Hygyrchedd trenau
Bydd y manylion ein fflyd yn cael eu cynnwys yn y wefan hon pan fydd pob math o drên yn cael ei adnewyddu neu ei dynnu’n ôl a’i newid.
Neu, gallwch weld y wybodaeth isod.
Manylebau hygyrchedd y fflyd | Agor fel PDF
Croeso
Dyma drosolwg o’n fflyd bresennol a’n fflyd arfaethedig o drenau, sy’n rhoi manylion y cyfleusterau sydd ar gael ar y trenau ar gyfer pobl ag anawsterau symud ac ar gyfer beicwyr. Rydyn ni wrthi’n cyflwyno ein fflyd newydd o drenau, a bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau yn 2026. Bydd y ddogfen hon yn cael ei diweddaru pan fydd trenau’n cael eu hadnewyddu neu eu tynnu’n ôl.
Teithio hygyrch
Rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosib i chi deithio gyda ni, ac rydyn ni yma i helpu os oes gennych chi anghenion hygyrchedd. Mae rhagor o wybodaeth yn trc.cymru/teithio-hygyrch
Cymorth wrth Deithio
Gallwch archebu cymorth arbennig ymlaen llaw - hyd at 2 awr cyn i’ch taith ddechrau. I archebu, neu i gael rhagor o wybodaeth am Gymorth i Deithwyr:
- Ffoniwch ein tîm Cymorth wrth Deithio ar 03330 050 501
- RelayUK 18001 03330 050 501
- Ewch i trc.cymru/cymorth-i-archebu/ffurflen
Gallwch hefyd “gyrraedd a mynd” heb archebu cymorth arbennig ymlaen llaw. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd lle’r ydych chi eisiau mynd. Os hoffech wybod mwy am ein gwasanaethau ar y trên, cysylltwch â’r tîm Cymorth wrth Deithio. Gallan nhw helpu i gynllunio’ch taith ac awgrymu gwasanaethau eraill i chi. I gael gwybodaeth am gymorth i deithwyr, ewch i trc.cymru/cymorth-i-archebu.
Cymorth yn ystod eich taith
Os bydd angen cymorth arnoch chi wrth fynd ar y trên ac oddi arno, byddwch chi’n cael help gan y goruchwyliwr ar y trên neu gan staff yr orsaf os bydd staff yn bresennol. Mae ein llyfryn ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch - helpu teithwyr hŷn ac anabl’ yn cynnwys manylion ynghylch pa orsafoedd sydd â staff ac ar ba amseroedd maen nhw ar gael i helpu.
Cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd
Gallwch ddod â’ch cadair olwyn a’ch sgwter symudedd ar ein trenau, ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion o ran maint a phwysau. Y rhain yw:
- yn mesur hyd at 700mm x 1200mm (yn cynnwys y silff traed)
- â radiws troi o 900mm
- ni chaiff uchafswm pwysau’r gadair olwyn a’r teithiwr gyda’i gilydd fod yn fwy na 300kg.
Mae gan bob un o’n trenau rampiau neu fynediad gwastad ar gyfer cadeiriau olwyn a mynediad i sgwteri symudedd. Gallwch weld pa mor hygyrch yw ein holl orsafoedd yn trc.cymru/hygyrchedd-gorsafoedd.
Cysylltu â ni
Gallwn ni helpu gyda phob cam o’ch taith a bydden ni’n croesawu eich adborth. Mae’r holl ffyrdd y gallwch chi gysylltu ar gael yn trc.cymru/cymorth-a-chysylltu.
Ar-lein
Cynlluniwch a bwrw golwg ar eich taith yn trc.cymru, nationalrail.co.uk a manwerthwyr tocynnau trydydd parti.
Cyfryngau cymdeithasol
Anfonwch neges atom ar WhatsApp 07790 952 507
Dros y ffôn
Ffoniwch ein canolfan alwadau 03333 211 202
Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 0800 - 2000,
Dydd Sul: 1100 - 2000
Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i’n rhif o ffonau BT.
