Chepstow Castle on a cloudy day

Peidiwch â gadael i'r car lywio eich diwrnod

Mae tref fywiog Cas-gwent yn cyfuno'r gorau o'r hen a'r modern. Yn gadarnle pwysig yn yr Oesoedd Canol, mae ei gastell Normanaidd wedi'i adeiladu ar bwynt strategol sy'n edrych dros Afon Gwy. Dyma ychydig o bethau i'w gweld a'u gwneud yn ystod eich ymweliad.

 

Pethau i’w gweld

Castell Cas-gwent - Mae Castell Cas-gwent, sydd wedi'i gadw'n arbennig, yn ymestyn ar hyd clogwyn calchfaen uwchben Afon Gwy fel gwers hanes o gerrig.

Amgueddfa Cas-gwent - Mae Amgueddfa Cas-gwent yn datgelu gorffennol cyfoethog ac amrywiol y dref hynafol hon, a fu unwaith yn borthladd a chanolfan farchnad bwysig.

Cae Ras Cas-gwent - Yn enwog fel cartref y ras y Welsh National, a gynhelir bob mis Rhagfyr, mae Cae Ras Cas-gwent yn cynnal diwrnodau rasio gwefreiddiol ar hyd y flwyddyn. Mae hefyd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth fyw ac adloniant.

Am fwy o ysbrydoliaeth ewch i ganllaw Croeso Cymru > Pethau i’w Gwneud yng Nghas-gwent, Sir Fynwy.

 

Wyddoch chi?

Gallwch gael tocyn mynediad 2 am bris 1 i safleoedd Cadw gyda'ch tocyn trên, darganfod mwy.

 

Penwythnos yng Nghas-gwent

Abaty Tyndyrn - Mae adfeilion rhamantus Abaty Tyndyrn lai na chwe milltir o ganol Cas-gwent. Mae Abaty Tyndyrn yn eicon cenedlaethol - yn dal i sefyll yn ei holl ysblander di-do ar lannau Afon Gwy bron i 500 mlynedd ar ôl iddo gael ei ddiddymu.

Cerddwch ar hyd rhan o Lwybr Dyffryn Gwy - O faes parcio Castell Cas-gwent, mae taith gerdded 17 milltir o hyd wedi'i marcio yn mynd yr holl ffordd i Drefynwy trwy afon Gwy Isaf. Byddwch yn cerdded drwy dirwedd o geunentydd coediog a glannau afonydd gwyrdd sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.