Teithio i Gastell Conwy ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Conwy

Location Icon
3 munud o cerdded  - gweld y map

 

Gyda’i olygfeydd godidog o’r harbwr, mae’r campwaith 700 oed hwn yn un o’r caerau mwyaf trawiadol yn Ewrop.  

Gallwch brofi Castell Conwy yn ei holl ogoniant drwy ddringo’r grisiau troellog a cherdded yr holl ffordd o amgylch bylchfuriau'r Castell er mwyn ymgolli yn y campwaith canoloesol hwn.   

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Conwy a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, felly dyma’r amser perffaith i gynllunio taith ar y trên i Gastell Conwy. Mae’r daith ar y trên o Gyffordd Llandudno yn rhoi cyfle i chi weld y castell yn dod yn nes ar draws y dŵr, felly beth am fwynhau’r daith a chael 2 docyn mynediad am bris 1 hefyd? 

*Telerau ac amodau perthnasol.

  • Gweler y telerau ac amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.

    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 30 Medi 2025.

    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.

 

Hanes

Oddeutu 17 milltir i’r gogledd o Eryri, mae’n bosibl mai Castell Conwy yw un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru. Cafodd ei adeiladu rhwng 1283 a 1287 gan Frenin Edward y cyntaf a’i bensaer James o St George, ac mae bellach yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae Trafnidiaeth Cymru a CADW yn cynnig 2 docyn am bris 1 i’r castell pan fyddwch chi’n teithio ar drên.

Cafodd y castell ei adeiladu i ddangos goruchafiaeth brenin newydd Lloegr yng Nghymru. Roedd Edward y cyntaf wedi uno Cymru a Lloegr ar ôl marwolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282. Dim ond rhanbarthau mynyddig y Gogledd a oedd yn dal yn rhan o’r Gymru rydd, ac felly adeiladodd y brenin nifer o gestyll i sefydlu presenoldeb y frenhiniaeth.

Dywedodd UNESCO mai Castell Conwy a chestyll eraill Edward y cyntaf yng Ngogledd Cymru:
“Yw enghreifftiau gorau Ewrop o bensaernïaeth filwrol diwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae eu cyfanrwydd, eu cyflwr dilychwin, tystiolaeth o ofod domestig wedi’i drefnu, a’r drysorfa ryfeddol o’u ffurf bensaernïol ganoloesol yn brawf o hynny.”

 

Cwestiynau Cyffredin Castell Conwy

Pam mae Castell Conwy yn enwog?

Mae Castell Conwy yn enwog am iddo gael ei adeiladu gan Frenin Edward y cyntaf a unodd Cymru a Lloegr drwy goncwest.

Beth gafodd ei ffilmio yng Nghastell Conwy?

Mae nifer o raglenni dogfen wedi cynnwys Castell Conwy, ond mae rhai ffilmiau mawrion wedi cael eu ffilmio yn yr ardal gan gynnwys King Arthur: Legend of the Sword (2017) a The Secret Garden (2020).

Pam wnaethon nhw adeiladu Castell Conwy?

Adeiladodd Brenin Edward y cyntaf Gastell Conwy fel caer amddiffynnol i sefydlu ei bresenoldeb yng Ngogledd Cymru. 

Pryd cafodd Castell Conwy ei Adael?

Cafodd y castell ei adael dros dro yn y 1600au a throdd yn adfail, ond ar ddechrau Rhyfel Cartref Lloegr roedd yn ddefnyddiol yn strategol unwaith eto.

Beth yw’r Castell Lleiaf yng Nghymru?

Mae gan Gymru lawer o gestyll bach ymhlith 400 o gestyll rhestredig y wlad, ond nid yw Castell Conwy yn un ohonynt. Fodd bynnag, yng Nghonwy mae tŷ lleiaf y Deyrnas Unedig.

