Os oes angen mynd i Aberystwyth ar gyfer gwaith, neu seibiant penwythnos hir yn y gyrchfan glan môr ogoneddus hon, neidiwch ar y trên, fe gewch daith esmwyth ac ymlaciol.

 

Pa mor hir yw'r trên o Fanceinion i Aberystwyth?

Gall trenau o Fanceinion i Aberystwyth gymryd rhwng 3 awr a 45 munud i bum awr, yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswch. Mae digon o amser i fwynhau golygfeydd prydferth mynyddoedd y Cambria neu fanteisio i'r eithaf ar y Wi-Fi ar y trên.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Fanceinion i Aberystwyth ar y trên?

Bydd y trên yn ymlwybro drwy Fynyddoedd y Cambria i arfordir gorllewinol trawiadol Cymru.

Mae tref farchnad hardd Aberystwyth yn gorwedd ar Fae hardd Ceredigion ac mae ganddo Bromenâd trawiadol iawn, milltir o hyd.

O'r dref, sylwch ar y golygfeydd ysgubol ar draws y bae. Mae hyd yn oed Camera Obscura ar gael, gyda lens enfawr 14 modfedd, un o'r mwyaf yn y byd.

Ydych chi'n hoffi hanes? Ewch i grwydro'r Mynydd Arian i ddarganfod bywyd o dan y ddaear trwy archwilio twneli mwynglawdd arian a phlwm o’r 19eg ganrif. Uwchben y ddaear, gallwch weld y peiriannau enfawr a'r olwynion dŵr sy'n dal i droi. Mae'n gipolwg rhyfeddol ar ddyddiau a fu.

Ydych hi'n caru siopa? Mae gan ardal siopa stryd fawr Aberystwyth yr holl siopau poblogaidd, gyda digon o labeli dylunwyr i gadw ymddiddori mewn ffasiwn yn hapus. Os ydych chi yn chwilio am rywbeth mwy anarferol, edrychwch yn y bwtics annibynnol ar gyfer gemwaith wedi'i wneud â llaw neu wydr stiwdio a chrochenwaith. Mae dillad gwau hardd, cerameg a danteithion a gynhyrchir yn lleol oll yn eich disgwyl.

Ymlaciwch ar y trên ar y daith yn ôl i Fanceinion ar ôl diwrnod o hwyl yn mwynhau popeth sydd gan Aberystwyth i'w gynnig. Trwy lawrlwytho ein ap ffôn clyfar sy'n hawdd i'w ddefnyddio, byddwch yn gallu clywed am eich holl gynigion arbennig i arbed arian, gan gynnwys tocynnau teithio grŵp. Maen nhw'n rhagorol ar gyfer ffrindiau sydd am dreulio diwrnod allan.