Drwy’r post
CYSYLLTIADAU CWSMERIAID
RHEILFFYRDD TRC
Sgwrsiwch â ni wyneb yn wyneb
Bydd ein cydweithwyr yn yr orsaf a staff y pwynt cymorth i gwsmeriaid yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau a rhoi gwybodaeth. Mae gan bob un o’n trenau goruchwyliwr ar y trên a fydd yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Cysylltu â chi
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol (WhatsApp), rydyn ni’n ceisio ymateb o fewn 10 munud (yn ystod oriau agor). Mae rhagor o wybodaeth am ein polisi cyfryngau cymdeithasol ar gael yn trc.cymru/polisi-cyfryngau-cymdeithasol. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom drwy’r post, neu drwy ein ffurflen ar y we, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch os bydd e-bost yn cael ei ddarparu. Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith (ac eithrio penwythnosau a gwyliau banc). Gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith ar adegau prysur iawn. Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn ac ni allwn ateb eich ymholiad ar unwaith, ein nod yw eich ffonio’n ôl o fewn 3 diwrnod gwaith.
Fformatau eraill
Mae ein holl ddogfennaeth yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ac felly ar gael yn ddwyieithog. Mae fformatau amgen megis print bras, Braille, a sain, ar gael yn rhad am ddim gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Darperir dogfennau print mawr o fewn saith diwrnod, a fformatau eraill cyn gynted â phosibl.
Cyfleusterau ar y trên
Dyma’r cyfleusterau sydd ar gael ar ein trenau.
Hygyrchedd
![]()
Rampiau mynediad.
Rampiau neu fynediad gwastad ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.
![]()
Botymau cymorth.
Er mwyn i chi allu galw am help pan fydd angen.
![]()
Seddi â blaenoriaeth.
Gyda mynediad haws a rhywfaint o le ychwanegol..
![]()
Lleoedd i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Mae nifer y lleoedd yn amrywio.
![]()
Toiled hygyrch¹.
Mae lled y drysau’n amrywio.
![]()
Lleoedd newid babanod¹.
Mewn toiledau hygyrch.
Cyfleusterau eraill
![]()
Socedi gwefru.
Tri phin ac USB, yn amrywio.
![]()
Sgriniau gwybodaeth gweledol.
![]()
Wi-Fi.
![]()
System annerch y cyhoedd.
1. Ddim ar gael ar Dosbarth 398.
Crynodeb
Dyma olwg sydyn ar hygyrchedd a nodweddion eraill sydd ar gael ar bob un o’n trenau.
| Lleoedd i ddefnyddwyr cadair olwyn | Seddi â blaenoriaeth | Toiled hygyrch a lleoedd newid babanod | Toiled, ddim yn addas i gadeiriau olwyn | Gwasanaeth arlwyo yn y sedd | Cerbyd bwyty | |
| Dosbarth 150 | 2 | 13 | 1 | 0 | Nac oes | Nac oes |
| Dosbarth 153 | ||||||
| 153/3 + 153/5 | 3 | 12 | 1 | 1 | Nac oes | Nac oes |
| 153/3 + 153/9 | 3 | 12 | 1 | 0 | Nac oes | Nac oes |
| Dosbarth 158 | 2 | 14 | 1 | 1 | Oes | Nac oes |
| Mark 4 | 3 | 24 | 2 | 3 | Oes | Oes |
| Dosbarth 230 | 2 | 17 | 1 | 0 | Nac oes | Nac oes |
| Dosbarth 197 | ||||||
| 2 gerbyd | 2 | 14 | 1 | 0 | Oes | Nac oes |
| 3 gerbyd | 2 | 22 | 1 | 1 | Oes | Nac oes |
| Dosbarth 231 | 2 | 22 | 1 | 0 | Nac oes | Nac oes |
| Dosbarth 756 | ||||||
| 3 gerbyd | 2 | 18 | 1 | 0 | Nac oes | Nac oes |
| 4 gerbyd | 2 | 26 | 1 | 0 | Nac oes | Nac oes |
| Dosbarth 398 | 2 | 12 | 0 | 0 | Nac oes | Nac oes |
Dosbarth 150
Trenau diesel dau gerbyd yw’r Dosbarth 150, a adeiladwyd yn 1987.
Mae gennym 19 yn ein fflyd.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Dosbarth 150.
- Gorllewin Cymru i Abertawe a Chaerdydd
- Maesteg i Lynebwy
- Treherbert i Gaerdydd
- Pontypridd i Fae Caerdydd
- Rhymni i Gaerdydd, Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr drwy Fro Morgannwg
- Caerdydd i Cheltenham Spa
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws: 825mm.
![]()
13 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
107 o seddi a naill ai pedair neu chwech o seddi codi ychwanegol.
![]()
Lle i bedwar beic.
Dosbarth 153
Mae trenau Dosbarth 153, a adeiladwyd rhwng 1987 ac 1988, yn drenau diesel un cerbyd sy’n cael eu cysylltu fel parau.
