Dosbarth Cyntaf bwydlen cinio a swper
Mae gennym enw Cymreig, natur Gymreig ac rydym yn falch iawn o weini cynnyrch Cymreig. Rwyf wedi creu’r fwydlen hon gyda gofal er mwyn dathlu’r ansawdd, blas a chynhwysion rydym ni’n ffodus o gael ar ein stepen drws ac ar draws ein rhwydwaith. Ymlaciwch, archebwch rywbeth i fwyta, a chymrwch eiliad i fwynhau’r tirweddau amrywiol o’ch cwmpas.
Cyrsiau cyntaf
Terîn coesgyn cig moch - £7.95
Wedi’i weini gyda bara surdoes wedi’i dostio, siytni winwns wedi’u carameleiddio â finegr balsamaidd Eryri a berwr y dŵr.
Yn cynnwys: glwten, mwstard, SO2. Gall gynnwys: llaeth, seleri, sesame, soia, wy.
Bruschetta carpaccio betys - £7.95
Wedi’i weini gyda bara gwladaidd wedi’i dostio gyda chaws gafr Pant-Ys-Gawn wedi’i chwipio gyda betys a berwr y dŵr.
Yn cynnwys: glwten, llaeth.
Prif gyrsiau
Brest cyw iâr wedi’i lapio mewn cig moch brith Dewi Roberts - £18.95
Wedi’i llenwi â stwffin saets a winwns, tatws stwnsh hufennog, brocoli coesyn brau a saws madarch.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, mwstard, SO2.
Llafn plu o gig eidion wedi’i rostio’n araf - £23.45
Wedi’i weini gyda thatws dauphinoise â chaws Snowdonia Cheese Co Black Bomber, cêl menynaidd a saws bourguignon cyfoethog.
Yn cynnwys: llaeth, SO2, wy.
Tarten winwns Cymreig - £16.95
Wedi’i llenwi â winwns wedi’u carameleiddio Eryri a chennin wedi’u brwysio.
Gyda chaws cheddar mwg Blaenafon ac wedi’i weini’n gynnes gyda bresych savoy â menyn, a saws mwstard.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, mwstard, SO2, wy. Gall gynnwys: seleri.
Pwdinau
Treiffl y Goedwig Ddu - £6.95
Haenau browni, compot ceirios du, hufen chwip a naddion siocled tywyll Coco Pzazz.
Yn cynnwys: glwten, soia.
Pwdin bara a menyn gydag afalau a charamel - £7.95
Haenau o dorth brioche â chwstard gyda darnau o afal a chrwst crymbl crensiog wedi’i weini gyda saws caramel hallt Sir Benfro Crwst.
Yn cynnwys: glwten, llaeth, wy. Gall gynnwys: soia.
Am ddim
- Paned o Goffi Gymreig
- Te ‘Paned Gymreig’
- Sudd oren Flawsome! Wonky
- Dŵr llonydd neu befriog Radnor
- Teisennau brau Aberffraw
- Creision hallt Brown Bag
Ar yr amod bod y cynnyrch ar gael. Roedd y prisiau'n gywir ar 1 Medi 2026 ac mae’n bosibl iddyn nhw newid. Taliadau electronig neu gerdyn yn unig.
Allwn ni ddim gwarantu bod ein bwyd heb unrhyw alergenau yn llwyr. Siaradwch ag aelod o staff i gael rhagor o wybodaeth.