Y Metro Yw'r Uwchraddiad Mwyaf I System Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru Ers Cenedlaethau.

Byddwn yn cyflawni'r prosiect yn ofalus ac yn ystyriol gyda'n partneriaid dethol, er mwyn i chi gael y system trafnidiaeth gyhoeddus rydych chi'n ei haeddu

 

Metro: Canllaw i gymunedau

Metro - Canllaw i gymunedau

 

Y gwaith wedi dechrau

Rydyn ni wedi dechrau gweithio ar y Metro, system trafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn trawsnewid ein ffordd o deithio. Bydd yn cynnwys trenau tram trydan newydd sbon, gwasanaethau amlach a chyflymach, a gorsafoedd wedi'u huwchraddio neu rai hollol newydd. 

Bydd y Metro'n cael ei lansio yn 2023 a bydd angen gwneud gwaith ar raddfa ddigyffelyb, o drydaneiddio dros 170km o gledrau ar gyfer ein trenau tram trydan newydd, i adeiladu nifer o orsafoedd newydd sbon, yn ogystal ag uwchraddio cyfleusterau sy'n bodoli'n barod. 


Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid sydd wedi cael eu dewis yn ofalus i gyflawni'r cynllun hwn a byddwn yn gwneud ein gwaith gan fod mor ofalus ac ystyriol â phosib er mwyn y 50,000 o bobl yr amcangyfrifir eu bod yn byw o fewn 200 metr i'n rheilffyrdd, a'r amgylchedd. 


Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi

Er mwyn cyflenwi'r Metro, bydd rhywfaint o darfu i ddechrau. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i'n gwasanaethau, cau ffyrdd, a gwaith peirianyddol a chlirio llystyfiant dros nos.


Bydd hefyd angen i ni gynnal ein rheilffyrdd ar ôl cwblhau'r Metro. Felly byddwch yn ein gweld eto yn y dyfodol pan fyddwn yn dychwelyd i reoli llystyfiant wrth ymyl y cledrau, i newid traciau, ac i drwsio pontydd pan fydd cerbydau uchel wedi achosi difrod iddynt. 


Byddwn yn ysgrifennu ymlaen llaw at drigolion a busnesau y bydd ein gwaith yn effeithio arnynt, ond oherwydd y bydd angen i ni ymateb ar fyr rybudd i rai achosion – er enghraifft taro pontydd – ni fyddwn yn gallu rhoi gwybod i chi bob amser. 


Cadw mewn cysylltiad

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am amhariadau a tharfu posib a achosir gan ein gwaith helaeth yn datblygu system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru;


Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.