Mae gennym dri math o uned mewn gwasanaeth sydd wedi’u cysylltu fel a ganlyn:
- Dosbarth 153/3 â Dosbarth 153/5 (Teithio Llesol). Mae gennym chwech yn ein fflyd.
Rheilffordd Calon Cymru yn unig. - Dosbarth 153/3 â Dosbarth 153/9. Mae gennym 17 yn ein fflyd.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Dosbarth 153.
- Abertawe i Amwythig ar Reilffordd Calon Cymru.
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Tri lle i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 820mm
![]()
12 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
98 o seddi a naw o seddi codi ychwanegol.
![]()
Lle i wyth beic a lle hyblyg ar gyfer pedwar beic arall.
![]()
Un toiled, ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Tri lle i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 820mm.
![]()
12 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
126 o seddi a chwech o seddi codi ychwanegol.
![]()
Lle i bedwar beic.
Dosbarth 158
Trenau diesel dau gerbyd a adeiladwyd rhwng 1989 ac 1992 yw’r Dosbarth 158. Mae gennym 22 yn ein fflyd.
Mae llai o le i symud cadair olwyn yn nhoiled cyffredinol y Dosbarth 158.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Dosbarth 153.
- Caergybi - Amwythig - Birmingham.
- Amwythig - Pwllheli ac Aberystwyth ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 780mm.
![]()
14 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
134 o seddi.
![]()
Lle i ddau feic.
![]()
Un toiled, ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
![]()
Gwasanaeth arlwyo yn y sedd ar rai gwasanaethau.
Cerbyd Mark 4
Mae Cerbydau Mark 4 yn goetsys sy’n cael eu tynnu gan locomotif, a adeiladwyd rhwng 1989 ac 1992.
Mae gennym saith trên pum cerbyd yn ein fflyd.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Cerbyd Mark 4.
- Abertawe i Gaerdydd, Amwythig a Manceinion ar Lein y Gororau
- Caerdydd i Amwythig, Caer a Chaergybi
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Lle i ddau ddefnyddiwr cadair olwyn yn y dosbarth safonol.
Lle i ddau ddefnyddiwr cadair olwyn yn y Dosbarth Cyntaf.
![]()
Dau doiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
30 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
246 o seddi a chwech o seddi codi ychwanegol yn y dosbarth safonol.
![]()
Gwasanaeth arlwyo yn y sedd ar rai gwasanaethau.
![]()
41 o seddi Dosbarth Cyntaf.
![]()
Cerbyd bwyty.
![]()
Lle i bum beic, mewn cerbyd injan ar wahân.
![]()
Tri thoiled, ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
Dosbarth 230
Mae Dosbarth 230 yn gysyniad newydd o drên Diesel, Batri ac Aml-Uned Batri Hybrid Trydan (BHMU). Maen nhw wedi’u haddasu yn 2019 -2021 o drenau stoc D78 Trenau Tanddaearol Llundain.
Llwybrau
Dyma’r llwybr prysuraf lle welwch chi drenau Dosbarth 230.
- Wrecsam Canolog i Bidston.
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 830mm.
![]()
17 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
129 o seddi a 10 o seddi codi ychwanegol.
![]()
Pedwar lle hyblyg i feiciau.
Dosbarth 197
Trenau diesel dau a thri cherbyd yw’r Dosbarth 197 a adeiladwyd rhwng 2020 a nawr. Mae 77 yn ein fflyd - 51 dau gerbyd a 26 thri cherbyd.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Dosbarth 197.
- Maesteg i Lynebwy
- Caerdydd i Gaerfyrddin, Glynebwy a Phen-y-bont ar Ogwr (drwy Fro Morgannwg)
- Caerfyrddin i Aberdaugleddau, Abergwaun a Doc Penfro
- Caer i Faes Awyr Manceinion (drwy Frodham), Lerpwl Lime Street, Amwythig (drwy Crewe), Amwythig (drwy Wrecsam) a Chaergybi
- Crewe i Fanceinion Piccadilly (drwy Wilmslow)
- Llandudno i Flaenau Ffestiniog
- Caerdydd i Cheltenham Spa
- Amwythig i Birmingham a Chaerdydd
- Wrecsam Canolog i Bidston
Cefnogi pan na fydd trenau 230 ar gael
Cynllun y cerbyd
Dau gerbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
14 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
116 o seddi a chwech o seddi codi ychwanegol.
