Metro - Canllaw i gymunedau
Cyflwyniad
Mae Metro yn ymwneud â gwneud hi’n haws teithio, cyrraedd y gwaith neu’r ysgol, cyrraedd eich apwyntiad ysbyty neu fynd allan gyda’r nos ac ar benwythnosau gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Metro fydd yr uwchraddiad mwyaf i drafnidiaeth gyhoeddus yn Ne Ddwyrain Cymru am genhedlaeth. Bydd y system drafnidiaeth integredig hon o drenau, trenau tram, bysiau, cerdded a beicio yn darparu gwasanaeth modern, di-dor y gall Cymru fod yn falch ohono.
Gyda gwaith adeiladu, peirianneg ac isadeiledd sylweddol i’w wneud, mae’r canllaw hwn yn egluro manylion y gwaith hwnnw yn ogystal â’n cynlluniau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cymunedau ar hyd y ffordd.
Yn Cyflwyno Metro
Bydd Metro yn chwyldroi teithio yn Ne Cymru. P’un a ydych chi’n ei ddefnyddio i deithio i’r gwaith neu’r ysgol, neu i weld ffrindiau a theulu, bydd Metro yn cysylltu ein cymunedau ac yn dod â ni i gyd yn agosach
at ein gilydd.
I gwsmeriaid, bydd yn golygu gwasanaethau mwy rheolaidd gydag amseroedd teithio cyflymach, prisiau gwell o ran gwerth a mwy o hygyrchedd. Hefyd, bydd ein trenau a’n trenau tram yn wyrddach ac yn well i’r amgylchedd.
Rydyn ni eisoes yn brysur y tu ôl i’r llenni yn adeiladu’r trenau a’r trenau tram newydd, mwy cyfforddus a fydd yn darparu gwasanaeth Metro troi i fyny a mynd modern, effeithiol i’n cwsmeriaid, a byddwch yn dechrau gweld y rhain mewn gwasanaeth erbyn 2023. Bydd y trenau a’r trenau tram hyn yn cynyddu ein gallu yn sylweddol yn ogystal â darparu nodweddion ychwanegol fel byrddio gwastad, mwy o storio beiciau ac aerdymheru.
Yn ogystal â buddion y cwsmer, bydd Metro yn helpu i ddatgloi potensial economaidd enfawr De Cymru. Bydd yn helpu gweithwyr i fod yn fwy symudol a lleddfu’r tagfeydd ar ein ffyrdd. Bydd yn ein gwneud yn llai dibynnol ar geir a bydd yn fwy integredig â bysiau lleol, sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi aros cyhyd i wasanaeth cysylltu gyrraedd y man lle mae angen i chi fod. Mae Metro yn nodi dechrau taith gyffrous i Gymru - taith yr ydym eisiau i chi fod yn rhan ohoni.
Trwy gydol y canllaw hwn, byddwn yn dweud ychydig mwy wrthych am ein cynlluniau ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf a sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau o fod yn gymdogion da.
Budd cwsmer: Gwasanaethau mwy rheolaidd ac amseroedd teithio cyflymach
Budd cwsmer: Prisiau rhatach a mwy o hygyrchedd
Potensial economaidd: Bydd Metro yn helpu gweithwyr i fod yn fwy symudol
Budd amgylcheddol: Bydd Metro yn helpu i leddfu tagfeydd ar ffyrdd
Adeiladu Metro
Mae adeiladu Metro De Cymru yn brosiect uchelgeisiol, gwerth miliynau o bunnoedd. Bydd gwaith gwella seilwaith rheilff yrdd yn canolbwyntio i ddechrau ar Linellau Craidd y Cymoedd a bydd yn barhaus ac yn ysbeidiol rhwng 2020 a 2023.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf mae gennym lawer o waith adeiladu, peirianneg a seilwaith i’w wneud i uwchraddio ein rhwydwaith reilff yrdd fel ei fod yn barod ar gyfer Metro. I ddechrau, bydd hyn yn cynnwys gwaith i reilff yrdd Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, a elwir yn Llinellau Craidd y Cymoedd (gweler y map).
