Teithio i Gastell Biwmares ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Bangor

Location Icon
2 munud o cerdded  > 28 munud ar fws o’r orsaf > 1 munud o cerdded  - gweld y map

 

Mae Biwmares ar Ynys Môn yn enwog am ei gastell mawreddog na chafodd ei gwblhau.

Hwn oedd y cadarnle brenhinol olaf i gael ei adeiladu gan Edward I yng Nghymru a’r bwriad oedd mai hwn fyddai’r “castell i ragori ar bob castell arall”.  

Mae’r castell ychydig yn bellach i ffwrdd o’r orsaf drenau na rhai o’r atyniadau eraill rydyn ni wedi’u rhestru, ond os ewch chi ar daith fer ar y bws o orsaf Bangor, fe gewch chi gyfle i weld y campwaith â’ch llygaid eich hun. 

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Biwmares a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol.

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, felly beth am gynllunio taith i Gastell Biwmares a dal y trên i Fangor er mwyn mynd yno? Cewch fwynhau’r golygfeydd o’r trên a chael 2 docyn am bris 1 ar ben hynny.  

*Telerau ac amodau perthnasol.

  • Gweler y telerau ac amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.

    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 30 Medi 2025.

    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.