Rydym wedi ymuno â Cadw i gynnig 2 docyn am bris 1 i’n cwsmeriaid gael mynediad i’w safleoedd hanesyddol o deithio yno ar y trên.
Gyda thocyn trên un diwrnod dilys, gallwch chi a’r cyfaill teithio gael dau docyn mynediad am bris un pan fyddwch yn ymweld â rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru.
Mae Cadw yn gofalu am dros 120 o leoliadau hanesyddol ledled Cymru, y mae llawer ohonynt yn hawdd eu cyrraedd drwy fynd ar y trên. Rydyn ni'n gweithio gyda Cadw i arbed arian i chi pan fyddwch chi'n teithio ar y trên i ymweld â'r safleoedd treftadaeth byd-enwog hyn.
Mae mwy o gestyll fesul milltir sgwâr yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop ynghyd â nifer fawr o gaerau hynafol, abatai, capeli a thai canoloesol. Mae llawer i'w ddarganfod.
Beth am fanteisio ar y cynnig 2 docyn am 1 gwych hwn? Darganfyddwch hanes cyfareddol, chwedlau chwedlonol, mythau hudolus a straeon bythgofiadwy rhai atyniadau gwirioneddol ysblennydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos tocyn trên dilys TrC.
Rydym wedi rhestru rhai o'r safleoedd gorau ar ein rhwydwaith isod.
Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer antur? Darllenwch y blog hwn all eich helpu i gynllunio eich diwrnod allan gyda chyfaill i gadarnleoedd hynafol Cymru. Gyda’n cynnig 2 docyn am 1, gallwch fod yn sicr o brofiad rhagorol sy’n werth pob ceiniog.
*Telerau ac Amodau perthnasol.
- Gweler y Telerau ac Amodau:
-
Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw. Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
-
Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2024.
-
Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.
-