• Pam rydych chi’n adeiladu Metro De Cymru yn gyntaf?
    • Mae cynlluniau i fuddsoddi ym Metro De Cymru, a’i ddatblygu, wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd, ac mae bellach yn bosibl diolch i gymysgedd o arian gan awdurdodau lleol (Y Fargen Ddinesig) ac Arian Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

      Rydyn ni'n buddsoddi £5 biliwn yng ngwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn ei gyfanrwydd, ac rydyn ni hefyd wedi dechrau gweithio ar gynllun Metro Gogledd Cymru a fydd yn dwyn ffrwyth yn y blynyddoedd nesaf.  Mae'r cynlluniau ar gyfer Metro Bae Abertawe hefyd yn dal yn y camau cynnar.

  • Mae angen gwasanaeth trên gwell nawr – pam mae’n rhaid i ni aros am Fetro De Cymru?
    • Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru. Byddant yn cymryd amser i’w gweithredu, ond rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid cyn gynted ag y bo modd. Dyna pam rydyn ni wrthi'n buddsoddi £40 miliwn i wella ein fflyd bresennol ac i ariannu gwasanaethau ychwanegol, gwella’r profiad i gwsmeriaid a gwella hygyrchedd.

      Rydyn ni hefyd yn parhau i gyflwyno amrywiaeth o welliannau i’n cwsmeriaid ar draws gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau yn Rhagfyr 2019:

      • mwy o drenau â phedwar cerbyd ar y gwasanaethau prysur, ynghyd â newidiadau eraill i'r cerbydau, gan greu lle i hyd at 6,500 yn fwy o gymudwyr bob wythnos. 
      • cyflwyno trenau ychwanegol ledled rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
      • trenau modern gyda mwy o le, systemau gwybodaeth i deithwyr ar y trenau, toiledau hygyrch, system awyru, Wi-Fi, a socedi pŵer rhwng Cheltenham a Maesteg, a rhwng Caerdydd a Glynebwy. 
      • cerbydau mwy modern ar rai gwasanaethau pell rhwng Gogledd Cymru a Manceinion.
  • Beth yw’r Metro?
    • Mae Metro De Cymru yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd a bws.

      Bydd yn fwy hwylus i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar y Metro. Bydd yn haws i fynd i’r gwaith neu’r ysgol, i gyrraedd apwyntiad yn yr ysbyty neu i grwydro gyda’r nos a thros y penwythnos. 

  • Pa ardaloedd fydd y Metro yn eu gwasanaethu?
    • Bydd pobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol i gyd yn gallu elwa o Fetro De Cymru: 

      • Blaenau Gwent 
      • Pen-y-bont ar Ogwr 
      • Caerffili 
      • Caerdydd 
      • Merthyr Tudful 
      • Sir Fynwy 
      • Casnewydd 
      • Rhondda Cynon Taf 
      • Torfaen  
      • Bro Morgannwg 
  • Sut ydych chi'n sicrhau bod gan bobl fynediad at doiledau ar Fetro De Cymru?
    • Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ein teithwyr fynediad i doiledau ar Fetro De Cymru.  Rydym yn cynyddu nifer y toiledau mynediad cyffredinol yn ein gorsafoedd ar rwydwaith y Metro fel na fydd teithwyr byth mwy nag 20 munud oddi wrth doiled.  Gydag amlder gwasanaeth troi i fyny a mynd, gall teithwyr neidio ymlaen ac i ffwrdd eto pan fydd yn gyfleus iddynt.

      Bydd toiledau hygyrch ar ein holl fflyd newydd o drenau. Ar reilffyrdd Aberdâr, Merthyr a Threherbert rydym yn creu gwasanaeth Metro cyflym, aml a modern y gallwn ei ymestyn i gymunedau newydd yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddefnyddio trenau tram a all redeg ar y stryd ond nad ydynt ar gael ar hyn o bryd gyda thoiledau mynediad cyffredinol.

