Teithio â bagiau neu anifeiliaid anwes?
Gallwch chi ddod â hyd at dair eitem bersonol ar ein trenau am ddim - yn cynnwys hyd at ddwy eitem fawr (fel cês neu fag cefn) ac un bag llaw, bag cefn neu fag dogfennau llai.
Mae cadeiriau olwyn (hyd at faint penodol), pramiau sy’n plygu, caricot a beiciau i gyd yn cael eu caniatáu ar ein trenau. Mwy o wybodaeth am feiciau ar y trên.
Gallwch chi hefyd ddod â chŵn, cathod ac anifeiliaid bach eraill (dim mwy na dau fesul teithiwr) ar yr amod nad ydynt yn peryglu neu’n peri trafferth i gwsmeriaid eraill neu i’r staff. Yn ystod gwaith peirianyddol, ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.
Os oes gennych chi ormod o fagiau, neu eitemau mawr dros fetr o hyd, byddwn yn gallu cludo’r rhain o bosib, os oes digon o le. Yn ystod gwaith peirianyddol, does dim modd i chi ddod ag eitemau mawr ar y bysys sy’n cael eu defnyddio yn lle’r trenau.
Sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn trydan a beiciau cymorth pedal
Caniateir i chi ddod â chadeiriau olwyn trydan a sgwteri symudedd ar y trên. Er mwyn ein helpu i ddiwallu’ch anghenion orau, rhowch wybod i ni cyn eich taith os oes angen i chi ddod â’r rhain i mewn – byddwn yn hapus i helpu. Gellir cario beiciau trydan cymorth pedal ar y trên hefyd yn unol â'n polisi beicio.
Beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu?
- Eitemau dros fetr mewn unrhyw ddimensiwn nad ydych chi’n gallu eu cario heb gymorth. Mae hyn yn cynnwys canŵau, gleiderau, byrddau hwylio/syrffio, dodrefn mawr ac unrhyw offerynnau cerddoriaeth mawr
- Ni all e-sgwteri ac e-feiciau gael eu cario ar ein trenau o dan unrhyw amgylchiadau. Mae astudiaethau wedi dangos y gall y batris lithiwm-ion a ddefnyddir ar y dyfeisiau hyn achosi risg tân a hefyd allyrru mwg gwenwynig. Rydym yn cydnabod y gallai hyn fod yn siomedig, ond diogelwch a chysur ein cwsmeriaid fydd ein blaenoriaeth bob amser.
- Ni all beiciau trydan (sy'n cael eu pweru gan fodur yn unig) gael eu cario ar ein trenau am resymau diogelwch.
- Beiciau modur a mopeds
- Da byw (e.e. moch, defaid a geifr)
- Unrhyw anifail neu eitem sydd, ym marn ein staff, yn achosi neu’n debygol o achosi trafferth i gwsmeriaid o ganlyniad i'w faint neu ei ymddygiad
Mae mwy o wybodaeth am beth gallwch chi ddod ar y trên, a beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu, ar gael yn National Rail.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti