Polisi Datblygu Cynaliadwy a'r Amgylchedd

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru

Polisi Datblygu Cynaliadwy a'r Amgylchedd

 

 

1 Pwrpas

Mae’r polisi hwn yn nodi sefyllfa Trafnidiaeth Cymru (TrC) i sicrhau ein bod yn darparu ein gwasanaethau yn unol â’r pedwar piler cynaliadwyedd, ac yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn sicrhau bod ein ffyrdd ni o weithio yn cydymffurfio â’r Ddeddf, a’n bod hefyd yn cyflawni ein dyletswydd a’n hymrwymiadau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

2 Cyd-destun

Mae TrC yn cydnabod y pryderon ynghylch iechyd, newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, cydraddoldeb a’r economi. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y cyfleoedd a allai wneud Cymru’n iachach, yn hapusach, yn fwy cyfartal, yn fwy ffyniannus ac yn fwy cydnerth. Bydd yr amcanion a ddiffinnir yn y polisi hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau datgarboneiddio uchelgeisiol Cymru, lleihau’r defnydd o ynni, anghydraddoldebau, tlodi trafnidiaeth, gwella iechyd corfforol a meddyliol, helpu i leihau llygredd aer, cysylltu cymunedau, cefnogi diwylliant Cymru, a dangos ein hymrwymiad i gyfrifoldebau byd-eang. Mae TrC wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon ac i barhau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy fabwysiadu arferion cynaliadwy.

Mae rhoi’r arferion hyn ar waith yn hanfodol i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu, ac maen nhw’n cyfrannu at y weledigaeth ar gyfer darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn falch ohono.

 

3 Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn cynnwys ein cydweithwyr, is-gwmnïau, contractwyr a chyflenwyr - fel y nodir yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy a System Rheoli Amgylchedd y sefydliad - ynghyd â’r gweithgareddau angenrheidiol er mwyn cyflawni gweledigaeth TrC.

 

4 Amcanion

Mae amcanion allweddol y polisi hwn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn ystyried yr effeithiau ar bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol, a hynny er mwyn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

  • Sefydlu systemau rheoli sydd â’r adnoddau priodol, gan gynnwys fframweithiau ar gyfer gosod ac adolygu amcanion a thargedau cynaliadwyedd ac ynni.

  • Datblygu a chyflwyno dogfennau a chynlluniau strategol a fydd yn cefnogi’r polisi hwn, gan sicrhau bod yr amgylchedd, ynni, addasu, a chydnerthedd yn themâu allweddol drwyddi draw.

  • Atal a lleihau allyriadau, a lleihau'r defnydd o ynni a gwastraff drwy sefydlu amcanion a thargedau ar gyfer gwelliant parhaus.

  • Ymrwymo i fodloni gofynion yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys targedau Sero Net 2030 y Sector Cyhoeddus a’r safonau gwirfoddol y cytunwyd arnynt.

  • Datblygu ffyrdd cydweithredol o weithio gyda’n partneriaid a’n grwpiau cymunedol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni gweledigaeth a phwrpas TrC.

  • Sicrhau dull cynaliadwy, moesegol ac effeithlon o ran ynni wrth gaffael gwasanaethau nwyddau.

  • Ymrwymo i gynnal System Rheoli Ynni a’r Amgylchedd, sy'n cydymffurfio â safonau amgylcheddol cenedlaethol a rhyngwladol.

  • Diogelu’r amgylchedd, lleihau effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys llygredd aer, tir a môr, a datblygu cynlluniau ymateb i’r amgylchedd os bydd unrhyw ddigwyddiadau mawr yn digwydd.

  • Creu cyfleoedd i wella a gwarchod bioamrywiaeth, gan sicrhau ein bod yn ystyried yr ecosystemau sydd ar ein safleoedd ac o’u cwmpas; er mwyn sicrhau budd net i fioamrywiaeth.