      • Yr amser teithio cyfartalog a arbedir ar draws Metro De Cymru fydd 15 munud erbyn 2023 (ond gallai fod hyd at 25 munud ar gyfer rhai teithiau).
      • Os oes angen i chi ddod oddi ar y trên i ddefnyddio toiled gorsaf, mewn 50% o'n gorsafoedd ni fydd y trên nesaf byth mwy na 15 munud i ffwrdd (yn ystod yr wythnos) a'r 50% arall rhwng 5 a 10 munud i ffwrdd.
      • Dim ond tair gorsaf Metro De Cymru sydd â thoiledau ar hyn o bryd (Heol y Frenhines Caerdydd, Caerdydd Canolog a Phontypridd), bydd hyn yn cynyddu i 9 yn 2023 (cynnydd o 200%). Rydym yn bwriadu darparu toiledau mynediad cyffredinol ym Merthyr Tudful, Aberdâr, Treherbert, Caerffili, Tonypandy a Radur.
      • Ar hyn o bryd, mae teithio o un pen o Metro De Cymru i'r llall yn cymryd 72 munud. Yn 2023, 50 munud fydd y daith hiraf.
       
  • Pwy sy’n berchen ar y rheilffordd?
    • Ym mis Mawrth 2020, fe ddaethom yn berchnogion ar linellau Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert (Network Rail oedd y perchnogion blaenorol), ac ers hynny rydyn ni wedi dechrau gweithio ar y Metro. 

  • Pwy sy’n gwneud y gwaith?
    • Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â chontractwyr sydd wedi cael eu dewis yn ofalus. 

      Mae’r rhain yn cynnwys:

      • Amey 
      • Amey Consulting 
      • Alun Griffiths 
      • Balfour Beatty 
      • BAM Nuttall 
      • Siemens 
  • Beth yw manteision y Metro?
    • Bydd gan y Metro lu o fanteision a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar dde Cymru.

      Mae’r rhain yn cynnwys:

      • Teithiau cyflymach a llai o amser teithio 
      • Gwell cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth 
      • Mwy o gapasiti 
      • Gwasanaethau amlach 
      • Gwasanaethau amlach  
      • Gwasanaethau mwy hygyrch 
      • Tocynnau rhatach a theithiau trên mwy fforddiadwy 
      • Gwasanaethau mwy gwyrdd 
  • Pam mae angen y gwaith?
    • Roedd angen dybryd i uwchraddio seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n cyflawni’r Metro, a fydd yn ddatblygiad trawsnewidiol i gymunedau de Cymru.

      Bydd hyn yn golygu llawer o waith – gan gynnwys rheoli llystyfiant drwy glirio coed a gwrychoedd sydd wedi gordyfu ar ochr y cledrau a gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben newydd a fydd yn pweru ein trenau tram trydanol newydd.

      Byddwn hefyd yn gosod signalau o’r radd flaenaf, gyda chanolfan reoli yn Ffynnon Taf, sy’n hanfodol i’n gwasanaethau newydd.

      Mae angen i ni hefyd gynnal a chadw ein traciau i sicrhau bod ein gwasanaethau’n rhedeg yn ddidrafferth ac yn ddiogel. 

  • Pryd fydd y Metro yn cael ei gwblhau?
    • Bwriedir cwblhau'r prosiect yn 2023. 

  • Beth fydd y gwaith yn ei gynnwys?
    • I gyflawni’r Metro bydd angen i ni wneud llawer o waith. Mae hyn yn cynnwys....

      • Rheoli llystyfiant ar ochr y cledrau  
      • Gosod system signalau fodern newydd 
      • Gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben newydd a fydd yn pweru ein trenau tram cyflymach a mwy cyfeillgar i’r amgylchedd 
      • Seilwaith ar gyfer ein trenau newydd 
      • Gwella’r cyfleusterau presennol ac adeiladu gorsafoedd newydd 
      • Gwaith cynnal a chadw parhaus i sicrhau bod ein gwasanaethau’n rhedeg yn ddiogel ac yn ddidrafferth 
  • Pam ydych chi’n defnyddio Cyfarpar Llinell Uwchben?
    • Rydyn ni’n defnyddio Cyfarpar Llinell Uwchben i redeg ein trenau tram trydanol, sy’n llyfnach, yn gyflymach, yn dawelach ac yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd na’r trenau disel presennol sy’n gwasanaethu’r cymoedd ar hyn o bryd. 