Bydd y gwaith hwn yn barhaus ac yn ysbeidiol rhwng nawr a 2023 ac eglurir ef ar y tudalennau canlynol.
Ynghyd â’n partneriaid, byddwn ni’n:
- Gosod off er llinell uwchben (OLE) i bweru ein trenau tramiau trydan Newydd
- Trydaneiddio dros 170km o drac
- Gosod signalau o’r radd flaenaf
- Adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau
- Addasu pontydd, croesfannau gwastad ac off er signalau
- Torri llystyfiant sydd wedi gordyfu yn ôl ochr yn ochr â’r rheilff ordd bresennol
- Adeiladu depo newydd gwerth £100m a chanolfan reoli Metro yn Ffynnon Taf yn Rhondda Cynon Taf
Yn ogystal â theithiau cyflymach, amlach a gw ell i deithwyr, bydd buddion hefyd i’r cymunedau sy’n byw ochr yn ochr â Metro.
Buddion Amgylcheddol
Mae’r trenau pŵer disel cyfredol wedi bod mewn gwasanaeth ers dros 50 mlynedd ac maent yn ddrytach, yn llai cyfeillgar i’r amgylchedd, ac yn llai cyff orddus na dewisiadau trydan eraill. Mae’r trenau disel hyn hefyd yn achosi lefelau llygredd uwch yn ystod y gweithrediad ac yn cynhyrchu mwy o sŵn. Maent hefyd yn drymach na threnau trydan, sy’n golygu eu bod yn treulio’r cledrau’n gyfl ymach gan arwain at fwy o waith cynnal a chadw.
Mae’r trenau tram trydan newydd sbon ar gyfer Metro yn dawelach ac yn cynhyrchu llawer llai o CO2 na’r trenau presennol. Maent hefyd yn dawelach i’r rhai sydd ar fwrdd y trên a’r rhai sy’n byw yn agos at y rheilff ordd. Hefyd, mae cael gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mwy dibynadwy yn golygu y bydd yn rhaid i lai o bobl ddefnyddio eu ceir, gan leddfu’r straen ar draffig yn eich ardal chi.
Gwelliannau i Ganol y Ddinas
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cy mru, Network Rail a Chyngor Caerdydd i ddatblygu a gweithredu cynlluniau i wella Gorsaf Ganolog Caerdydd. Rydym hefyd yn gweithio ar gyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol newydd Caerdydd sy’n cwmpasu Gorsaf Ganolog Caerdydd a chyfnewidfa bysiau newydd sbon yng Nghaerdydd yn ogystal ag arosfannau bysiau ar y stryd, tacsi, darpariaeth teithio egnïol a chyswllt Bae Caerdydd.
Sut y byddwn yn parhau i ddatblygu Metro
Rydym yn gweithio gyda Chaerdydd a’r brifddinas-ranbarth i barhau i uwchraddio ac ehangu Metro De Cy mru, tra hefyd yn parhau i weithio ar drawsnewid Llinellau
Craidd y Cy moedd.
Wrth edrych ymlaen ar Metro De Cy mru mae nifer o brosiectau blaenoriaeth sy’n dod i’r amlwg yr ydym yn awyddus i’w datblygu ac ymchwilio’n fanylach trwy achosion busnes a datblygiadau cynllun, mewn partneriaeth â’r rhanbarth ac awdurdodau lleol. Mae mwy o wybodaeth ar sut rydyn ni’n datblygu Metro ar gael fan hyn: trc.cymru/prosiectau/metro
Gwaith y gallwch chi ei ddisgwyl
Gyda’r gwaith rydym yn ei wneud, bydd rhai aflonyddwch tymor byr gan gynnwys cau ffyrdd, gwaith peirianneg yn ystod y nos a rhai newidiadau i’n gwasanaethau rheilffordd. Er ein bod yn credu y bydd yr anghyfleustra tymor byr yma yn werth chweil yn y tymor hir, rydyn ni am fod yn dryloyw gyda’n cymunedau ynglŷn â’r
math o waith y byddwn ni’n ei wneud fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl.
