• Sut gallaf wneud cais am fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
    • Mynd i'r wefan yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am gerdyn. Ewch i www.trc.cymru/cerdynteithio a dilyn y cyfarwyddiadau syml. Neu, ewch i’ch llyfrgell leol neu eich hyb cymunedol i fynd ar y we. (Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, efallai na fydd eich swyddfa cyngor lleol, llyfrgell neu ganolfan gymunedol lleol ar agor ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ar 0300 303 4240 neu ebostiwch cerdynteithio@trc.cymru gyda'ch ymholiad neu os oes angen cymorth arnoch).

      Os nad ydych chi'n gallu gwneud cais ar y wefan, peidiwch â phoeni, gallwch chi ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun dibynadwy i lenwi'r cais ar-lein ar eich rhan.

      Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, siaradwch gyda’ch cyngor lleol neu ffoniwch 0300 303 4240 i gael gwybod lle mae cymorth ar gael yn lleol. Cofiwch na fyddwch chi’n gallu gwneud cais dros y ffôn.

      Bydd angen i chi ddarparu copïau o dystiolaeth i gefnogi eich cais, a llun pasbort newydd.  Pan fydd y rhain gennych, anfonwch eich ffurflen i Cardiau Teithio Rhatach, Blwch Post 55, Penrhyndeudraeth LL49 0AY.

      • Peidiwch ag anfon fersiynau gwreiddiol o ddogfennau fel pasbort neu drwydded yrru.
      • Sylwch nad yw'r gwasanaeth ‘post cofnodedig’ ar gael ar gyfer cyfeiriadau Blwch Post.

      Mae’n haws os gallwch ofyn i rywun eich helpu i wneud cais ar y wefan yn www.trc.cymru/cerdynteithio

  • Pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu i wneud cais am fy ngherdyn newydd?
    • I wneud cais, mae angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

      • Dogfen sy’n dangos eich cyfeiriad a'ch cod post, bydd hon yn cael ei gwirio i sicrhau eich bod yn breswylydd sydd â hawl yng Nghymru. Mae canllawiau ar hyn yn https://trc.cymru/gwybodaeth/pobl-dros-60/cerdynteithio-cymhwyster  
      • Dogfen sy’n dangos eich dyddiad geni. Bydd hon yn cael ei gwirio i sicrhau eich bod chi’n gymwys am y cerdyn rydych chi’n gwneud cais amdano. Mae canllawiau ar hyn yn https://trc.cymru/gwybodaeth/pobl-dros-60/cerdynteithio-cymhwyster
      • Eich Rhif Yswiriant Gwladol os ydych dros 16 oed, sydd i’w weld ar ddatganiadau pensiwn, datganiadau anabledd neu slipiau cyflog.
      • Ffotograff pasbort diweddar, os ydych yn gwneud cais ar ffôn neu gyfrifiadur llechen byddwch yn gallu cymryd llun ar y pwynt perthnasol yn y cais, os na allwch chi lanlwytho un o'r cyfrifiadur.
      • Os ydych yn gwneud cais am docyn i'r anabl, bydd arnoch angen copïau electronig o ddogfennau sy'n profi eich hawl, a gellir cael canllawiau ar y rhain yn https://trc.cymru/gwybodaeth/pobl-dros-60/cerdynteithio-cymhwyster. Gwnewch yn siŵr bod y dogfennau’n cynnwys digon o fanylion, er enghraifft y ddogfen lawn sy’n dangos eich sgôr pwyntiau llawn ac at bwy yr anfonwyd y ddogfen.

      Os ydych chi’n ymweld â llyfrgell leol, canolfan gymunedol, neu os ydych chi’n gofyn i rywun wneud cais ar eich rhan, cofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon gerllaw, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol. Ni allwn brosesu eich cais hebddynt. (Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, efallai na fydd eich swyddfa cyngor lleol, llyfrgell neu ganolfan gymunedol lleol ar agor ar hyn o bryd).

