Disgrifiodd Dylan Thomas Abertawe fel “tref hyll, hyfryd” wrth ymyl “glannau troellog hir a godidog”. Mae’r ddinas a alwodd yn gartref yn dal i gyfuno ymdeimlad cryf o hanes â sîn ddiwylliannol fywiog a lleoliad arfordirol ysblennydd.
Wedi’i lleoli yn ne-orllewin Cymru, mae gan Abertawe gysylltiadau rheilffordd da â chyrchfannau ledled Cymru a gweddill y DU, sy’n ei gwneud yn hawdd ymweld am ddiwrnod, penwythnos neu arhosiad hirach.
Archwilio amgueddfeydd a hanes Abertawe
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dysgwch sut mae diwydiant ac arloesedd wedi siapio Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae ei harddangosfeydd yn cwmpasu dros 300 mlynedd o hanes Cymru drwy beiriannau, gwrthrychau, ffilmiau ac arddangosfeydd rhyngweithiol.
Mae’r amgueddfa tua 10 munud ar droed o orsaf drenau Abertawe ac mae mynediad am ddim.
- Mynediad am ddim
- Dim ond 10 munud ar droed o’r orsaf
- Atyniad dan do
Oriel Gelf Glynn Vivian
Dim ond taith gerdded fer o’r orsaf, mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn arddangos celf hanesyddol a chyfoes, ochr yn ochr â rhaglen newidiol o arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau.
Mae mynediad am ddim, sy’n golygu bod yr oriel yn lle defnyddiol i dreulio prynhawn tawelach neu ddiwrnod glawog yn y ddinas.
- Mynediad am ddim
- Taith gerdded fer o orsaf drenau Abertawe
- Arddangosfeydd a gweithgareddau i’r teulu
Castell Abertawe
Mae olion Castell Abertawe yn sefyll wrth ymyl Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas. Wedi’i sefydlu gan Henry de Beaumont, Iarll cyntaf Warwick ac Arglwydd Gŵyr, mae’r gaer ganoloesol wedi goroesi canrifoedd o newid, gan gynnwys bomio adeg y rhyfel, a gellir gweld y castell yn rhwydd yng Ngerddi Sgwâr y Castell.
Mae’n werth nodi bod y lefelau uchaf ar gau, ond mae lleoliad canolog y castell yn ei wneud yn hawdd ei gynnwys wrth grwydro’r ddinas ar droed.
- Am ddim i’w weld
- Llai na 10 munud o’r orsaf
- Tirnod canol dinas
Gweithgareddau i’r teulu cyfan yn Abertawe
LC Abertawe
LC Abertawe yw cartref parc dŵr dan do mwyaf Cymru, gyda sleidiau, pwll tonnau, afon ddiog a mannau trochi i blant iau. Mae’r ganolfan hamdden ehangach hefyd yn cynnwys cyfleusterau dringo, chwarae a ffitrwydd.
Mae’n agos at y marina ac oddeutu 10 munud ar droed o orsaf drenau Abertawe.
Sw Trofannol Plantasia
Camwch i mewn i goedwig law drofannol yn Plantasia, lle mae dros 50 o rywogaethau anifeiliaid yn byw ymysg planhigion, pyllau a rhaeadrau egsotig.
Gall ymwelwyr weld ymlusgiaid, pryfed, pysgod, primatiaid ac adar trofannol, ac mae profiadau anifeiliaid a cheidwaid ar gael hefyd. Mae’r safle dan do yn gwneud y sw yn ddewis da beth bynnag fo’r tywydd.
Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe
Dewch i weld beth sy’n digwydd yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, lleoliad adloniant byw yn y Bae Copr. Fe welwch raglen sydd fel arfer yn cynnwys cerddoriaeth, comedi, theatr a sioeau i’r teulu drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r arena oddeutu 10 munud ar droed o orsaf drenau Abertawe.
Marchnad Dan Do Abertawe
Marchnad Abertawe yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru ac mae wedi masnachu yng nghanol y ddinas ers cenedlaethau, a dim ond 10 munud ar droed yw hi o’r orsaf.
Porwch stondinau sy’n gwerthu cynnyrch o Gymru, cig, bwyd môr, cacennau, anrhegion a nwyddau wedi’u gwneud â llaw, neu arhoswch am ginio a rhowch gynnig ar ffefryn lleol fel bara lawr neu bicau ar y maen.
Parciau, gerddi a llwybrau cerdded arfordirol
Gerddi Clun
Mae Gerddi Clun, sy’n edrych dros Fae Abertawe, yn dod â choetiroedd, lawntiau agored a chasgliadau planhigion o bwys cenedlaethol ynghyd.
Mae’r rhododendrons, coed clychau’r gog, ardaloedd blodau gwyllt, nentydd a llwybrau yn gwneud y gerddi’n lle heddychlon i fynd am dro. Mae mynediad am ddim, ac mae bysiau i gyfeiriad y Mwmbwls yn stopio ger yr orsaf.
