Couple walking through Stevenson Square in the Northern Quarter

Manceinion yw un o'r lleoedd mwyaf cyffrous i ymweld ag ef yn y Deyrnas Unedig. Yn llawn profiadau bythgofiadwy, mae rhywbeth at ddant pawb, p'un a ydych chi'n chwilio am brofiadau diwylliannol, chwaraeon, bywyd nos, anturiaethau sy'n addas i'r teulu neu hwyl a sbri.

Teimlwch wefr y ddinas fywiog hon, y sîn gerddoriaeth enwog, timau pêl-droed eiconig, hanes chwyldroadol a chymdogaethau sydd ar flaen y gad o ran chwiwiau a ffasiwn. Archwiliwch y bariau, bwytai, siopau, theatrau ac amgueddfeydd unigryw ac annibynnol sydd gan Fanceinion i'w cynnig. 

Darganfyddwch fwy a dechreuwch gynllunio eich taith nesaf.

 

Newydd ar gyfer 2025

Mae Manceinion yn adnabyddus am ei cherddoriaeth ac adloniant byw ac mae sioeau anhygoel yn dod i’r ddinas yn 2025. Dewch i weld rhai o sêr mwyaf y byd, gan gynnwys Cyndi Lauper a Sabrina Carpenter yn y Co-op Live, neu Peter Kay yn yr AO Arena.

Mae'r bwyd a diod arbennig a gynigir yma yn parhau i godi chwant bwyd ar ymwelwyr i’r ddinas. Profwch daith unigryw trwy fwyd, celf a'r ddinas gyda bwyty unigryw yn seiliedig ar gysyniad, Where The Light Gets In: A Play In The City neu mwynhewch y fwydlen flasu arbennig yn Skof, y bwyty unigol cyntaf i’r cogydd Tom Barnes ym Manceinion, sy'n canolbwyntio ar sgiliau, cynhwysion o ansawdd a symlrwydd.

Archwiliwch waith a thechneg yr arlunydd tirluniau chwedlonol Prydeinig JMW Turner yn yr arddangosfa newydd yn y Whitworth. Mae JMW Turner: In Light and Shade yn gyfle prin i weld y Liber Studiorum yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd. Darganfyddwch rôl flaenllaw Manceinion mewn cynyrchiadau ffilm a theledu gyda The Locationist, yr unig daith ffilm a lleoliadau pwrpasol yn y ddinas, neu crwydrwch ar eich cyflymder eich hun gyda'r llwybr cerdded ffilm a theledu newydd.

Mae hanner tymor mis Chwefror yn dod â llu o weithgareddau hwyliog i'r teulu cyfan. Caiff Manceinion ei thrawsnewid yn faes chwarae enfawr gyda'r ŵyl Super Duper Family Festival gyntaf, gyda phedwar diwrnod o weithgareddau am ddim i'w mwynhau. Yn ogystal â hyn, paratowch ar gyfer antur epig o wyddoniaeth ar raddfa enfawr a bioleg wych gyda Operation Ouch! Brains, Bogies and You yn yr Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant.

 

Trenau i Fanceinion

Manceinion yw un o'r dinasoedd mwyaf cysylltiedig yn y DU, ac rydym yn rhedeg gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i'r ddinas o wahanol gyrchfannau, gan gynnwys Caerdydd, Caer a mwy. Mae'n hawdd cyrraedd Manceinion ar y trên. Gallwch hyd yn oed arbed hyd at hanner y pris* ar deithiau trên i Fanceinion gyda'n Tocynnau Advance. Mae gennym ystod o ostyngiadau pan fyddwch yn prynu eich tocynnau gyda ni os oes gennych gerdyn rheilffordd. Prynwch eich tocynnau trên i Fanceinion gyda ni ar - lein neu ar ein ap heddiw. Nid ydym yn codi ffioedd archebu. Dewch o hyd i rai o'n llwybrau mwyaf poblogaidd i Fanceinion isod:

 
 

 

Pam ymweld â Manceinion?

Mae sîn gelfyddydol a diwylliannol Manceinion yn ffynnu. Cewch eich ysbrydoli gan yr arddangosfeydd yn Oriel Gelf Manceinion neu'r Whitworth sy’n newid o hyd, cewch brofi digwyddiadau bythgofiadwy yn Stiwdios Aviva, a mwynhau perfformiadau sydd wedi ennill gwobrau yn y Palace Theatre.

Nid oes modd sôn am Fanceinion heb sôn am bêl-droed. P'un a yw'n ddiwrnod gêm neu'n ddiwrnod heb gêm yn cael ei chwarae, mae rhywbeth yn digwydd bob amser gyda theithiau o gwmpas y stadiwm a'r Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol.

Mae Manceinion yn adnabyddus am ei cherddoriaeth ac adloniant byw; mae'r AO Arena a’r Co-op Live yn gweld rhestr amrywiol tu hwnt o artistiaid sydd ar frig y siartiau yn dod i berfformio yno, a gallwch ddarganfod y gorau o artistiaid newydd Manceinion gyda gigs mewn tafarndai a chlybiau fel Night and Day, YES a Band on the Wall.

Erbyn hyn mae'r ddinas yn dechrau dod yn gyrchfan fyd-enwog ar gyfer bwyd a diod. Gyda bwytai a bariau newydd yn agor bob wythnos, mae'r ddinas yn prysur sefydlu ei hun fel un o gyrchfannau bwyd mwyaf cyffrous y DU.

Camwch i mewn i sîn ffasiwn ffyniannus y ddinas a chewch dreulio diwrnod cyfan yn siopa mewn siopau adrannol moethus fel Selfridges a Harvey Nichols neu siopwch yn lleol a phorwch drwy siopau boutique annibynnol yn y Northern Quarter.