  • Faint o amser mae'n ei gymryd i dderbyn fy ngherdyn newydd?
    • Ein nod yw i chi ei dderbyn o fewn 10 diwrnod gwaith. Dylech fod yn ymwybodol fod post yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl ar hyn o bryd oherwydd Covid.

  • Fydda i’n gallu mynd â fy nghais i swyddfa’r cyngor lleol?
    • Bydd eich swyddfeydd y cyngor lleol yn gallu eich helpu gyda’ch cais. (Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, efallai na fydd eich swyddfa cyngor lleol, llyfrgell neu ganolfan gymunedol lleol ar agor ar hyn o bryd).

  • Rydw i'n 60 oed ymhen rhai wythnosau. Pryd galla' i wneud cais?
    • Gallwch chi wneud cais am gerdyn hyd at 14 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 60 oed.

  • Rydw i’n anabl ac yn methu teithio ar fy mhen fy hun; sut mae gwneud cais am fy Ngherdyn Teithio cyntaf ar gyfer Person Anabl a Chyd-deithiwr?
  • Pam nad ydych chi wedi gallu prosesu fy nghais am Gerdyn Teithio Person Anabl?
    • Mae nifer o resymau pam na fyddem wedi gallu prosesu’ch cais am Gerdyn Teithio Person Anabl, er enghraifft:

      • Nid yw’r dogfennau’n cynnwys digon o fanylion, er enghraifft rydych wedi darparu tudalen flaen y llythyr PIP yn unig ac nid y ddogfen lawn yn dangos eich sgôr pwyntiau llawn.
      • Nid ydych wedi darparu dogfennau swyddogol neu nid yw’n bosibl eu darllen.
      • Nid yw’r dogfennau’n nodi pwy sy’n gymwys am gymorth, er enghraifft dim ond y dudalen sgôr pwyntiau sydd wedi’i darparu ac nid y ddogfen lawn yn dangos eich enw a’ch cyfeiriad.
      • Nid yw’r ddogfen yn cefnogi cais am Gerdyn Teithio Rhatach ar sail anabledd.
  • Sut ydw i’n defnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
    • Mae'n hawdd defnyddio eich cerdyn. Pan fyddwch chi’n teithio ar y bws, y cwbl y mae angen i chi ei wneud ydi:

      • Dangos eich cerdyn i'r gyrrwr
      • Rhoi eich cerdyn ar y peiriant darllen tocynnau
      • Dod o hyd i sedd a mwynhau eich taith am ddim

      Cofiwch mai dim ond chi sy’n gallu defnyddio eich cerdyn. Os byddwch yn gadael i rywun arall ei ddefnyddio, gallai eich cerdyn gael ei ganslo a/neu y byddwn yn gwrthod ei adnewyddu. Os cyhoeddwyd Cerdyn Teithio Rhatach ar gyfer Person Anabl a Chyd-deithiwr, dim ond pan fydd y cyd-deithiwr yn teithio gyda deiliad y cerdyn ar gyfer yr holl daith ar y bws y bydd yn cael teithio am ddim.

      Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.

  • Ble alla’ i ddefnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
    • Mae eich Cerdyn Teithio Rhatach yn ddilys ar yr holl wasanaethau bws cymwys sy'n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sy’n dechrau/gorffen mewn mannau sy'n cyffinio â Chymru, cyn belled nad yw'r siwrnai ar draws y ffin yn cynnwys newid bws yn Lloegr. Gallwch hefyd ddefnyddio rhai gwasanaethau trên penodol sy'n gweithredu yng Nghymru.

      Dylech fod yn ymwybodol nad ydych yn gallu defnyddio eich cerdyn ar wasanaethau bws fel National Express, Megabus neu City Sightseeing. Fodd bynnag, efallai y bydd cwmnïau yn cynnig gostyngiadau i Ddeiliaid Cerdyn Teithio Rhatach.

      Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.

