Amodau Teithio National Rail

Pan rydych yn prynu tocyn i deithio ar y rhwydwaith trên, rydych yn llunio cytundeb gyda’r cwmnïau trên. Mae’r cytundeb hwnnw yn rhoi’r hawl i chi deithio rhwng y gorsafoedd ac o fewn y parthau sydd ar eich tocyn.

Mae Amodau Teithio National Rail hefyd yn rhan o’r cytundeb hwnnw ac maent yn berthnasol i unrhyw deithiau domestig (hynny yw, teithiau nad ydynt yn rhyngwladol) gan wasanaethau trên a gynlluniwyd i gwsmeriaid y cwmnïau trên ar rwydwaith trenau’r Deyrnas Unedig.

Tra bod Amodau Teithio National Rail yn nodi’ch hawliau ac unrhyw rwystrau i’r hawliau hynny, mae’n bosib y bydd y cwmnïau trên yn rhoi hawliau mwy eang ichi na’r rheini a nodir yma. Fodd bynnag, ni chaniateir iddynt roi llai o hawliau ichi, oni bai bod amod penodol yn galluogi i hynny ddigwydd megis rhai mathau o docynnau â phrisiau gostyngol, fel tocynnau Advance.

Mae Amodau Teithio National Rail felly’n nodi’r lefel o wasanaeth lleiaf bod hawl gennych iddi.

Bydd staff swyddfa docynnau’r cwmni trên yn rhoi cyngor amhleidiol o ran tocynnau ac unrhyw rwystrau sy’n perthyn i’r defnydd ohonynt, oni bai bod man gwerthu’r tocyn yn perthyn i gwmni trên penodol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a’ch rhwymedigaethau fel cwsmer, ewch i wefan National Rail.

Hawliau a Rhwymedigaethau Cwsmeriaid