Mwynhewch fwyd ffres wedi'i baratoi'n arbennig gan ein cogyddion ar y trên

P'un a ydych chi'n teithio am resymau busnes neu bleser, mae ein profiad Dosbarth Cyntaf wedi'i gynllunio i wneud eich taith yn fwy arbennig gyda chysur, tawelwch a phrofiad bwyta o’r radd flaenaf.

Beth i'w ddisgwyl

  • Seddi eang a cherbyd tawelach am daith fwy hamddenol.
  • Lluniaeth a byrbrydau am ddim, wedi'u cynnwys gyda'ch tocyn Dosbarth Cyntaf.
  • Pryd o fwyd cain gyda chynhwysion tymhorol, lleol am gost uwchraddio rhwng Caerdydd, Caergybi a Manceinion.

Ydych chi’n barod i uwchraddio'ch taith? Darganfyddwch y ffordd orau o deithio ledled Cymru a thu hwnt.

Bwydlen Dosbarth Cyntaf

Gwasanaethau o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda gwasanaethau bwyta Dosbarth Cyntaf

Caerdydd → Caergybi
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
17:22Swper
Gweinir cinio o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Wrecsam.

Bwrw golwg ar y fwydlen
Caerdydd → Manceinion
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
08:53Brecwast
Gweinir brecwast o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
10:53Brecwast a chinio
Gweinir brecwast o Gasnewydd a chymerir yr archebion cinio olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
12:53Cinio
Gweinir cinio o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
14:53Cinio
Gweinir cinio o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
16:53Swper
Gweinir cinio o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Wrecsam.

Bwrw golwg ar y fwydlen
Caergybi → Caerdydd
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
05:27Brecwast
Gweinir brecwast o Gaergybi a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
Manceinion → Caerdydd
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
06:27Brecwast
Gweinir brecwast o Amwythig a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
08:30Brecwast
Gweinir brecwast o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
10:30Brecwast a chinio
Gweinir brecwast o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
12:30Cinio
Gweinir cinio o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
14:30Cinio
Gweinir cinio o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
16:30Swper
Gweinir cinio o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
18:30Swper
Gweinir cinio o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
Abertawe (drwy Gaerdydd) → Manceinion
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
05:29Brecwast
Gweinir brecwast o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen

Gwasanaethau dydd Sadwrn sy’n cynnig bwyd Dosbarth Cyntaf

Caerdydd → Manceinion
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
08:54Brecwast
Gweinir brecwast o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
10:53Brecwast
Gweinir brecwast o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
12:53Byrbrydau drwy’r dydd
Mae byrbrydau drwy’r dydd ar gael o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen
Manceinion → Caerdydd
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
06:27Brecwast
Gweinir brecwast o Amwythig a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
08:30Brecwast
Gweinir brecwast o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
10:30Brecwast
Gweinir brecwast o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
12:30Brecwast
Gweinir brecwast o Fanceinion a chymerir yr archebion olaf yn y Fenni.

Bwrw golwg ar y fwydlen
Abertawe (drwy Gaerdydd) → Manceinion
Amser gadaelGwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf
05:39Brecwast
Gweinir brecwast o Gasnewydd a chymerir yr archebion olaf yn Crewe.

Bwrw golwg ar y fwydlen

Cwestiynau Cyffredin am y gwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf

Sut ydw i'n archebu bwyd yn yr ardal Dosbarth Cyntaf?

Dewiswch beth sydd orau gennych o'r fwydlen bwyta cain ar y trên. Yna rhowch eich archeb i’ch gwesteiwr. A fyddwch yn dewis dau neu dri chwrs?

A yw pryd o fwyd wedi'i gynnwys gyda thocyn Dosbarth Cyntaf?

Nac ydy. Mae lluniaeth a byrbrydau wedi'u cynnwys yng nghost eich tocyn, ond mae cost uwchraddio os ydych am fwynhau pryd o fwyd cain.

A allaf uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol er mwyn mwynhau pryd o fwyd Dosbarth Cyntaf?

Gallwch, fel arfer gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf. Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol gan gynnwys tocynnau Unffordd Unrhyw Bryd ac Advance, tocynnau Dwyffordd, tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger. Rhowch wybod i reolwr y trên eich bod am uwchraddio a byddant yn cadarnhau a oes lle ar gael yn yr ardal Dosbarth Cyntaf. Cofiwch y bydd cost ychwanegol am unrhyw brydau bwyd a archebwch.

Beth os bydd fy nhrên yn cael ei newid neu ei ohirio - a fydda i'n dal i gael pryd o fwyd?

Dim ond ar wasanaethau dethol y mae bwyd a diod ar gael. Os bydd eich trên yn cael ei newid neu ei ohirio, ni allwn warantu y bydd gwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf, bar bwyd na throli yn cael ei ddarparu.

A oes opsiynau heb alergenau, heb glwten, fegan a llysieuol?

Oes, mae gennym ni opsiynau heb alergenau, heb glwten, fegan a llysieuol nad ydynt yn cyfaddawdu ar flas. Gofynnwch i’r rheolwr ar y trên roi gwybod i chi beth sydd ar gael.

Rydym yn diweddaru ein bwydlen gyda'r tymhorau i gadw pethau'n ffres. Efallai na fydd rhai eitemau ar gael bob amser.