  • Gyda phwy dylwn i gysylltu os ydw i'n colli neu'n difrodi fy ngherdyn newydd?
    • Os ydych chi'n colli neu'n difrodi eich cerdyn, y ffordd gyflymaf a'r hawsaf i ofyn am un newydd yw trwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar y wefan. Gallwch hefyd ffonio 0300 303 4240.

  • Dyma fy ngherdyn cyntaf; a allaf adennill fy gostau teithio tra byddaf wedi bod yn aros i'm tocyn bws gyrraedd?
    • Er ein bod yn cydnabod y gall aros i'ch cerdyn gyrraedd fod yn rhwystredig, ni allwn ad-dalu unrhyw gostau teithio a ysgwyddir wrth i chi aros i'ch tocyn bws gyrraedd. Mae hyn wedi digwydd erioed, ers cyflwyno'r cynllun presennol am y tro cyntaf yn 2009.

  • Rwy’n aros am gerdyn newydd; a allaf adennill fy gostau teithio tra byddaf wedi bod yn aros i'm tocyn bws gyrraedd?
    • Er ein bod yn cydnabod y gall aros i'ch cerdyn gyrraedd fod yn rhwystredig, ni allwn ad-dalu unrhyw gostau teithio a ysgwyddir wrth i chi aros i'ch tocyn bws gyrraedd. Dyma fu’r sefyllfa erioed, ers cyflwyno’r cynllun presennol am y tro cyntaf yn 2009.

  • Ydy'r cynllun cardiau rhatach wedi symud o'r cynghorau i Drafnidiaeth Cymru?
    • Nac ydy – y cynghorau sy’n parhau i reoli’r cynlluniau teithio rhatach dan y Ddeddf Trafnidiaeth (2000). Mae’r cynghorau wedi cytuno ein bod ni, sef Trafnidiaeth Cymru, yn gallu rhoi cymorth i'r cynghorau roi cardiau. Mae’r cynghorau yn dal i chwarae rhan bwysig yn y broses, gan gynnwys rheoli'r cardiau cyd-deithiwr a rhoi cymorth yn lleol.

  • Pam mae angen i chi gael fy rhif Yswiriant Gwladol?
    • Rydym yn deall yn llwyr fod deiliaid cardiau yn poeni am breifatrwydd a chyfrinachedd gwybodaeth bersonol.  Mae hyn yn bwysig dros ben i ni, ac rydym wedi cymryd llawer o gamau i sicrhau bod eich data’n ddiogel - mae ein hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys mwy o wybodaeth.

      Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi set o ddata ac mae’n argymell bod awdurdodau cyhoeddus yn ei gasglu er mwyn atal twyll.  Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru yma.

      Mae’r adran “Tocynnau teithio rhatach (OEDOLION YN UNIG) - manyleb data 2018-19” yn rhestru rhif Yswiriant Gwladol fel dangosydd pwysig ac mae’n dweud “Mae'r data sy'n ofynnol ar gyfer pob deiliad tocyn teithio rhatach cyfredol sy'n oedolyn”.

  • Mae angen i mi ddarparu llun newydd, beth yw'r gofynion?
    • Rhaid i'r ffotograff digidol wneud y canlynol:

      • dangos eich wyneb yn glir fel ei bod hi’n hawdd i yrwyr eich adnabod
      • cynnwys eich pen a’ch ysgwyddau
      • peidio â chynnwys pethau na phobl eraill
      • cael cefndir golau a phlaen

       

      Dylech chi wneud y canlynol:

      • wynebu am ymlaen ac edrych yn syth at y camera
      • cadw eich ceg ar gau, a pheidio â dangos emosiwn
      • cadw eich llygaid ar agor a sicrhau bod modd gweld y llygaid
      • peidio â chael dim yn gorchuddio eich pen (oni bai am resymau crefyddol neu feddygol)
      • peidio â chael dim yn gorchuddio eich wyneb, gan gynnwys eich gwallt
      • peidio â chael cysgodion ar eich wyneb nac y tu ôl i chi

      Enghreifftiau o ffotograffau derbyniol ac annerbyniol:Lluniau

      Dydyn ni ddim mor llym â phasbort (oherwydd mae hwnnw’n defnyddio’r ffotograff ar gyfer adnabod yn fiometrig) ond mae’n bwysig bod y gyrwyr yn gallu eich adnabod o’ch ffotograff.

