
Ydych chi'n teithio gyda’ch beic?
Mae gennym leoedd i feiciau ar ein trenau, ond mae lle’n brin.
Ar rai gwasanaethau, gofynnwn i chi nodi eich bod chi angen lle i'ch beic pan fyddwch chi'n prynu eich tocyn (cymaint â phosibl ymlaen llaw, ac o leiaf 24 awr cyn i chi deithio). Nid oes angen talu i archebu lle - ffoniwch ni ar 0333 3211 202 am ragor o wybodaeth ac i archebu lle. Mae ein llinellau’n agored rhwng 0800 a 2000 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1100 a 2000 ar ddydd Sul. Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i'n rhif o ffonau BT.
O ran gwasanaethau lle nad oes modd trefnu ymlaen llaw, mae'r holl fannau parcio eraill ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Ac nid oes gan rai o'n teithiau lleol yn y Cymoedd a Chaerdydd le ar gyfer beiciau yn ystod oriau brig.
Ble mae modd storio eich beic
Chwiliwch am y symbol y tu allan i'r trên. Ewch ar y trên lle mae’r symbol i'w weld, a rhowch eich beic yn y man dynodedig sydd â seddi sy'n plygu.
Mae’r mannau hyn hefyd yn cael eu rhannu gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhieni â phlant ifanc mewn cadeiriau gwthio. Helpwch ni i gadw llwybrau a drysau’n glir drwy gynnig seddi i'r teithwyr hyn.
Gwybodaeth bwysig
- Hyd yn oed os ydych chi wedi archebu lle, fe fydd beiciau bob amser yn cael eu cludo yn ôl disgresiwn staff y trên
- Ni allwn fynd â beiciau heb deithiwr ar unrhyw un o'n trenau
- Ni chaniateir beiciau modur, mopedau, sgwteri modur, beiciau modurol na beiciau tandem ar unrhyw wasanaeth
- Yn ystod gwaith trwsio rheilffyrdd, ni fyddwch yn gallu mynd â'ch beic ar fysiau a ddarperir yn lle trenau
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti