Abertawe.
Faint o amser mae’r trên o Lundain i Abertawe yn ei gymryd?
Mae’r trenau uniongyrchol cyflymaf o Lundain Paddington i Abertawe yn cymryd tua 2 awr 42 munud. Os ydych chi’n teithio o Lundain Euston, caniatewch amser ychwanegol i deithio ar draws Llundain a gwneud eich cysylltiad.
Pa mor aml mae trenau’n teithio o Lundain i Abertawe?
Mae tua 20 o drenau yn teithio’n uniongyrchol o Lundain Paddington i Abertawe bob dydd, er bod amlder yn amrywio yn ôl dyddiad. Edrychwch ar ein hadnodd cynllunio teithiau i weld yr amserlen ddiweddaraf.
Pryd mae’r trên cyntaf o Lundain i Abertawe?
Mae’r gwasanaeth uniongyrchol cyntaf o Lundain Paddington tua 05:23 fel arfer. Gall amseroedd newid yn dibynnu ar y diwrnod, felly gwnewch eich gwaith cartref cyn teithio.
Faint o’r gloch mae’r trên olaf o Lundain i Abertawe?
Mae’r trên uniongyrchol olaf o Lundain Paddington i Abertawe tua 22:46 fel arfer. Gall amserlenni fod yn wahanol ar benwythnosau neu yn ystod gwaith peirianyddol.
Prynwch eich tocynnau trên o Lundain i Abertawe drwy Trafnidiaeth Cymru heb dalu ffioedd archebu.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-