• Beth mae'r Metro yn ei olygu i chi?
    • Mae Metro De Cymru yn brosiect uchelgeisiol, gwerth miliynau o bunnoedd, a fydd yn trawsnewid y ffordd yr ydym i gyd yn teithio.

       

      Rheilffordd

      Rydym yn gwella ein seilwaith rheilffyrdd ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni, a Threherbert a elwir hefyd yn Llinellau Craidd y Cymoedd. Byddwn yn gweithio ar y llinellau hyn a bydd y gwaith yn parhau tan 2023.  

      Rydym yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd cyflymach a gwyrddach ar gyfer Metro De Cymru a gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.  Rydym hefyd yn brysur y tu ôl i'r llenni yn adeiladu'r trenau newydd, mwy cyfforddus hyn a fydd yn darparu Metro modern, effeithiol, cyrraedd a mynd i'n cwsmeriaid.

       

      Bws

      Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth leol yng Nghymru a gweithredwyr bysiau preifat i ddarparu rhwydwaith cydlynol o lwybrau ledled De Cymru. 

      Rydym am i fwy o bobl deithio ar fws a gwneud teithio ar fysiau yn opsiwn deniadol.  

      Rydym hefyd yn cynllunio tocynnau integredig i wneud teithio yng Nghymru yn ddi-dor ac yn llai cymhleth.

       

      Teithio llesol

      Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sylweddol y mae Awdurdodau Lleol Cymru wedi bod yn ei wneud yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen i'n hybiau trafnidiaeth allweddol yn haws.  

      Bydd llwybrau a chyfleusterau cerdded a beicio mwy diogel a deniadol yn hwyluso teithio o amgylch ein trefi, ein dinasoedd a’n pentrefi.  

      I ddechrau, byddwn yn gwella ein gorsafoedd rheilffordd fel ei bod yn haws cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen iddynt.

       

      Trafnidiaeth integredig

      Byddwn yn parhau i wella’r broses o integreiddio bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol er mwyn gwella cysylltiadau a gwneud teithio’n haws. Bydd gwelliannau’n cynnwys gwell mannau parcio i feiciau mewn gorsafoedd trenau a bysiau, trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, a thocynnau integredig y gellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bysiau a threnau.
       

  • Pa welliannau y gallwch eu disgwyl gan Fetro De Cymru?
    • Byddwn yn cynnal mwy o wasanaethau yn ystod yr wythnos ac ar y Sul nag erioed o’r blaen: 

       

      Dyddiau'r wythnos

      • pedwar gwasanaeth yr awr rhwng Caerdydd a Blaenau'r Cymoedd
      • bydd dau o'r pedwar gwasanaeth o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn parhau o Gaerdydd i Fae Caerdydd
      • gwasanaeth ychwanegol fesul awr rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy Linell Bro Morgannwg o fis Rhagfyr 2023
      • dau wasanaeth yr awr rhwng Caerdydd a’r Amwythig drwy’r Fenni o fis Rhagfyr 2022
      • gwasanaeth bob awr rhwng Caerdydd a Cheltenham trwy Gas-gwent o fis Rhagfyr 2022

       

      Dydd Sul

      • dau wasanaeth yr awr rhwng Caerdydd a Blaenau'r Cymoedd
      • y gwasanaeth dydd Sul cyntaf erioed ar Linell Coryton a'r Llinell y Ddinas, gyda gwasanaeth bob awr o fis Rhagfyr 2023
      • y gwasanaeth dydd Sul cyntaf erioed ar reilffordd Maesteg, a chyflwyno un gwasanaeth bob dwy awr ym mis Rhagfyr 2019, gan gynyddu i wasanaeth bob awr o fis Rhagfyr 2023
      • gwasanaeth ychwanegol bob awr rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr ar hyd Llinell Bro Morgannwg o fis Rhagfyr 2024
      • gwasanaeth bob awr rhwng Caerdydd a Cheltenham trwy Gas-gwent o fis Rhagfyr 2023

Rhaglenni Metro allweddol

Yn sgil Metro De Cymru, bydd pum rhaglen bwysig yn cael eu cyflwyno sydd ar gamau amrywiol o ran dichonoldeb, cynllunio a chyflawni.

Cam cynllunio a chyflawni

 

Cam dichonoldeb

 

A fydd adeiladu'r Metro yn amharu ar fy siwrnai?

Dysgu mwy am rywfaint o'r gwaith rydym yn ei wneud i adeiladu'r Metro.

 

Sut olwg fydd ar y Metro?

Cymerwch gip ar rai o'r newidiadau cyffrous a ddaw yn sgil y Metro.