  • Sut mae llinellau uwchben yn edrych?
    • Strwythurau metel dur ydyn nhw, a adeiladwyd i bara, sydd tua 7 a 10 metr o uchder – ychydig yn uwch na’r trenau tram. Byddant yn gwneud i’n llinellau rheilffordd edrych yn eithaf gwahanol i sut maent yn ymddangos nawr. 

  • A fydd pyst uwchben ym mhob man?
    • Bydd angen llawer o byst i gynnal y Cyfarpar Llinell Uwchben newydd i gyflawni Metro, felly bydd yn gwneud i’r rheilffordd edrych yn eithaf gwahanol. Bydd Cyfarpar Llinell Uwchben yn cael eu gosod yn rheolaidd i fyny ac i lawr y llinellau o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful. Bydd yn hongian ychydig uwchben y cledrau.

      Mae cynllun y strwythurau sy’n dal y gwifrau uwchben yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae’r rhain yn cynnwys aliniad y trac, a oes dau, pedwar neu fwy o draciau ochr yn ochr, a pha mor agos ydyw at orsafoedd a strwythurau eraill fel pontydd a chroesfannau rheilffordd.

      Mae eu lleoliad yn hanfodol i ddiogelwch a gweithrediad y rheilffordd. 

  • A fydd postyn Cyfarpar Llinellau Uwchben yn cael ei leoli wrth ymyl fy eiddo?
    • Rydyn ni wedi ceisio lleihau effaith pyst Cyfarpar Llinellau Uwchben yn ystod y cam dylunio. Ond gan y bydd angen tua 2,500 o strwythurau ar gyfer y prosiect, mae’n anorfod y bydd rhai ohonynt yn agos at eiddo. Gyda miloedd o gartrefi gyferbyn â’n rheilffyrdd, does dim modd i ni allu ystyried pob un cais unigol. 

      Mae symud hyd yn oed un postyn ychydig fetrau yn anodd iawn – gall hynny arwain at sgil-effeithiau i fyny ac i lawr y llinell.

      Mae diogelwch wrth wraidd popeth a wnawn, ac ni fyddwn yn cyfaddawdu ar hyn. Rhaid i’r cyfarpar newydd fod mewn man lle gallwn gael gafael arno os bydd angen, er enghraifft, ar gyfer cynnal archwiliadau neu waith cynnal a chadw. Mae angen iddo hefyd fod bellter addas oddi wrth fannau cyhoeddus.

  • Allwch chi orchuddio’r pyst â llystyfiant neu ffensys?
    • Mae’r hyn y gallwn ei wneud i leihau effaith weledol y pyst yn gyfyngedig iawn ac ni fyddwn yn gallu eu ‘sgrinio’ gan ddefnyddio llystyfiant na ffensys. Mae angen i ni gadw’r ardal gyfagos o gwmpas y pyst yn glir er mwyn i staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol allu eu hadnabod yn rhwydd i’w cynnal a’u cadw a’u harchwilio.

  • Having OLE near my property will devalue my home - are you prepared to compensate for this? 
    • Several studies have found that in locations where public transport infrastructure is improved, house prices often go up too. Our new tram trains will also be significantly quieter and less polluting than the diesel-powered trains which currently service the valley lines, while providing quicker links around the Cardiff Capital Region.    

  • Pam mae angen i chi dorri coed?
    • Rydyn ni’n torri coed fel rhan o’n gwaith rheoli llystyfiant.

      Gall llystyfiant sydd wedi gordyfu achosi problemau difrifol ar y rheilffordd, gan gynnwys trenau hwyr neu drenau wedi’u canslo neu ddamweiniau hyd yn oed os byddant yn cuddio offer signalau. Mae angen i ni hefyd dorri llystyfiant er mwyn clirio parthau trydanol ar gyfer y cyhoedd, y staff a seilwaith Cyfarpar Llinellau Uwchben, fel y nodir mewn deddfwriaeth.

      Pan fyddwn wedi gwneud ein gwaith rheoli llystyfiant, byddwn yn dod yn ôl yn achlysurol i gadw’r coed a’r llwyni dan reolaeth er mwyn i ni allu parhau i roi gwasanaeth dibynadwy a diogel i’n teithwyr. 

