Byrbrydau trwy'r dydd Dosbarth Cyntaf
Mae ein bwydlenni tymhorol yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau.
Tarwch olwg ar beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi’n teithio gyda ni.
Brechdan gaws wedi'i grilio - £6.45
Caws Cheddar Aeddfed Dragon wedi’i doddi rhwng eich dewis o fara bloomer meddal gwyn neu wenith cyflawn.
Yn cynnwys: glwten, llaeth. Gall gynnwys: soia.
Brechdan Clwb - £9.99
Cyw iâr suddlon wedi’i ffrio mewn llaeth enwyn, cig moch brith Dewi Roberts o Landeilo, letys gem, tomatos ffres a mayonnaise, i gyd wedi'u gosod rhwng tair tafell o'ch dewis o fara bloomer gwyn neu frown wedi'i dostio.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, wy. Gall gynnwys: soia.
Rhôl fara boeth - £8.99
Cig eidion Cymreig wedi'i goginio mewn saws barbeciw Corea gyda cholslo wedi'i ysbrydoli gan flasau Asiaidd.
Yn cynnwys: glwten, soia. Gall gynnwys: llaeth, wy.
Brechdan gaws rarebit y Cymoedd - £10.45
Coesgyn cig moch wedi'i ferwi'n ffres, ein saws rarebit gyda mwstard Halen Môn a chennin menynaidd ar eich dewis o fara bloomer gwyn neu frown wedi'i dostio.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, mwstard, wy. Gall gynnwys: seleri, soia.
Salad Cyw Iâr Caesar - £11.95
Letys cos gyda brest cyw iâr, cig moch brith, croutons a dresin Caesar.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, wy. Gall gynnwys: soia.
Rhôl frecwast - £6.45
Rhôl surdoes wedi'i llenwi â selsig porc o Gymru, bacwn neu selsig fegan, wedi'i gweini gyda hash browns.
Yn cynnwys: glwten, SO2. Gall gynnwys: llaeth, mwstard, sesame, soia, wy.
Awydd rhywbeth ychwanegol?
Dewiswch wy, selsig, bacwn, pwdin gwaed, caws neu sbigoglys wedi gwywo a thomatos bach am £1.25 ychwanegol.
Ar yr amod bod y cynnyrch ar gael. Roedd y prisiau'n gywir ar 1 Medi 2026 ac mae’n bosibl iddyn nhw newid. Taliadau electronig neu gerdyn yn unig.
Allwn ni ddim gwarantu bod ein bwyd heb unrhyw alergenau yn llwyr. Siaradwch ag aelod o staff i gael rhagor o wybodaeth.