Archebwch eich taith i Fanceinion heddiw.

 

Atyniadau heb eu hail ym Manceinion

  • Taith o gwmpas Stadiwm Dinas Manceinion - cerddwch yn ôl troed eich hoff chwaraewyr gyda'r daith ddiddorol hon y tu ôl i’r llenni o gwmpas Stadiwm Etihad.
  • Teithiau tywys a phrofiadau blasu wedi’u harwain gan Manchester Gin - gyda jin a thonig yn eich llaw, cewch ddarganfod hanes Gin Manceinion, mynd ar daith o amgylch y ddistyllfa, dysgu am y broses gynhyrchu - a hynny oll tra’n mwynhau profiad blasu wedi’i dywys.
  • Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant - wedi’i hysbrydoli gan syniadau sydd wedi newid y byd - yn y gorffennol a'r presennol - ar safle terfynfa reilffordd ryng-ddinas gyntaf y byd.
  • Yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol - y lle i rannu straeon am hoff gêm pawb. Archwiliwch y galerïau a phrofwch eich sgiliau gyda gemau rhyngweithiol.
  • Llyfrgell Chetham - yn gartref i gasgliad mawr sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol, ewch ar daith o gwmpas y llyfrgell gyhoeddus hynaf yn y byd Saesneg ei iaith.
  • Stiwdios Aviva - cyrchfan fyd-eang ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant celfyddydol, sy'n cynnig rhaglen flwyddyn gyfan o waith creadigol, cerddoriaeth a digwyddiadau arbennig gwreiddiol.

 

Ble i aros

Mae'r opsiynau llety ym Manceinion yn darparu ar gyfer pob chwaeth a chyllideb. P'un a yw'n well gennych wely a brecwast clyd, gwesty sba moethus, neu lety sy’n addas ar gyfer grŵp mawr er mwyn rhannu profiadau, mae Manceinion yn cynnig arhosiad cofiadwy i bawb.

Darganfyddwch fwy.

 

Sut i dreulio penwythnos ym Manceinion

Gyda chymaint i'w weld a'i wneud mewn dinas llawn atyniadau di-ri, mae Manceinion yn berffaith ar gyfer taith fer dros benwythnos neu wyliau i’r teulu cyfan. Dewiswch ran o'r ddinas ac ewch i archwilio.

Mae canol y ddinas yn byrlymu ag orielau, amgueddfeydd a lleoliadau cerddoriaeth, heb sôn am siopau, tafarndai a bwytai gwych. Gall y rhai sy’n dwlu ar siopa ymweld â siopau dylunwyr ar King Street ac Exchange Square. I’r rhai sy’n angerddol dros ddiwylliant, mae gan Oriel Gelf Manceinion gasgliad gwych o gelf gain, celf addurniadol a gwisgoedd. Ewch â'r plant i Amgueddfa Manceinion - mae'n rhad ac am ddim ac mae ganddi dros bedair miliwn o wrthrychau sy'n rhychwantu sgerbydau deinosoriaid ac arteffactau hynafol i dechnoleg a'r amgylchedd. Neu ewch i'r Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol lle mae mwy na 140,000 o eitemau sy'n gysylltiedig â phêl-droed, ardal ddarganfod i blant ac efelychwyr profi sgiliau.

Dewch i archwilio golygfeydd, synau a straeon y ddinas gyda phrofiadau twristaidd unigryw, o deithiau cerdded o gwmpas y ddinas i Deithiau Tacsi Manceinion. Mwynhewch Daith Win Manceinion neu rhowch gynnig ar rywbeth newydd gyda phrofiadau gwneud jin Manchester Gin, sy'n cynnig cyfleoedd i brofi amrywiaeth o jins gwahanol cyn creu eich potel jin eich hun.

Mae’r Northern Quarter yn gartref i drysorfa o siopau hen ddillad a siopau annibynnol, celf stryd fywiog, bariau a bwytai ffasiynol a lleoliadau cerddoriaeth llawn bwrlwm. Mae Affleck's, y farchnad fyd-enwog, yn cynnig pedwar llawr o nwyddau a chynnyrch gan ddylunwyr a masnachwyr annibynnol, tra bod Canolfan Crefft a Dylunio Manceinion yn gartref i stiwdios artistiaid sy'n gwerthu'r dyluniadau, gemwaith, bagiau a chyfwisgoedd lleol gorau mewn hen farchnad bysgod a dofednod Fictoraidd wedi'i hadfer. Am noson allan fywiog, mae'r ardal yn llawn lleoliadau cerddoriaeth cyffrous sy'n rhoi llwyfan i fandiau lleol a rhyngwladol.

Mae Salford Quays, cartref gogleddol y BBC ac ITV, yn daith fer ar drên tram o ganol y ddinas. Ewch ar gwch afon Manceinion i ddysgu mwy am dreftadaeth ddiwydiannol Manceinion cyn dychwelyd i grwydro o gwmpas Central Bay, y gyrchfan bwyd a diod newydd a phoblogaidd ar lan y dŵr. Ychydig dros yr afon, gall ffans Corrie gerdded ar hyd y strydoedd coblog ar daith o amgylch y lleoliad ffilmio gwreiddiol. Gorffennwch eich diwrnod yn y Lowry a mwynhewch theatr, opera, sioeau cerdd, dawns, cerddoriaeth, comedi neu gelf weledol yn y ganolfan gelfyddydol ragorol hon ar lan y dŵr.

Chwilio am fwy o ysbrydoliaeth? Edrychwch ar yr amserlen hon, yn llawn awgrymiadau a syniadau ar gyfer pethau i'w gwneud: 72 awr ym Manceinion.