Gwneud y gorau o’ch taith ar y trên

Mae teithiau hirach ar y trên yn wych ar gyfer ymlacio, gweithio neu’r ddau. Gall ein cyfleusterau ar y trên eich helpu i wneud y gorau o’ch amser teithio, p’un a ydych chi’n cymudo, yn ymweld â theulu neu ffrindiau neu’n mynd ar drip hamdden.

Cadwch mewn cysylltiad gyda’n Wi-Fi am ddim ar y trên, sy’n eich galluogi i ddal i fyny â gwaith, edrych ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddiddanu plant ifanc sy’n teithio gyda chi. Mae gan rai llwybrau pellter hir hefyd wasanaeth troli a phrydau bwyd ar y trên sy’n cynnig bwyd ffres, byrbrydau a diodydd poeth ac oer. Wedi’i weini’n syth i’ch sedd.

 

Teithio â bagiau, beiciau ac anifeiliaid anwes

Mae croeso i anifeiliaid anwes ar ein trenau heb ddim cost ychwanegol, ar yr amod eu bod yn ymddwyn yn dda a ddim yn tarfu ar gwsmeriaid eraill. Gallwch ddod â’ch beic ar y trên, ond efallai y bydd lle yn brin ar rai adegau.

Er mwyn i bawb fod yn ddiogel ac yn gyfforddus, cadwch eiliau a drysau’n glir drwy ddefnyddio raciau uwchben a mannau penodol ar gyfer bagiau.

Os oes angen cymorth neu gyngor am deithio ar y trên arnoch, bydd y goruchwyliwr yn fwy na pharod i’ch helpu.

 

Cysylltu â ni

 

Cwestiynau cyffredin

A oes Wi-Fi am ddim ar drên?

Oes, rydym yn cynnig Wi-Fi am ddim ar ein trenau. Cysylltwch â’n rhwydwaith i aros ar-lein drwy gydol eich taith ar y trên.

Gaf i ddod â chi neu anifail anwes ar fy nhaith ar y trên?

Cewch, gall hyd at ddau anifail anwes domestig deithio am ddim ar ein trenau. Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr bob amser neu eu cadw mewn cludwr anifeiliaid anwes addas.

Alla i brynu bwyd a diod ar y trên?

Mae gan rai o’n gwasanaethau pellter hir wasanaethau troli ar y trên sy’n gweini diodydd poeth ac oer a byrbrydau. Mae croeso i chi hefyd ddod â’ch bwyd a’ch diodydd di-alcohol eich hun ar y trên.

Sut ydw i’n cael y gwerth gorau o’m taith ar y trên?

Rydym yn eich cynghori i drefnu eich taith a phrynu tocynnau’n gynnar ar yr ap neu’r wefan i gael y prisiau rhataf a’r siwrnai fwyaf didrafferth.

Gaf i ddod ag anifeiliaid anwes eraill ar wahân i gŵn ar drên?

Cewch deithio gyda nifer o anifeiliaid bach. Cysylltwch â ni yn customer.relations@tfw.wales cyn i chi deithio i gael rhagor o wybodaeth.

A oes toiledau ar drenau Trafnidiaeth Cymru bob amser?

Mae gan y rhan fwyaf o’n gwasanaethau doiledau hygyrch sydd â chyfleusterau newid babanod ar y trenau. Ar rai llwybrau lleol byrrach, sy’n rhedeg yn aml, efallai na fydd toiledau ar y trenau - bydd y rhain ar gael mewn gorsafoedd allweddol ar hyd y rheilffordd.

Beth ddylwn i ei wneud mewn argyfwng yn ystod fy nhaith ar y trên?

Os ydych chi’n teimlo’n sâl neu’n sylwi ar argyfwng ar y trên, dywedwch wrth y goruchwyliwr ar unwaith. Mewn sefyllfa frys, gallwch dynnu’r larwm argyfwng wrth ymyl drysau’r trên, neu anfon neges destun at yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn gyfrinachol ar 61016.