Teithio i Gastell Cydweli ar y trên
Yr orsaf agosaf: Cydweli
13 munud o cerdded - gweld y map
Dewch i ryfeddu at weld Castell Cydweli’n codi uwchlaw afon Gwendraeth ar fore niwlog.
Dim ond 11 munud ar droed o orsaf drenau Cydweli yw’r castell hwn sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o ymwelwyr a haneswyr. Wyddoch chi ei fod yn ymddangos yng ngolygfa gyntaf un ‘Monty Python and the Holy Grail’?
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Cydweli a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.
Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol.
Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*. Os teithiwch chi i Gastell Cydweli ar y trên, fe gewch chi 2 docyn mynediad am bris 1.
*Telerau ac Amodau perthnasol.
- Gweler y Telerau ac Amodau:
- Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw. Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
- Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
- Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.
-
Pethau hwyliog i'w gwneud yng Nghasnewydd y penwythnos yma Dewch i ddarganfod Fun things to do in Newport this weekend
-
Pethau i'w gwneud yng Nghanol Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod Things to do in Cardiff City Centre
-
Y gwyliau dinesig gorau yn y DU i gyplau: teithiau cerdded rhamantus yn Ynysoedd Prydain Dewch i ddarganfod romantic getaways in the British Isles
-