  • Fydda i’n ddiogel rhag llinellau uwchben?
    • Dylid bod yn ofalus iawn wrth drin Cyfarpar Llinell Uwchben. Mae’n cludo 25,000 folt o drydan, sy’n gallu achosi marwolaeth yn ddigon hawdd. Mae hefyd yn bwysig cofio ei bod yn beryglus cario eitemau ger y lein fel gwialen bysgota, ymbarél, balŵn heliwm, pobl ar eich ysgwyddau, a hyd yn oed ffon hun-lun.

      Mae’r trydan yn llifo drwy’r Cyfarpar Llinellau Uwchben drwy’r amser, waeth pa adeg o’r dydd ydyw, ac mae dyletswydd gyfreithiol ar Trafnidiaeth Cymru i gymryd camau i roi mesurau ar waith i atal pobl rhag dioddef sioc drydanol.

      Os ydych chi’n defnyddio’r rheilffordd yn gywir, nid oes perygl o linellau uwchben. Ond mae tresmasu ar ffin y rheilffordd – sy’n anghyfreithlon – yn eich rhoi mewn perygl.

      Y perygl mwyaf o fod ar y rheilffordd yw cael eich taro gan drên. Bydd y trenau tram newydd a fydd yn gwasanaethu rheilffyrdd y cymoedd mewn rhai ardaloedd yn ddistaw bron, felly mae mwy o berygl y bydd tresmaswyr yn cael eu taro gan drên.

      Er mwyn eich diogelwch, arhoswch y tu allan i ffin y rheilffordd.

  • Rydw i’n byw ger y rheilffordd – a fydd yn tarfu arna i?
    • Os ydych chi’n byw ger y rheilffordd, mae siawns dda iawn y bydd ein gwaith ar y Metro yn effeithio arnoch chi.

      Gall hyn gynnwys...

      •  Sŵn o osod seilbyst 
      •  Cau ffyrdd 
      •  Newidiadau i amserlenni rheilffyrdd a bysiau yn rhedeg yn lle trenau

      Pan fydd yn bosib, byddwn yn anfon llythyrau ymlaen llaw at ein cymdogion a allai gael eu heffeithio. Os bydd rhaid i ni weithredu’n sydyn iawn mewn rhai achosion, efallai na fydd modd gwneud hyn.  

  • Oes angen caniatâd cynllunio arnoch?
    • Mae gan Amey Keolis Limited / Keolis Amey Operations, partneriaid cyflenwi Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y Metro, drwydded i weithredu’r rheilffordd, ac fe’u hystyrir yn Ymgymerwyr Statudol, sy’n golygu nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt ar gyfer uwchraddio’r rheilffordd. Mae datblygiadau sydd y tu allan i’r rheoliadau datblygu a ganiateir yn debygol o fod angen caniatâd cynllunio. 

  • A fydd y rheilffordd ar gau?
    • Rydyn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar wasanaethau drwy weithio drwy’r nos. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd yn rhaid i ni gau rhai rhannau o’r rheilffordd a darparu gwasanaethau bws yn lle trenau yn ystod y dydd. Byddem yn cynghori cwsmeriaid i wneud eu gwaith cartref cyn teithio. 

  • Os bydd y sŵn yn tarfu arnaf – a wnewch chi dalu am lety arall i mi?
    • Nid oes rheidrwydd ar Drafnidiaeth Cymru i dalu am lety arall yn ystod y gwaith ar y rheilffyrdd, ond rydyn ni wedi ymrwymo i wneud cyn lleied â phosibl o sŵn. Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn gwneud gwaith arbennig o swnllyd, felly, os bydd angen, gallwch wneud trefniadau. 

  • Faint o bobl sy’n gweithio ar y cynllun?
    • Ar hyn o bryd mae 375 o staff yn gweithio ar y Metro, a fydd yn cynyddu i oddeutu 1,250 yn ystod cyfnod prysuraf y prosiect.

  • Alla i gael swydd yn gweithio ar y Metro?
    • I weld cyfleoedd gwaith ar y Metro, ewch i wefan y contractwyr unigol. I weld cyfleoedd gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru, cadwch lygad ar ein tudalen swyddi.

  • Sut byddwch yn amharu cyn lleied â phosibl?
    • Rydyn ni am gynnal cynifer â phosibl o’n gwasanaethau hanfodol ar waith. Bydd llawer iawn o’n gwaith yn digwydd yn y nos, er mwyn i bobl allu parhau i ddefnyddio ein gwasanaethau.

