Ffordd hawdd o deithio.
Mae trenau o Fanceinion i Gaer yn berffaith ar gyfer trip diwrnod, ymweliad gwaith neu drip i’r teulu, ac maen nhw’n ffordd wych o archwilio llefydd.
Faint o amser mae trên o Fanceinion i Gaer yn ei gymryd?
Mae ein gwasanaethau o Fanceinion i Gaer yn cymryd ychydig dros awr ac yn rhedeg drwy’r dydd rhwng tua 05.00 a 23.45. Mae hyn yn golygu bod digon o amseroedd ar gael, ac mae ein tocynnau Unrhyw Bryd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi ar eich taith. Rydyn ni hefyd yn cynnig Wi-Fi am ddim, felly gallwch weithio ar y ffordd neu fynd ati i ymchwilio i fannau i ymweld â nhw.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pam teithio o Fanceinion i Gaer?
Mae dinas hynafol Caer, gyda'i hamddiffynfeydd Rhufeinig adnabyddadwy o garreg goch, yn gyrchfan boblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae archeolegwyr yn darganfod cyfoeth o arteffactau wrth gloddio'r amffitheatr fawr sydd y tu allan i'r waliau, gyda llawer o'u trysorau yn cael eu harddangos yn Amgueddfa drawiadol y Grosvenor. Mae’r amgueddfa ar frig y rhestr o bethau i'w gwneud i’r rhai sy'n hoffi hanes.
Mae nifer o atyniadau addas i deuluoedd yng Nghaer, gan gynnwys Arsyllfa Jodrell Bank. Cafodd y safle statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i gydnabod ei effaith ddiwylliannol a gwyddonol sylweddol. Mae Sw Caer yn ymweliad hanfodol arall, a thra bo chi yno beth am fabwysiadu anifail? Mae hyn yn helpu eu prosiectau cadwraeth rhyngwladol parhaus yn enfawr, ac yn anrheg anghyffredin i rywun.
Cyn mynd ar y trên a throi am adref, beth am weld sioe yn y Storyhouse Theatre. Mae gan y safle trawiadol hwn raglen o ddigwyddiadau a pherfformiadau byw drwy gydol y flwyddyn, ac mae nifer o fwytai gosgeiddig o fewn cyrraedd hawdd - ffordd berffaith i orffen eich diwrnod yng Nghaer.
Gyda’n ap y gellir ei lwytho i lawr, gallwch archebu tocynnau o Fanceinion i Gaer a gwirio amserlenni trenau wrth i chi deithio, gan roi mwy o amser i chi dreulio yn y ddinas ogoneddus hon. Bydd ein ffrwd X yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw adroddiadau teithio wrth iddyn nhw ddigwydd.
Trenau o Fanceinion Piccadilly
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-