Cerdded ar lannau Bae Abertawe
Dilynwch lan y môr o’r ddinas tuag at y Mwmbwls i gael golygfeydd eang ar draws Bae Abertawe. Mae rhannau o’r promenâd yn addas ar gyfer cerdded (gyda, neu heb ffrind â phedair coes) a beicio, gyda chaffis, parciau a thraethau ar hyd y llwybr.
Mae rhannau hirach yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru ac yn parhau tuag at Benrhyn Gŵyr. Gwiriwch y llwybr o’ch dewis cyn teithio, yn enwedig lle mae hygyrchedd yn bwysig.
Ymweld â’r Mwmbwls
Mae’r Mwmbwls yn gymdogaeth glan môr ym mhen gorllewinol Bae Abertawe, sy’n enwog am ei siopau annibynnol, bwytai, siopau hufen iâ a theithiau cerdded arfordirol.
Pier y Mwmbwls
Agorwyd Pier y Mwmbwls ym 1898, ac mae’n un o dirnodau Fictoraidd enwocaf Bae Abertawe. Mae’r ardal gyfagos yn cynnwys arcêd ddifyrion, bwyd a diod, traeth bach a golygfeydd tuag at Oleudy’r Mwmbwls.
Mae gwaith adfer yn parhau, ac efallai y bydd mynediad ar hyd y pier wedi’i gyfyngu, felly gwiriwch yr wybodaeth ddiweddaraf cyn mynd.
Gallech hefyd ymweld â Chastell Ystumllwynarth gerllaw, crwydro’r siopau yn y Mwmbwls neu ddilyn llwybr yr arfordir o amgylch Bae Bracelet.
Penrhyn Gŵyr
Penrhyn Gŵyr oedd y man cyntaf yn y DU i gael ei ddynodi’n ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’, ac mae bellach yn cael ei gydnabod fel Tirwedd Cenedlaethol.
Mae arfordir amrywiol y penrhyn yn cynnwys traethau eang, baeau cysgodol, clogwyni calchfaen, morfeydd heli a llwybrau cerdded. Mae’r llefydd poblogaidd yn cynnwys Rhosili, Bae’r Tri Chlogwyn, Oxwich, Porth Einon a Llangynydd.
Mae’n werth neilltuo diwrnod cyfan i ymweld â Phenrhyn Gŵyr, yn hytrach na cheisio rhuthro draw am gip sydyn o ganol y ddinas. Mae gwasanaethau bws yn rhedeg o Abertawe, ond mae amseroedd teithio ac amleddau’n amrywio, felly cynlluniwch eich taith cyn cychwyn.
Dilyn ôl troed Dylan Thomas
Mae cysylltiad Abertawe â Dylan Thomas i’w weld ar draws y ddinas. Ewch i Ganolfan Dylan Thomas, gweld y tŷ lle cafodd ei eni neu gerdded drwy Barc Cwmdoncyn, a ysbrydolodd rywfaint o’i waith.
Mae’r safleoedd hyn yn cynnig golwg wahanol ar Abertawe a hanes llenyddol y ddinas, yn enwedig i ymwelwyr sydd eisoes yn gyfarwydd â gwaith y bardd.
Pethau i’w gwneud am ddim yn Abertawe
Ydych chi’n mynd i Abertawe ar gyllideb? Dim problem. Gallwch fwynhau Abertawe gydag opsiynau am ddim, fel:
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Oriel Gelf Glynn Vivian
- Castell Abertawe
- Gerddi Clun
- Promenâd a thraethau Bae Abertawe
- Cerdded o amgylch y marina
- Orielau, parciau a llwybrau arfordirol dethol
Gwiriwch wefannau unigol cyn ymweld, gan y gall amseroedd agor, digwyddiadau a threfniadau mynediad newid.
Teithio i Abertawe ar drên
Mae gorsaf drenau Abertawe wedi’i lleoli’n agos at ganol y ddinas, Marchnad Abertawe, Oriel Gelf Glynn Vivian a sawl atyniad ar lan y dŵr.
Ar gyfer y Mwmbwls, Gerddi Clun a Phenrhyn Gŵyr, cerddwch i Orsaf Fysiau Abertawe ger Canolfan Siopa’r Quadrant er mwyn teithio yno ar fws lleol.
Defnyddiwch ein hadnodd cynllunio teithiau i wirio amseroedd trenau, prisiau ac i brynu eich tocynnau. Mae prynu drwy ein gwefan neu ap yn golygu nad oes ffioedd archebu.
Llwybrau poblogaidd i Abertawe:
Cynllunio eich diwrnod yn Abertawe
Aros yng nghanol y ddinas? Gallwch ymweld â Marchnad Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y marina a Chastell Abertawe mewn un diwrnod.
Os ydych yn ymweld â’r ddinas gyda’ch teulu, ewch i LC Abertawe neu Plantasia cyn mynd am dro ar hyd y glannau. Os yw’r arfordir yn uchel ar eich agenda, rhowch fwy o amser i’r Mwmbwls neu neilltuwch ddiwrnod ar wahân i grwydro Penrhyn Gŵyr.
Prynwch eich tocynnau trên ar ein gwefan neu ar yr ap, a dechreuwch gynllunio eich taith i Abertawe heddiw.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-