Offer llinell uwchben
Gelwir y pyst metel a’r gwifrau sydd eu hangen i bweru’r trenau tram newydd yn offer llinell uwchben (OLE). Bydd y pyst hyn ychydig yn uwch na’r trenau ac wedi’u cysylltu gan wifrau. Bydd y rhain yn cael eu gosod ar hyd llinellau craidd y dyffryn yn barod i bweru ein trenau tram newydd.
Yn ystod y cam cynllunio a dylunio, byddwn yn lleihau effaith y pyst OLE gymaint â phosibl, ond gyda thua 2,500 o strwythurau yn ofynnol ar gyfer y prosiect hwn, bydd rhai o’r pyst hyn yn agos at eiddo yn y pen draw. Gan fod nifer o ffactorau i’w hystyried o ran ble rydym yn gosod OLE, ni allwn ystyried ceisiadau unigol am leoli’r pyst. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys:
- Troadau a chromliniau yn y llinellau
- Amodau’r ddaear
- Ffactorau diogelwch ar gyfer cynnal a chadw
Bydd y pyst dur wedi’u gosod ar sylfeini rhwng 20 a 65 metr ar wahân ar hyd y trac.
Rheoli llystyfiant
Gall torri llystyfiant yn ôl fod yn swnllyd, ond mae’n hanfodol ar gyfer diogelwch ein teithwyr a’n staff. Pan na chaiff ei reoli, gall llystyfiant achosi damweiniau ac aflonyddwch trwy rwystro signalau neu rwystro’r rheilffordd mewn tywydd gwael.
Byddwn yn torri llystyfiant hyd at naw metr i ffwrdd o’r trac neu i’n ffens derfyn, pa un bynnag sydd agosaf. Mae hyn ychydig yn fwy nag yr ydym fel arfer yn ei dorri gan y bydd angen mwy o le arnom i osod OLE ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod. Ar ôl i ni dorri’r coed, y llwyni a’r llystyfiant yn ôl, fe’u cynhelir ar y lefel hon i sicrhau bod ein gwasanaethau’n parhau i redeg yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
Rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac ecolegwyr i leihau effaith amgylcheddol y gwaith hwn.
Pentyrru
I osod OLE, mae angen i ni wneud gwaith pentyrru i osod y sylfeini yn eu lle. Gall pentyrru fod yn waith swnllyd gan ei fod yn cynnwys peiriannau trwm, ond byddwn yn gwneud ein gorau i leihau’r sŵn a’r aflonyddwch i bobl sy’n byw ac yn gweithio gerllaw.
Yn dibynnu ar gyflwr y ddaear, mae pentwr ar gyfartaledd yn cymryd rhwng 20 a 60 munud ac yn aml mae’n cael ei gwblhau fel un gorchwyl, felly ni ddylai’r sŵn fyth bara’n rhy hir.
Uwchraddio gorsafoedd
Er mwyn gwella profiadau teithio ein cwsmeriaid, byddwn yn gwneud gwaith yn ein gorsafoedd i wella cysylltiadau beicio a cherdded yn ogystal â gosod teledu cylch
cyfyng a pheiriannau tocynnau. Rydym hefyd yn gwella hygyrchedd ar ein trenau a byddwn yn gosod cyfleusterau toiled cwbl hygyrch mewn gwahanol orsafoedd. Yn ogystal, rydym yn cynnig adeiladu neu adleoli gorsafoedd newydd.
Wrth i ni uwchraddio ein gorsafoedd, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eu bod yn aros ar agor, ond efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni redeg gwasanaeth bws newydd neu newid ein hamserlenni.
