Boed yn wyliau gyda'r teulu, penwythnos i ffwrdd gydag anwylyn neu drip busnes, teithiwch yn gyfforddus ac yn ddidrafferth rhwng Casnewydd and Chaer. Osgowch y traffyrdd prysur ac arbedwch amser - a gwnewch y daith mewn dim ond 2 awr 30 munud.

 

Manylion allweddol: Trenau o Gasnewydd i Gaer

Hyd y daith: 2 awr 42 munud ar y trên cyflymaf
Oes trenau uniongyrchol? Oes
Trên cyntaf: 04:49
Amlder: Tua 25 o drenau bob dydd
Prif arosfannau: Cwmbrân, Y Fenni ac Amwythig
Gorsaf gyrchfan: Caer
Cyfleusterau: Seddi eang, Wi-Fi am ddim ar y trên a mannau gwefru
Arbedion ar docynnau: Prynwch docynnau Advance, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.

 

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

 

Teithio o Gasnewydd i Gaer

Os ydych chi'n mynd o Gasnewydd i Gaer, beth am deithio ar un o'n llwybrau mwyaf poblogaidd? Mae'r trên yn gyflym ac yn gyfleus a gallwch osgoi’r helynt o yrru.

Mae dros 25 o drenau'r dydd, felly ni fyddwch byth yn aros yn hir, yn enwedig yn ystod oriau prysur. Mae trenau'n rhedeg o gyn gynted â 04:00 yn y bore i ar ôl 22:00 yn y nos, sy’n berffaith os ydych chi'n foregodwr neu'n aderyn y nos.

P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn mynd am benwythnos i ffwrdd neu'n ymweld ag anwyliaid, y trên yw'r opsiwn perffaith.

 

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gasnewydd i Gaer?

Mae'r trên cyflymaf tua 2 awr 42 munud. Mae'r daith gyfartalog yn cymryd tua 3 awr.

Pa mor aml mae'r trên o Gasnewydd i Gaer?

Mae dros 25 o drenau’r dydd o Gasnewydd i Gaer, gyda threnau'n gadael yn rheolaidd yn ystod cyfnodau prysur.

Pam teithio ar y trên o Gasnewydd i Gaer?

Dyma'r ffordd fwyaf cyfeillgar i'r amgylchedd o deithio ac fel arfer y cyflymaf.

Dyma beth allwch chi ei weld yng Nghaer.

  • Ymwelwch â Sŵ Caer - mwynhewch weld llewod, eliffantod a mwy yn un o hoff sŵau'r DU.
  • Mwynhewch ychydig o hanes - ewch i weld y rhyfeddod hanesyddol, Eglwys Gadeiriol Caer a cherddwch ar hyd muriau Caer.
  • Siopwch ar Chester Rows - o siopau gemwaith i siopau annibynnol.
  • Ewch ar daith ysbrydion dychrynllyd - clywch straeon brawychus am ysbrydion lleol yn un o ddinasoedd mwyaf bwganllyd y DU.

 

Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu tocynnau trên o Gasnewydd i Gaer

Chwilio am y tocynnau trên mwyaf fforddiadwy o Gasnewydd i Gaer? O Gardiau Rheilffordd i ddewis yr amseroedd cywir, dilynwch yr awgrymiadau hyn.

  • Archebwch docynnau ar gyfer cyfnodau y tu allan i oriau brig a chyfnodau tawelach fyth.
  • Defnyddiwch Gerdyn Rheilffordd.
  • Prynwch eich tocyn hyd at 12 wythnos yn gynnar.

Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.

*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.

 

Cwestiynau cyffredin

Oes trên uniongyrchol o Gasnewydd i Gaer?

Oes, gallwch archebu digon o drenau uniongyrchol o Gasnewydd i Gaer er mwyn osgoi gorfod newid trenau. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch.

Beth yw'r ffordd gyflymaf o deithio o Gasnewydd i Gaer?

Y trên yw'r ffordd gyflymaf o deithio o Gasnewydd i Gaer. Mae'r rhan fwyaf o drenau o dan 3 awr, ac mae rhai bron yn 2 awr a 30 munud.

Alla i brynu tocyn dychwelyd?

Gallwch, mae prynu tocyn Dwyffordd yn hawdd. Ddim yn siŵr pryd rydych chi'n dod yn ôl? Prynwch docyn Dwyffordd Agored ar gyfer teithio yn y 30 diwrnod nesaf (gall rhai cyfyngiadau fod yn berthnasol).

Pa mor gynnar alla i brynu tocyn o Gasnewydd i Gaer?

Gallwch brynu eich tocyn trên tua 12 wythnos cyn i chi deithio. Gall hyn leihau pris y tocyn.