Gallwch deithio’n ddiogel o’r Fenni i Fanceinion yn teimlo’n braf ac yn barod am eich antur. Gallwch chi hefyd ddod â’ch ffrind blewog gyda chi am y diwrnod, heb gost ychwanegol.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Faint o amser mae’r trên o’r Fenni i Fanceinion yn ei gymryd?

Gall ein trenau fynd â chi yno mewn llai na thair awr - tua 2 awr 56 munud i fod yn fanwl gywir. Mae’r daith yn uniongyrchol hefyd, sy’n golygu nad oes angen trosglwyddo na newid er mwyn cyrraedd pen eich taith.

 

Pam teithio o’r Fenni i Gaerdydd ar y trên?

Sefydlwyd Manceinion gan y Rhufeiniaid tua 80 OC, ac roedd ganddi rôl bwysig yn y Chwyldro Diwydiannol. Mae Manceinion yn lleoliad delfrydol ar gyfer trip undydd neu wyliau penwythnos. Gyda nifer o atyniadau, mae rhywbeth at ddant pawb.

Blinwch blant egnïol yn y Play Factore - y ganolfan chwarae ac adloniant dan do fwyaf yn y DU. Mae’r ganolfan arloesol hon yn cynnwys ardal chwarae ar gyfer plant ifanc. I blant hŷn, mae tag laser, gwifrau gwib, Valo rhyngweithiol, trampolinau naid a byd realiti rhithwir anhygoel. Mae Canolfan Ddarganfod Legoland gerllaw yn cynnig y profiad Lego perffaith gyda Miniland, Dinas Ninjago, rasio realiti rhithwir a sinema 4D.

Mae Amgueddfa Manceinion yn gartref i dros bedair miliwn o drysorau, gan gynnwys Stan y T-Rex a’i ffrindiau, casgliadau hanes naturiol, mymïau o’r Aifft Hynafol a llawer mwy. Un wledd arbennig yw trigolion hynod ddiddorol y fifariwm, sy’n fyw iawn. Fel rhan o raglen fridio mewn caethiwed ar gyfer rhai o rywogaethau mwyaf bregus o amffibiaid, mae’n werth gweld eu casgliad. Gallwch chi hyd yn oed noddi broga.

Allwch chi ddim ymweld â Manceinion heb fynd i’r Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol. Mae’r ddinas yn gartref i Manchester United a Manchester City, ac mae’r arddangosfeydd trawiadol hyn o femorabilia chwaraeon, o grysau tîm i fedalau a thlysau, yn cynnig golwg prin y tu ôl i’r llenni ar fywyd pêl-droed.

Os ydych chi’n chwilio am rywfaint o therapi siopa, mae gan Ganolfan Siopa Arndale siopau mawr y stryd fawr a labeli dylunwyr o dan un to, ac os ydych chi’n mwynhau coffi gyda’ch siopa, mae digon o lefydd i ymlacio gyda diod poeth neu rywbeth mwy sylweddol. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy crefftus, mae siopau bwtîc annibynnol Manceinion yn cynnig amrywiaeth eang o grefftau sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol, o ddillad trwchus wedi’u gwau i emwaith arian wedi’i wneud â llaw. Yn ardal gosmopolitaidd Castlefield y ceir y trysorau gorau a mwyaf anarferol, ynghyd â bwytai cain a cherddoriaeth stryd fyw. Mae Castlefield, sy’n cael ei ystyried yn ganolbwynt diwylliannol, yn werth ymweld ag ef.

Daliwch y trên adref, a defnyddio ein Wi-Fi am ddim i ymlacio gyda’ch hoff gerddoriaeth, i sgwrs â’ch ffrindiau neu i lwytho ein ap i lawr. Mae’n rhoi’r cynigion arbennig diweddaraf i chi o ran arbed arian, yr amserlenni diweddaraf a mwy, gan wneud cynllunio eich taith nesaf yn syml.