 

Pensaernïaeth

Cafodd y castell ei adeiladu’n strategol yn edrych dros Afon Conwy ac Afon Gyffin. Roedd yn hawdd ei amddiffyn ac roedd cychod cyflenwi yn ei ddefnyddio yn ystod rhyfel. Nid oes cymaint yn gwybod bod Castell Conwy wedi cael ei adeiladu ar safle Abaty Sistersaidd Aberconwy Santes Fair a adeiladwyd tua 100 mlynedd cyn hynny. Roedd yr abaty hwn yn enwog oherwydd dyma lle claddwyd Llywelyn Fawr. Cafodd y mynachod a oedd yn byw yn yr abaty eu gorfodi i adael er mwyn adeiladu’r castell, ac roedd y brenin yn cyhoeddi teyrnasiad newydd o fan hyn.

 

Mae strwythur amddiffynnol Castell Conwy yn cynnwys llenfur mawreddog sydd ag wyth tyred uchel a dwy giât wedi’u hatgyfnerthu. Cafodd y castell ei adeiladu ar graig arw a ddylanwadodd ar ffurf y castell ac roedd yn rhaid adeiladu’r tyredau ychydig ymhellach oddi wrth ei gilydd na’r arfer ar y pryd. Roedd dau ragfur mawr gyda thri thŵr yn amddiffyn y prif giatiau. Ar ben hynny, dim ond drwy risiau serth a phont godi roedd modd cyrraedd y brif giât. Pan adeiladwyd y castell, roedd wedi’i orchuddio â phlastr gwyn, ac mae rhywfaint ohono’n dal i’w weld heddiw. Mae’r gerddi’n dal yn eithriadol o daclus fel y byddent wedi bod yn ystod oes y brenin.

 

Gwybodaeth i Dwristiaid

Mae’r castell yn cynnig golygfeydd panoramig dros gopaon Eryri, tref Conwy a harbwr Conwy, gallwch hefyd weld wal ffin y dref sy’n 1.3km. Mae’r grisiau sydd wedi cael eu hadfer a’u cadw’n ofalus yn golygu eich bod yn gallu cerdded o amgylch Castell Conwy a’i strwythurau. Dyma un o gaerau canoloesol mwyaf trawiadol Ewrop ac mae gystal â Chastell Caerdydd bob tamaid.

 

Sut mae cyrraedd Castell Conwy?

Mae’n hawdd cyrraedd Castell Conwy o le bynnag ydych chi, yn enwedig gan ei fod gwta 4 munud o gerdded o orsaf drenau Conwy. I ddod o hyd i’r llwybr hawsaf a chyflymaf i chi, defnyddiwch gynlluniwr taith defnyddiol Traveline. Gyda Traveline gallwch archebu tocynnau trên ar-lein, gan arbed amser a thrafferth er mwyn sicrhau diwrnod cyffrous a di-straen.

 

Cwestiynau Cyffredin i Dwristiaid

Ym mha wlad mae Castell Conwy?

Mae Castell Conwy yng ngogledd hardd Cymru.

Faint yw tocyn i fynd i Gastell Conwy?

Oedolyn: £11.10
Plentyn (5-17)/Myfyriwr: £7.80

Ydy hi’n werth ymweld â Chastell Conwy?

Gyda chymaint i’w ddarganfod, rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n werth ymweld â Chastell Conwy.

Pa mor hir mae’n ei gymryd i edrych o amgylch Castell Conwy?

Mae hi’n cymryd tua dwy awr a hanner i edrych yn iawn o amgylch y castell a’i waliau.

Allwch chi gerdded o amgylch waliau Castell Conwy?

Gallwch, gallwch chi gerdded o amgylch y waliau am ddim ac mae golygfeydd anhygoel i’w gweld oddi yno.

 

Conwy Eiconig

Castell Conwy yw un o’r amddiffynfeydd mwyaf eiconig sydd mewn cyflwr da yng Nghymru gyfan. Cafodd y castell mawreddog ei adeiladu gan Frenin Edward y cyntaf a chwaraeodd ran strategol yn ystod Rhyfeloedd Annibyniaeth terfysglyd Cymru. Heddiw, mae Castell Conwy yn enwog am ei olygfeydd godidog a’i hanes diwylliannol cyfoethog. Does dim rhyfedd ei fod yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru o hyd.