Depo Ffynnon Taf
Rydym yn adeiladu depo newydd gwerth £100m a chanolfan reoli Metro yn Ffynnon Taf yn Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â bod yn gartref i’n trenau tram newydd, bydd ein depo newydd yn ganolbwynt i:
- 400 o yrwyr a dargludyddion
- 35 aelod o staff cynnal a chadw
- 52 o staff canolfan reoli Metro
Gweithiau ychwanegol
Mae yna hefyd lu o waith arall rydyn ni’n ei wneud:
- Estyniadau platfform i weddu i’r trenau hirach newydd a’r trenau tram
- Gweithio i adnewyddu neu addasu trac a signalau yn barod ar gyfer y trenau Newydd
- Newid pontydd ffyrdd, rheilffyrdd a thread
- Uwchraddio neu ailosod croesfannau gwastad
Gweithio yn ein cymunedau
Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom gymryd perchnogaeth llinellau craidd y Cymoedd wrth Network Rail. Y rheilffyrdd hyn yw’r hyn sy’n cysylltu cymunedau Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Coryton, Rhymni a Chaerffili gyda’i gilydd a chanol dinas Caerdydd. Wrth wneud hynny, daethom yn gymdogion gyda thua 50,000 o aelwydydd, pob un ohonynt yn byw o fewn 200m i’n rheilffyrdd.
Byddwn yn gweithio rownd y cloc i adeiladu Metro, felly byddwch hefyd yn gweld ein pobl yn gweithio’n uniongyrchol ar y rheilffordd gyda’r nos. Mae hyn oherwydd mai dim ond pan nad yw trenau’n rhedeg y gellir ymgymryd â’n gwaith naill ai ar ein rheilffyrdd neu’n agos iawn atynt.
Er gwaethaf yr aflonyddwch, rydym am adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a hirhoedlog gydag unigolion, busnesau a sefydliadau sy’n gymdogion i ni.
Wrth i ni ddatblygu Metro, rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n gymdogion da i’n cymunedau. Dyna pam y byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac ysgolion lleol i:
- Nodi cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM)
- Cynyddu ymwybyddiaeth a mynediad at gyflogaeth yn y sector rheilffyrdd
- Nodi prosiectau bioamrywiaeth a fydd o fudd i gymunedau
- Darparu cyfleoedd addysgol ar bwysigrwydd diogelwch rheilffyrdd
- Hyrwyddo cynlluniau teithio egnïol a helpu i liniaru’r rhwystrau i gael mynediad at drafnidiaeth
Byddwn hefyd yn darparu cyfarfodydd rheolaidd gyda rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol yn ogystal â’ch diweddaru trwy gylchlythyrau.
Mewn niferoedd
- 55,000 o gartrefi a busnesau o fewn 200m i linellau craidd y Cymoedd
- 56% Mae llinellau craidd y Cymoedd yn cludo 56% o holl deithwyr TfW bob dydd
- Mae 170km o draciau a 56 gorsaf yn ffurfio llinellau craidd y Cymoedd
Ymgysylltu â’n cymunedau
Rydym yn gweithio gyda chontractwyr a ddewiswyd yn ofalus i ddarparu Metro a byddwn yn gweithredu gyda’r gofal a’r sensitifrwydd mwyaf posibl i bob un o’n cymdogion, yn ogystal â’r amgylchedd.
Oherwydd maint y gwaith y byddwn yn ei wneud, credwn fod y ffordd yr ydym yn ymgysylltu â’n cymunedau cyfagos yn hanfodol i gyflawni’r prosiect er budd y gymuned leol a’n cwsmeriaid, gan leihau unrhyw effaith ar y ffordd.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
P’un ai yw’r newidiadau dros dro i’r amserlen reilffyrdd, bysiau newydd, neu’r gwaith peirianneg swnllyd sy’n ofynnol i foderneiddio ein rheilffyrdd, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith wedi’i drefnu.
Fodd bynnag, gan fod gennym dros 170km o drac i weithio ar ei draws, ni fyddem bob amser yn gallu ysgrifennu at bawb y mae ein gwaith yn effeithio arnynt, bob tro. Ond byddwn yn gwneud ein gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy ddiweddaru ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan, ac anfon llythyrau i’ch diweddaru ar ein cynnydd.
Gweithio gyda rhanddeiliaid
Tra byddwn yn cyflawni’r rhan fwyaf o’r gwaith hwn o dan ein hawliau ‘Datblygu a Ganiateir’, rydym yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ein cynlluniau a gwrando ar eu hadborth.