      Os nad oes dewis arall heblaw cau’r rheilffyrdd, byddwn yn darparu gwasanaethau bws er mwyn i chi gyrraedd pen eich taith.

      Gallwn eich sicrhau y byddwn yn gweithio gyda gofal ac ystyriaeth i’n cymdogion.

  • Sut ydych chi'n gwarchod yr amgylchedd?
    • Yn y lle cyntaf, byddwn yn osgoi unrhyw effaith ar fioamrywiaeth lle bynnag y bo modd. Os nad yw hynny'n bosibl, byddwn yn lleihau ein heffaith cymaint ag y gallwn ni. Byddwn yn mynd ati hefyd i wella ecosystemau os ydynt mewn cyflwr gwael neu wedi dirywio, ac yn plannu coed newydd yn lle unrhyw rai rydyn ni'n eu torri i lawr.

      Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod ein rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu cyflawni a sicrhau bod ein gwaith cynnal llystyfiant yn cael ei wneud yn y ffordd leiaf aflonyddgar i fywyd gwyllt.

      Lle bo'n briodol, byddwn hefyd yn defnyddio sgil-gynhyrchion ein gwaith llystyfiant i wneud pentyrrau logiau a thocion i fywyd gwyllt greu nythod ynddynt.

  • Faint fydd y prosiect yn ei gostio?
    • Bydd y Metro yn cael ei gyflawni am oddeutu tri chwarter biliwn o bunnoedd, gydag arian yn dod gan Awdurdod Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

  • Pa drenau fyddwn ni’n eu cael, a phryd?
    • Bydd teithwyr yn dechrau gweld ein trenau tram Stadler Citylink newydd a threnau Stadler FLIRT ar y rheilffyrdd o 2023 ymlaen.

      I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys efelychiadau 3D o’n fflyd newydd, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

  • A wnewch ysgrifennu ataf pan fyddwch yn gweithio yn yr ardal?
    • Pan fydd gennym waith arbennig o swnllyd neu aflonyddgar wedi’i gynllunio, fel gosod seilbyst, byddwn yn ysgrifennu at gymdogion y gallai hyn effeithio arnynt i'w rhybuddio.

      Cofiwch ei bod yn anodd rhagweld i ba raddau y bydd y sŵn a achosir gan y gwaith yn teithio – gall ddibynnu ar ffactorau fel y tywydd, coed ac adeiladau yn yr ardal gyfagos.

      Weithiau mae’n rhaid i ni wneud gwaith ar fyr rybudd – er enghraifft, newidiadau munud olaf i gynlluniau gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben. Yn yr achosion hyn, ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi ymlaen llaw.

  • Sut byddwch chi’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr a chymdogion?
    • Y ffordd orau o gael gwybod am holl waith y Metro, a’r goblygiadau i chi, yw dilyn Trafnidiaeth Cymru ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn diweddaru ein gwefan gyda manylion unrhyw darfu a newidiadau i wasanaethau.

  • Pam mae rhai rheilffyrdd yn cael gwasanaethau amlach?
    • Cymerodd Llywodraeth Cymru perchnogaeth ar Linellau Craidd y Cymoedd oddi wrth Lywodraeth y DU yn 2020, felly bydd TrC yn gallu rhedeg gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach.

      Pan mae ein gwasanaethau’n rhedeg ar reilffyrdd sy'n cael eu rheoli gan ein partneriaid Network Rail ar gyfer Llywodraeth y DU, ni allwn redeg gwasanaethau ond yn ôl gallu'r seilwaith, a byddai angen gwneud gwaith pellach i gynyddu'r capasiti.

      Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am ddatganoli pwerau i wella seilwaith rheilffyrdd Cymru, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau yng Nghymru.

  • Pam mai dim ond Llinellau Craidd y Cymoedd sy'n cael eu trydaneiddio gennych?
    • Mae trydaneiddio yn rhan o'r buddsoddiad sylweddol y mae TrC yn ei wneud yn y llinellau hyn.  Drwy drydaneiddio'r rheilffyrdd hyn, gallwn ni ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach.

      Mae rheilffyrdd eraill yng Nghymru yn dal i gael eu rheoli gan ein partneriaid, Network Rail, ar ran Llywodraeth y DU.