  • Pam mae'r cerdyn newydd yn cynnwys ‘dyddiad dod i ben’?
    • Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth GDPR ar gyfer cywirdeb y data sydd gennym amdanoch, ni fyddwn ni’n gallu rhoi cardiau sydd heb ‘ddyddiad dod i ben’ arnynt. Y rheswm am hyn yw bod angen i ni ail-ddilysu’r wybodaeth sydd gennym.

      Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch cyn y dyddiad pryd daw i ben, felly bydd gennych ddigon o amser i gadarnhau'r manylion sydd gennym amdanoch ac i ofyn am gerdyn newydd. Er mwyn i ni fod yn gallu cysylltu â chi, cofiwch wneud yn siŵr fod unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad, neu unrhyw ddull o gyfathrebu â chi, yn cael eu cadw’n gyfoes. Mae’n hawdd gwneud hyn ar ein gwefan yn www.trc.cymru/cerdynteithio.

  • Mae'r manylion ar fy Ngherdyn Teithio Rhatach wedi newid neu'n anghywir; beth ddylwn i wneud?
    • Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol. Os ydych chi’n newid cyfeiriad neu unrhyw fanylion eraill, rhowch wybod i ni yn http://www.trc.cymru/cerdynteithio neu e-bostiwch ni yn travelcards@tfw.wales. Bydd angen i chi ddarparu dogfennau ar gyfer unrhyw newidiadau i enw neu gyfeiriad.

  • Mae perthynas i mi wedi marw ac roedd ganddo/ganddi Gerdyn Teithio Rhatach. Sut mae canslo’r cerdyn?
    • Rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i travelcards@tfw.wales neu drwy ffonio 0300 303 4240 a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cerdyn yn cael ei ganslo. Ar ôl i chi ddweud wrthym, torrwch y cerdyn yn ddarnau.

  • Ydi fy manylion personol yn ddiogel?
    • Mae cadw eich data personol yn ddiogel yn bwysig iawn i ni.

      Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn cael ei defnyddio gan eich cyngor lleol, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i weinyddu'r cynllun ac atal twyll.

      Dim ond eich enw a’r dyddiad dod i ben sydd i'w weld ar eich cerdyn.  Nid yw’n cynnwys unrhyw fanylion personol eraill.

      Mae TrC yn prosesu'r wybodaeth yn unol â datganiad preifatrwydd Trafnidiaeth Cymru. 
       

  • Sut ydw i’n dod o hyd i amseroedd bysiau?
    • Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth am amseroedd a llwybrau pob gwasanaeth bws, trên, fferi ac awyr yng Nghymru. Maent yn cynnig gwasanaeth ymholiadau ar y rhyngrwyd sydd ar gael yn www.traveline.cymru. Gallwch hefyd eu ffonio ar 0800 464 00 00.

  • Ydw i'n gallu defnyddio fy ngherdyn i deithio ar drenau?
    • Gallwch deithio am ddim ar wasanaethau rheilffyrdd canlynol Trafnidiaeth Cymru:

      • Wrecsam – Pont Penarlâg
      • Machynlleth – Pwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig
      • Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
      • Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig

      Bydd yn rhaid i chi ddangos eich Cerdyn Teithio Rhatach i gael tocyn am ddim o'r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau yn yr orsaf, neu ei bod hi wedi cau, bydd modd i chi gael eich tocyn gan y goruchwyliwr ar y trên. 

      Hefyd rydych yn gallu cael gostyngiad o 1/3 ar docynnau i deithio ar rwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd ar ôl 0930 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc.