Travel to Chester by Train

Ychydig dros ffin Cymru mae Caer, dinas gyfoes sydd â threftadaeth gyfoethog.

P'un a ydych chi yn ymgolli mewn 2,000 o flynyddoedd o hanes, yn cael blas ar y siopau, caffis a bwytai rhagorol, yn ymlacio ar lan yr afon neu'n treulio diwrnod yn y rasys. Mae gan Gaer rywbeth i'w gynnig i'r teulu cyfan. Teithiwch yno ar y trên a dim ond deng munud mae'n cymryd ar droed o'r orsaf i gyrraedd waliau'r ddinas.

 

Trenau i Gaer

Teithio ar y trên i Gaer?  Rydym yn rhedeg gwasanaethau o wahanol rannau o'r wlad i'r dref boblogaidd hon, gan gynnwys Manceinion, Caerdydd a mwy. Dewch o hyd i rai o'n llwybrau mwyaf poblogaidd i Gaer yma:

 

Tocynnau trên i Gaer

Os archebwch eich tocynnau trên i Gaer yn uniongyrchol ar-lein neu ar ein ap, ni fyddwch yn derbyn unrhyw ffioedd archebu. Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn rheilffordd neu brynu tocynnau ymlaen llaw am ostyngiadau pellach. Teithiwch gyda Thrafnidiaeth Cymru heddiw.

 

Atyniadau rhagorol yng Nghaer

  • Cathedral at Height, taith y tu ôl i'r llenni o Eglwys Gadeiriol Gothig Caer a mynnwch y golygfeydd gorau o'r ddinas o ben y tŵr.
  • The Rows - cyfle i siopa yn yr orielau canoloesol 700 mlwydd oed hyn - dau lawr o siopau o enwau cyfarwydd i rai bach annibynnol.
  • Mordaith ar yr afon - beth am olygfa hollol wahanol o'r ddinas gyda mordaith o'r ddinas neu fordaith gyda the prynhawn ar hyd Afon Dyfrdwy gyda ChesterBoat.
  • Rasys Caer - profi gwefr rasio, neu chwarae gêm polo yng nghwrs rasio hynaf Prydain - 25 munud ar droed o'r orsaf.
  • Sw Caer - archwilio 125 erw o gynefinoedd a dros 21,000 o anifeiliaid egsotig a rhai sydd mewn perygl, ychydig filltiroedd i'r gogledd o'r ddinas.

 

Tocynnau mynediad i Sw Caer am bris gostyngol

Mae Sw Caer yn atyniad poblogaidd i'r teulu cyfan. Mae'n gartref i dros 21,000 o anifeiliaid egsotig a rhai sydd mewn perygl; mae'n lle diddorol ac yn addysgol i blant.

Trefnu ymweliad? Gall cyrraedd y sw ar y trên arbed arian i chi mewn mwy nag un ffordd. Dangoswch eich tocyn trên TrC wrth gyrraedd a chewch ail docyn mynediad i'r sw am hanner y pris.

Mae teithio i Sw Caer ar y trên yn hawdd. Cymerwch y bws X1 o'r tu allan i orsaf Caer a byddwch yn y sw mewn dim ond 15 munud a mwynhewch eich diwrnod. Prynwch eich tocynnau sw heddiw.

  • Telerau ac amodau
      • Un tocyn hanner pris am bob tocyn pris llawn a brynir. Er enghraifft, gall 2 oedolyn â 2 blentyn (1-17 oed) gael tocyn am hanner pris.

      • Mynediad am ddim i fabanod o dan 12 mis bob amser.

      • Rhaid bod plant o dan 14 oed yng nghwmni oedolyn.

      • Rhaid dangos tocyn trên dilys ar gyfer y diwrnod hwnnw rhwng yr orsaf gyrchfan yng Nghymru a Chaer ar gyfer pob aelod o'r grŵp sy’n ymweld â’r sw.

      • Nid oes angen archebu ymlaen llaw, mae'r cynnig hwn ar gael ar y diwrnod a gallwch gasglu eich tocynnau o’r swyddfa docynnau ger gatiau'r fynedfa.

      • Nid yw’r cynnig yn cynnwys tocynnau am ddim i ofalwyr ac mae’n ddilys i oedolion neu blant sydd wedi talu am docyn yn unig.

      • Mae gan Sw Caer yr hawl i dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

 

Beth i’w wneud yn ystod penwythnos yng Nghaer

Mae Caer wedi cael ei henwebu fel un o ddinasoedd harddaf Ewrop, ac mae'n hawdd gweld pam. Glaw neu hindda, mae digon i'ch cadw'n brysur.

Dewch i ddarganfod hanes Rhufeinig Caer ar daith gerdded o amgylch muriau dinas hynaf, hiraf a mwyaf cyflawn Prydain. Lawrlwythwch ap Chester Walles Quest i gael heriau, ffeithiau a straeon diddorol ar hyd y ffordd, neu ewch ar Daith Rufeinig dywys gyda'ch Canwriad personol. Ewch i Amffitheatr Rufeinig fwyaf y wlad - mae'r mynediad yn rhad ac am ddim - yna ymgollwch eich hun ymhlith y creiriau archeolegol yn Amgueddfa Grosvenor.

Cewch fwynhau gwylio adar ysglyfaethus anhygoel gyda phrofiad o hebogyddiaeth i'r teulu cyfan ar dir yr eglwys gadeiriol. Mae arddangosfeydd hedfan dyddiol, ymlusgiaid, tiroedd hardd a llwybrau natur plant.

Siopa am drysorau a bargeinion - Mae Caer yn llawn o bwtics bach, siopau annibynnol a siopau stryd fawr. O lwybrau cerdded pren dan do The Rows i ganolfan Cheshire Oaks ychydig i'r gogledd o'r ddinas, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i rywbeth arbennig beth bynnag yw eich cyllideb. Neu beth am ymweld â Marchnad Dan Do Caer - mae yno bopeth o gynnyrch lleol ffres, llyfrau a cherddoriaeth, i wisg ffansi, nwyddau garddio a nwyddau cartref.

Mwynhewch wyliau a sioeau gyda rhaglen o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn i'r teulu cyfan. Mae yna  theatr awyr agored ger yr afon yn yr haf, cyfres amrywiol o wyliau: bwyd, cerddoriaeth, ffilm a llenyddiaeth, a'r theatr Storyhouse, llyfrgell, bwyty a sinema. Trefnwch eich taith a darganfod beth sydd ymlaen yng Nghaer heddiw.

 

Teithio i Gaer ar ein gwasanaethau Dosbarth Cyntaf

Mae ein gwasanaeth Dosbarth Cyntaf rhwng Caerdydd a Chaergybi yn galw yng Nghaer. Beth am deithio mewn steil? Mae ein gwasanaeth gweini Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol rhagorol a gaiff eu gweini i'ch bwrdd.

Dosbarth Cyntaf Mae tocynnau ar gael i deithio rhwng Caer a lleoliadau dethol. Darganfyddwch a yw'r rhain ar gael ar gyfer eich taith  pan fyddwch yn prynu eich tocyn.

Gallwch brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar ein ap a'n gwefan, yn ein swyddfa docynnau neu beiriant tocynnau.