Os ydych chi dros 60 oed neu os oes gennych anabledd, ac yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach
Gwybodaeth am ba ddogfennau y gallwch eu defnyddio fel tystiolaeth o'ch oedran, eich cyfeiriad a/neu eich anabledd er mwyn bod yn gymwys

Pa ddogfennau sydd arnaf eu hangen i wneud cais am Gerdyn Teithio TrC?
Ar gyfer pob cerdyn teithio rhatach, mae angen i chi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos eich enw a’ch dyddiad geni. Os ydych chi'n gwneud cais am gerdyn teithio i Berson Anabl, bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o'ch anabledd.
Er mwyn gwneud cais, bydd angen y canlynol arnoch:
Os ydych chi'n gwneud cais am gerdyn teithio i Berson Anabl, bydd angen i chi edrych ar y canlynol hefyd:
Tystiolaeth o’ch enw a’ch oedran
Ar gyfer pob cerdyn teithio rhatach, mae angen i chi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos eich enw a’ch dyddiad geni.
Bydd angen i chi ddarparu copi o un o'r canlynol:
Trwydded yrru gyfredol
Mae angen i hon fod yn drwydded ddilys gyfredol (ni allwn dderbyn trwyddedau sydd wedi dod i ben)
Gallwch ddefnyddio hon i brofi eich enw, eich oedran a’ch cyfeiriad
Pasbort cyfredol
Mae angen i hwn fod yn basbort dilys cyfredol (ni allwn dderbyn pasbortau sydd wedi dod i ben)
Tystysgrif geni
Mae angen i hon ddangos eich enw, mae'n iawn os nad yw'n dangos eich enw priod
Os na allwch ddod o hyd iddi, gallwch ofyn am gopi newydd gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO)
Tystiolaeth o’ch cyfeiriad
Ar gyfer pob cerdyn teithio rhatach, mae angen i ni weld tystiolaeth o’ch cyfeiriad.
- Rhaid i’r dystiolaeth ddangos eich enw a’ch cyfeiriad cofrestredig.
- Gall fod mewn enw ar y cyd, cyn belled â bod eich enw’n weladwy.
Bydd angen i chi ddarparu copi o unrhyw ddau o'r canlynol:
Sylwer: Yn anffodus, ni allwn dderbyn datganiadau banc neu lythyrau gan Gyllid a Thollau EF neu’r GIG
Trwydded yrru gyfredol
Mae angen i hon fod yn drwydded ddilys gyfredol (ni allwn dderbyn trwyddedau sydd wedi dod i ben)
Gallwch ddefnyddio hon i brofi eich enw, eich oedran a’ch cyfeiriad
Bil cyfleustodau
Mae angen i hwn fod yn fil diweddar o fewn y 3 mis diwethaf
Rhaid iddo fod yn fil ac nid yn gynllun debyd uniongyrchol
Gall hyn gynnwys trwydded deledu, bil dŵr, trydan neu nwy
Fodd bynnag, allwn ni ddim derbyn bil ffôn symudol
Bil Treth Gyngor neu dystiolaeth o eithriad rhag y Dreth Gyngor
Mae angen i hwn ddangos y dyddiad yn cynnwys y flwyddyn ariannol gyfredol
Gallwch ofyn am fil cyfredol gan eich cyngor lleol
Dogfen budd-daliadau a phensiwn
Mae angen i hon ddangos y dyddiad yn cynnwys y flwyddyn ariannol gyfredol
Cadarnhad eich bod ar y gofrestr etholiadol neu’r gofrestr ysgolion
Gallwch ofyn am hyn gan eich Swyddfa Gofrestru Etholiadol
Cofrestru gyda meddyg teulu lleol
Gall hwn fod yn llythyr swyddogol neu'n gerdyn cofrestru sydd wedi'i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf, sy'n dangos eich cyfeiriad, cyfeiriad eich meddyg teulu, ac yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru gyda'r meddyg teulu.
Tystiolaeth o daliadau rhent
Mae angen i hwn fod yn fil diweddar o fewn y 3 mis diwethaf
Tystiolaeth amgen
Dogfen y Swyddfa Gartref yn cadarnhau preswyliad
Tystiolaeth o fod yn ddibynnydd i unigolyn sy’n breswylydd yn ardal y cyngor lleol
Tystiolaeth eich bod dan ofal eich cyngor lleol neu asiantaeth gymeradwy ac yn breswylydd yn ardal y cyngor
Tystiolaeth o anabledd
Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi'n berson anabl cymwys a bod eich prif gartref yng Nghymru. Byddwch yn gymwys os ydych chi’n bodloni’r canlynol:
- Bod lefel/dyfarniad eich budd-daliadau'r wladwriaeth fel PIP, Lwfans Byw i’r Anabl (DLA),Veterans UK neu'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn ddigon uchel
- Wedi’ch cofrestru’n ddall neu â nam difrifol ar y golwg (gyda’r dystiolaeth briodol i gadarnhau hyn)
- Rydych yn hollol neu’n ddifrifol fyddar
- Rydych yn methu siarad
- Mae gennych anabledd, neu wedi dioddef anaf, sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gerdded
- Rydych heb freichiau neu wedi colli’r gallu i ddefnyddio’r ddwy fraich yn hirdymor
- Mae gennych anabledd dysgu
- Nid ydych yn gallu cael trwydded yrru o dan Ran III Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn unol ag adran 92 o'r Ddeddf honno (ffitrwydd corfforol)
- Rydych yn gyn-filwyr neu’n weithiwr arfog sydd wedi’i anafu’n ddifrifol ac sy’n dod o fewn y categorïau anabledd uchod
Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth a osodir gan Lywodraeth Cymru drwy ddarparu copi o un o’r canlynol
Gellir prosesu'r cais gyflymaf os gallwch ddarparu prawf o fudd-daliadau'r wladwriaeth megis eich PIP neu'r Lwfans Byw i'r Anabl.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP): DLA
Llythyr dyfarnu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), yn rhoi manylion dyfarnu Elfen Symudedd Cyfradd Uwch (HRMC).
