A view of a lighthouse and the sea from a cliffside

Tref fwyaf Ynys Môn a chartref i un o borthladdoedd mwyaf Cymru

Mae mwy i Gaergybi na chysylltiad rhwng Cymru ac Iwerddon yn unig.  P'un a ydych am ymweld â’r arfordir neu dir mawr, mae Caergybi, gyda'i chysylltiadau â gweddill Ynys Môn, yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am drochi eu traed yn y môr neu am wisgo eu hesgidiau cerdded. 

 

Atyniadau gwerth chweil:

  • Beth am ymweld â Goleudy Stac y De a cherdded i dringo 365 o risiau a gallu mwynhau golygfeydd syfrdanol o'r clogwyni cyfagos.
  • Ewch i Caer y Twr, bryngaer Oes yr Haearn ar gopa Mynydd Caergybi sydd â golygfeydd godidog ar draws Caergybi i bob cyfeiriad.
  • Ewch i ymweld ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, dros 220 milltir sgwâr o arfordir a thirwedd godidog. 
  • Parc Arfordirol Penrhos Mae 200 erw yn berffaith ar gyfer beicio neu gerdded.

 

Teithio i Gaergybi ar ein gwasanaeth Dosbarth Cyntaf

Mae ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaergybi. Beth am dretio eich hun ychydig ar eich antur a theithio Dosbarth Cyntaf? Mae ein gwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol, tymhorol wedi'u gweini mewn steil ac amgylchedd gartrefol.

Tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael ar gyfer teithio rhwng Caergybi a rhai cyrchfannau. Darganfyddwch a yw'r rhain ar gael ar gyfer eich taith yma.

Gallwch brynu eich tocyn Dosbarth Cyntaf ar ein ap a gwefan, o'ch swyddfa docynnau agosaf neu beiriannau tocynnau.

 

Teithio i Iwerddon o Gaergybi gyda SailRail

Mae SailRail yn wasaneth sy'n cyfuno tocyn trên a fferi ar gyfer teithiau o unrhyw le ym Mhrydain Fawr i unrhyw le yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Ngorsaf reilffordd Caergybi i deithio i Iwerddon gyda un ai StenaLine neu Irish Ferries gyda thocyn SailRail integredig. Ewch i'n tudalen SailRail i gael rhagor o wybodaeth.