Cynnwys grwpiau lleol
Rydym am glywed gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio agosaf at ein llinellau fel y gallant wneud y gorau o’r gwasanaethau gwell newydd. O’n cymdogion ac ysgolion ar ochrau llinellau i ganolfannau cymunedol a chynghorau lleol, byddwn yn darparu cyfleoedd i wahanol grwpiau gymryd rhan yn y prosiect yn ogystal â mynychu a
chynnal cyfarfodydd cymunedol ar adegau allweddol yn ein cyflawniad.
Ymateb i’ch adborth
Rydyn ni eisiau bod yn gymdogion da felly rydyn ni’n awyddus i glywed gennych chi gan y bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Byddwn yn darparu ffyrdd rhad ac am ddim, hygyrch a dwyieithog i chi gysylltu â ni, a darparu ymatebion i’ch pryderon.
P’un ai yw’r newidiadau dros dro i’r amserlen reilffyrdd, bysiau newydd, neu’r gwaith peirianneg swnllyd sy’n ofynnol i foderneiddio ein rheilffyrdd, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith a drefnwyd, gan gynnwys trwy ein tudalen gwaith yn eich ardal yma: workinyourarea.trc.cymru/cy
Ein hymrwymiadau i chi
Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd tra bod y gwaith pwysig hwn yn digwydd, ac rydym am barhau i fod yn onest, yn ystyriol ac yn barchus tuag at ein gilydd trwy gydol y broses hon. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhywfaint o’n gwaith yn aflonyddgar, a dyna pam rydym wedi nodi ein hymrwymiadau allweddol i fod yn gymdogion da.
- Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio’n gyfrifol trwy sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli’n dda a bod ein pobl yn ystyriol o’n cymdogion.
- Byddwn yn gweithio’n agos gyda chymunedau a busnesau lleol i egluro’r hyn rydym yn ei wneud a cheisio dod o hyd i ffyrdd o leihau
ar y tarfu. - Byddwn yn eich hysbysu am ein cynnydd ar ddarparu Metro a’n gwaith parhaus trwy rannu manylion ar ein gwefan ac anfon llythyrau pan fyddwn yn croesi cerrig milltir allweddol.
- Byddwn yn ymdrechu i leihau sŵn trwy ddefnyddio bafflau acwstig ac offer tawelu lle bynnag y bo modd ynghyd â sicrhau ein bod yn gosod generaduron i ffwrdd o gartrefi.
- Byddwn yn defnyddio goleuadau LED i leihau llygredd golau a sicrhau bod colofnau goleuadau’n cael eu cyfeirio i ffwrdd o gartrefi.
- Byddwn yn cynnal asesiadau perthnasol ar bob safle fel ein bod yn deall pa liniaru a allai fod yn ofynnol gan gynnwys asesiadau traffig ar gyfer mynediad HGV ac unrhyw gau ffyrdd posibl.
- Byddwn yn cynnal arolygon ecolegol i nodi unrhyw rywogaethau gwarchodedig neu adar sy’n nythu yn yr ardal i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd naturiol. Os nodir unrhyw rywogaeth, yna rhoddir dulliau gweithio priodol ar waith.
- Byddwn yn gwneud ein gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw darfu ar eich gwasanaethau lleol, ond gwiriwch cyn teithio gan y bydd angen i ni redeg gwasanaethau bysiau newydd ar adegau penodol.
Cael eich diweddaru
Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau Metro diweddaraf yw trwy ein gwefan: trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru
Gallwch hefyd ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd.
Yn ogystal â phostio diweddariadau cynnydd ar ein hadran newyddion, byddwn hefyd yn cyhoeddi manylion unrhyw waith a gynlluniwyd yn y dyfodol ar y dudalen cymunedau: trc.cymru/gwybodaeth/cymunedau
I gael gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau, rheilffyrdd a bysiau newydd, ewch i’n gwefan reilffordd: trc.cymru/prosiectau/metro
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, mae ein tîm wrth law i wrando ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- E-bostiwch ni
- Ffoniwch ni - 0333 3211 202
- Ysgrifennwch atom
Rhadbost
Cysylltiadau Cwsmer Trafnidiaeth Cymru - Gwefan - trc.cymru
- Twitter - transport_wales
- Instagram - transport_wales
- Facebook - Transport for Wales
A Nifer o brosiectau ar gyfer y De Mae Metro Cy mru wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.