Yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i'ch cael chi o leoliad A i leoliad B
Yn aml, ‘bws yn lle trên’ yw’r ymadrodd olaf rydyn ni eisiau ei glywed pan rydyn ni’n bwriadu teithio ar y trên.
Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd angen i ni drefnu trafnidiaeth amgen i fynd â chi i’ch cyrchfan. Gallant fod wedi’u cynllunio neu’n annisgwyl.
Efallai y bydd angen i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol neu waith uwchraddio seilwaith hanfodol i wneud ein rheilffordd yn addas ar gyfer y dyfodol. Gall digwyddiadau arbennig neu ddigwyddiadau annisgwyl ar y rhwydwaith hefyd olygu na all trenau redeg.
Canslo gwasanaethau a pheri anghyfleustra i chi yw'r peth olaf rydyn ni eisiau ei wneud. Rydyn ni'n gwybod efallai nad y bws yw dewis cyntaf pawb. Rydyn ni'n trefnu’r bysiau hyn i'ch helpu chi i gadw'ch cynlluniau ar y trywydd iawn hyd yn oed pan na fydd trenau’n gallu gweithredu. Rydyn ni eisiau i chi allu mynd i'r gwaith, gweld ffrindiau neu deulu neu fynd am benwythnos i ffwrdd o hyd.
Lle bynnag y mae angen iddynt, mae ein timau'n gweithio gyda gweithredwyr bysiau ledled Cymru, yn aml ar fyr rybudd, i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn parhau i symud.
Rydyn ni'n mynd y tu hwnt i’r gofyn fel bod bws yn barod ac yn aros i'ch cludo i'ch cyrchfan.
Safleoedd bws yn lle trên
Rydym am eich cael chi i'ch cyrchfan cyn gynted â phosibl. Bydd ein gwasanaethau bws yn lle trên yn cymryd y llwybr mwyaf uniongyrchol rhwng gorsafoedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae safleoedd bws wedi'u lleoli mor agos at ein gorsafoedd â phosibl er hwylustod i chi. Byddwn yn darparu cymaint o wybodaeth ag y gallwn fel eich bod yn ymwybodol o ble bydd bysiau yn lle trenau yn cyrraedd ac yn gadael.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
Rydym yn cyhoeddi manylion gwaith gwella arfaethedig i drawsnewid eich rheilffordd ymhell ymlaen llaw, trwy ein gwefan, ap a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn dweud wrthych ble a phryd y byddwn yn trefnu gwasanaethau bws yn lle trên.
Fe welwch chi bosteri ac arwyddion yn eich gorsaf yn dweud wrthych chi ble bydd y bws yn eich casglu a'ch gollwng chi, a sut allwch chi gysylltu â ni neu roi gwybod i ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi wrth deithio ar y bws. Beth am edrych ar ein tudalennau gwybodaeth am orsafoedd yma hefyd? Maen nhw'n ffordd wych o gael hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf.
Os hoffech siarad â rhywun wyneb yn wyneb, bydd ein cydweithwyr yn hapus i helpu. Gallwch gysylltu â ni cyn i chi deithio ar 03330 050 501 neu drwy ymweld â’r dudalen ganlynol: Teithio hygyrch.
Prynwch docyn cyn i chi fynd ar y bws
Peidiwch ag anghofio prynu eich tocyn cyn i chi fynd ar y bws, yn union fel y byddech chi pe baech chi'n teithio ar y trên.
Gallwch brynu eich tocyn o beiriant gwerthu tocynnau eich gorsaf, wyneb yn wyneb o swyddfa docynnau eich gorsaf agosaf, neu o'n gwefan neu ap.
Angen rhagor o wybodaeth?
Os hoffech chi wybod mwy am wasanaethau bws yn lle trên, gan gynnwys gwybodaeth am hygyrchedd a beiciau, ewch i dudalen wybodaeth National Rail yma.