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP): PIP
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) -Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Datganiad Hawl yn dangos y flwyddyn gyfredol ac un o’r canlynol:
- 8 neu fwy o bwyntiau dan Ddisgrifydd 7 “Cyfathrebu ar lafar”
- 12 o bwyntiau dan Ddisgrifydd 11 “Cynllunio a Dilyn Taith”
- 8 neu fwy o bwyntiau dan Ddisgrifydd 12 “Symud o gwmpas”
Sylwer: NI DDYLID adio’r disgrifyddion PIP a’u sgoriau unigol at ei gilydd
Cyn-filwyr a’r Weinyddiaeth Amddiffyn
Asiantaeth Cyn-filwyr y DU - llythyr dyfarnu Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel (WPMS) ar bapur pennawd swyddogol
neu
Llythyr dyfarnu’r Weinyddiaeth Amddiffyn dan dariffau 1-8 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS) ar bapur pennawd swyddogol.
Os yw eich amgylchiadau'n golygu nad oes gennych y prawf uchod o fudd-daliadau'r Wladwriaeth, gallwch wneud cais o hyd a bydd eich cais yn cael ei asesu gan eich awdurdod lleol.
Gweler isod i weld pa dystiolaeth arall y gallwch ei darparu.
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol i weld pa dystiolaeth sydd arnynt ei hangen.
Nam corfforol
Datganiad gan weithiwr meddygol proffesiynol eich bod yn bodloni un o'r meini prawf canlynol:
- Nam neu anaf sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gerdded
- Heb freichiau neu wedi colli’r gallu i ddefnyddio’r ddwy fraich yn hirdymor
Nam ar y golwg
Tystysgrif Nam ar y Golwg (CVI) gan offthalmolegydd yn dangos bod gennych lefel uchel o golled golwg yn y ddau lygad
- Nam difrifol ar y golwg - yn methu darllen, (gyda’ch sbectol os ydych yn gwisgo un) - llythyren uchaf siart profi llygaid safonol ar bellter o 3 metr neu lai.
- Nam ar y golwg - ddim ond yn gallu darllen (gyda’ch sbectol os ydych yn gwisgo un) - llythyren uchaf siart profi llygaid safonol ar bellter o 6 metr neu lai.
Colled clyw
Llythyr gan awdiolegydd ar bapur pennawd swyddogol yn dangos bod gennych chi golled clyw “difrifol” neu “ddwys iawn” yn y ddwy glust
- Difrifol fyddar 70-94 desibel (dBHL)
- Byddardod dwys iawn 95 desibel (dBHL) neu fwy
Nam ar y lleferydd
Datganiad gan weithiwr meddygol proffesiynol na allwch siarad - nid oes modd i chi gyfathrebu ar lafar mewn unrhyw iaith.
Anabledd dysgu neu nam gwybyddol
Datganiad gan weithiwr meddygol proffesiynol bod gennych nam gwybyddol sy’n lleihau eich gallu i ddeall peth gwybodaeth gymhleth, anhawster o ran dysgu sgiliau newydd ac efallai y byddwch yn gallu ymdopi’n annibynnol.
DVLA
Cadarnhad gan y DVLA y byddai’n gwrthod rhoi trwydded yrru i chi dan Ran III Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn unol ag adran 92 o'r Ddeddf honno (ffitrwydd corfforol)
Cofiwch na dderbynnir gwrthod trwydded yrru ar sail camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson.
Oes gennych chi ragor o gwestiynau am eich cais am gerdyn teithio rhatach? Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin am gardiau teithio i weld os yw’r atebion ar gael.
-
Savings & OffersCerdyn teithio rhatachOs ydych dros 60 oed neu os oes anabledd arnoch ac rydych yn byw yng Nghymru, cewch deithio am ddim neu am bris gostyngol ar fysiau a llwybrau trên detholedig gyda cherdyn teithio rhatach sy’n rhad ac am ddimGwnewch gais nawr
Angen cymorth?
Ydy hi’n anodd dod o hyd i’r dogfennau sydd eu hangen arnoch?
Gall ein tîm eich helpu gyda’ch cais.
Cysylltwch â’n tîm cardiau teithio rhatach
03003 034 240
travelcards@tfw.wales