![]()
Dau le hyblyg i feiciau.
Cynllun y cerbyd
Tri cherbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
22 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
190 o seddi a naw o seddi codi ychwanegol.
![]()
Pedwar lle hyblyg i feiciau.
![]()
Un toiled, ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
Cynllun y cerbyd
Tri cherbyd, gyda seddi lletach
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
22 o seddi blaenoriaeth lled safonol a phedair o seddi blaenoriaeth lletach.
Nodweddion eraill
![]()
158 o seddi lled safonol a naw o seddi codi ychwanegol.
![]()
Pedwar lle hyblyg i feiciau.
![]()
16 o seddi lletach.
![]()
Un toiled, ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
Dosbarth 231
Trenau diesel pedwar cerbyd yw’r Dosbarth 231 a adeiladwyd rhwng 2020 a nawr. Mae gennym 11 yn ein fflyd.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Dosbarth 231.
- Maesteg i Lynebwy.
- Rhymni i Gaerdydd ac Ynys y Barri.
- Caerdydd i Cheltenham Spa.
Cynllun y cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
22 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
170 o seddi a 34 o seddi codi ychwanegol.
![]()
Lle hyblyg ar gyfer naw beic.
Dosbarth 756 Flirt
Trenau tri-modd tri a phedwar cerbyd yw’r Dosbarth 756 Flirt sy’n defnyddio diesel, trydan a batri. Cawsant eu hadeiladu rhwng 2020 a nawr.
Mae gennym ni 24 o’r trenau newydd sbon hyn yn ein fflyd i gyd - saith ohonyn nhw gyda thri cherbyd ac 17 gyda phedwar cerbyd.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle gallwch ddod o hyd i drenau Dosbarth 756.
- Treherbert i Gaerdydd.
- Aberdâr i Ferthyr Tudful drwy Linell y Ddinas a Chaerdydd Canolog.
- Cortyton i Benarth a Chaerffili.
- Rhymni i Gaerdydd, Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr drwy Fro Morgannwg.
Cynllun y cerbyd
Tri cherbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
18 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
118 o seddi a 23 o seddi codi ychwanegol.
![]()
Lle hyblyg ar gyfer chwe beic.
Cynllun y cerbyd
Pedwar cerbyd
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
Un toiled hygyrch.
Lled y drws 800mm.
![]()
26 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
158 o seddi a 32 o seddi codi ychwanegol.
![]()
Gofod hyblyg ar gyfer naw beic seiclo.
Dosbarth 398 Citylink
Trenau tram tri cherbyd yw’r Dosbarth 398 Citylink sy’n defnyddio trydan a batri.
Cawsant eu hadeiladu rhwng 2020 a nawr. Bydd y gwaith cyflwyno’n dechrau yn 2026* ac ar ôl ei gwblhau bydd gennym 36 o’r trenau tram newydd sbon hyn yn ein fflyd. Sylwch nad oes toiledau ar gael.
Bydd toiledau ar gael mewn gorsafoedd ar hyd y llwybr, gydag uchafswm o 20 munud rhwng arosfannau.
* Cafodd y trenau 398 eu rhoi ar waith ym mis Mehefin 2026 ar y gwasanaethau uniongyrchol rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd. Mae toiledau ar gael yng ngorsafoedd Pontypridd, Trefforest, Radur a gorsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines ar y llwybr hwn.
Llwybrau
Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin lle byddwch yn dod o hyd i drenau Dosbarth 398 Citylink, yn dilyn eu lansio yng ngwanwyn 2026.
- Treherbert i Gaerdydd.
- Aberdâr i Ferthyr Tudful drwy Linell y Ddinas a Chaerdydd Canolog.
- Pontypridd i Fae Caerdydd.
Cynllun y cerbyd
Gall cynllun y cerbydau a’r cyfleusterau ar y trenau newid gan fod y trenau hyn yn dal i gael eu cynhyrchu, ac efallai y bydd rhai mân newidiadau’n cael eu gwneud cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i’n rhwydwaith.
Hygyrchedd
![]()
Dau le i ddefnyddwyr cadair olwyn.
![]()
12 sedd flaenoriaeth.
Nodweddion eraill
![]()
104 o seddi a 28 o seddi codi ychwanegol.
![]()
Lle hyblyg ar gyfer chwe beic.
-
Oeddech chi’n gwybod?Ymunwch â'n panel cwsmeriaidRhannwch eich barn a helpwch i lunio'r ffordd y mae Cymru'n teithio.Dweud eich dweud