Mae ein rheilffyrdd yn rhedeg drwy ddinasoedd, trefi a chefn gwlad Cymru, ac rydyn ni'n rhannu ein traciau ag amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion.

Mae ein gwaith yn cyflawni Metro De Cymru, a fydd yn fwy gwyrdd ac yn fwy effeithlon, yn golygu bod yn rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng parchu'r amgylchedd naturiol a'i helpu i ffynnu, a gwneud y gwaith hanfodol i gyflawni'r prosiect trawsnewidiol hwn. 

 

Metro De Cymru

Prosiect Metro De Cymru yw'r uwchraddiad mwyaf i system trafnidiaeth Cymru ers cenedlaethau. Mae'n brosiect gwerth miliynau o bunnoedd lle bydd 170km o drac yn cael ei drydaneiddio, £800m yn cael ei wario ar drenau tram trydan newydd, gorsafoedd a signalau'n cael eu huwchraddio, ac o leiaf pum gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu. 


I gyflawni hyn bydd angen i ni wneud llawer o waith o gwmpas y rheilffyrdd, gan gynnwys torri llystyfiant er mwyn i'n gwasanaethau allu rhedeg yn ddiogel a gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) newydd i bweru'r Metro.   


A ninnau'n gorff cyhoeddus yng Nghymru, mae ein holl waith yn cael ei wneud gan ystyried Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (2015). Mae rhan o hynny'n golygu bod dyletswydd gyfreithiol arnom i wella ein lles amgylcheddol. Mae popeth rydyn ni'n ei wneud yn cyd-fynd â'r Ddeddf – o ailblannu coed i wneud gwaith rheoli llystyfiant ar yr adegau pan fydd hynny'n achosi'r niwed lleiaf i fywyd gwyllt. 

 

Pa fanteision amgylcheddol a ddaw yn sgil y Metro? 

Bydd Metro De Cymru yn arwain at fanteision amgylcheddol lu i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rydyn ni'n gwario £800m i gael trenau tram newydd sbon yn lle'r hen drenau Pacer disel sy'n rhedeg ar Linellau Craidd y Cymoedd. Maen nhw'n dawelach ac yn cynhyrchu llai o CO2 o lawer na'r hen drenau.

Bydd trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy dibynadwy hefyd yn golygu bod llai o bobl yn gorfod defnyddio eu ceir, gan leihau'r straen ar y ffyrdd prysur o amgylch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gorsafoedd yn fwy ecogyfeillgar. Byddwn yn gosod blychau ystlumod ac adar, yn ogystal â thoeau a waliau gwyrdd. 

Ar ben hynny rydyn ni'n gwella'r llwybrau teithio llesol, fel llwybrau troed a beiciau ar hyd a lled ein rhwydwaith, felly byddwch yn gweld rhagor o blanhigion ar y llwybrau hyn.

 

Sut ydych chi'n gwarchod yr amgylchedd? 

Ein nod yw osgoi unrhyw effaith ar fioamrywiaeth. Os nad yw hynny'n bosib, byddwn yn lleihau ein heffaith cymaint ag y gallwn ni. Byddwn yn mynd ati i wella ecosystemau os ydynt mewn cyflwr gwael neu wedi dirywio, ac yn plannu coed newydd yn lle unrhyw rai rydyn ni'n eu torri i lawr. Er enghraifft, rydyn ni wedi dechrau plannu gwerth 20 hectar o goed ger Llan-wern.

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr bod ein gwaith rheoli llystyfiant yn cael ei gyflawni ar yr adegau sy'n achosi'r niwed lleiaf i fywyd gwyllt. Rydyn ni'n osgoi tymhorau nythu a bridio adar a bywyd gwyllt arall gan gynnwys pathewod, ystlumod, madfallod dŵr cribog, moch daear, a dyfrgwn. 

Lle bo'n briodol, byddwn hefyd yn defnyddio sgil-gynhyrchion ein gwaith llystyfiant i wneud pentyrrau logiau a thocion i fywyd gwyllt greu nythod ynddynt ger y llinellau. 

 

Pam ydych chi'n torri coed a gwrychoedd? 

Mae'r llystyfiant o gwmpas Llinellau Craidd y Cymoedd wedi gordyfu. Un o'n tasgau cyntaf pan ddechreuon ni redeg y llinellau hyn oedd torri'r tyfiant o gwmpas y llinellau er mwyn i'n gwasanaethau allu rhedeg yn ddiogel ac yn esmwyth, ac i wneud lle i'r Metro. 

Mae angen i ni wneud lle i'r Cyfarpar Llinellau Uwchben sydd ei angen ar gyfer ein trenau tram newydd, mwy gwyrdd. Hefyd mae llystyfiant sydd wedi gordyfu, fel coed a gwrychoedd sy'n hongian drosodd, yn beryglus i'n teithwyr ac i'n gyrwyr drwy fynd ar draws signalau hollbwysig. Mae hefyd yn gallu achosi oedi ac amhariadau i wasanaethau. 

 

Ydych chi'n ailblannu coed? 

Ydym. Byddwn yn plannu coed newydd yn lle unrhyw rai rydyn ni'n eu torri i lawr. Ond ni fyddwn yn eu plannu wrth ymyl y llinellau. Y rheswm am hynny yw bod angen i ni gadw'r ardal o gwmpas y cledrau yn glir er mwyn sicrhau gwasanaeth diogel a dibynadwy. 

Rydyn ni wedi dechrau ailblannu 37,000 o goed, ac wedi cyflwyno 1,000 o flychau pathewod mewn safle 20 hectar yn Llan-wern. 

 

Cadw mewn cysylltiad

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am amhariadau a tharfu posib a achosir gan ein gwaith helaeth yn datblygu system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru;

 


Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.