Gwella Prif Reilffordd De Cymru
Rydyn ni’n trawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yn Ne Cymru ac mae hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â Network Rail, Llywodraeth Cymru, yr Adran Drafnidiaeth a Phorth y Gorllewin i wella Prif Reilffordd De Cymru.
Fel y prif lwybr rheilffyrdd drwy dde Cymru, rydyn ni’n gwybod bod arnom angen cysylltiadau gwell ac amseroedd teithio gwell i Dde-ddwyrain a De-orllewin Lloegr. Mae angen i ni hefyd leihau ein hallyriadau carbon drwy ymestyn y gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd.
Dyna pam rydyn ni’n cefnogi Gweledigaeth Rheilffyrdd 2050 sydd wedi cael ei llunio mewn partneriaeth â’r llywodraeth, awdurdodau lleol, busnes a’r byd academaidd. Mae’n addo:
- trawsnewid cymunedau drwy wella amseroedd teithio
- uwchraddio mynediad at swyddi, addysg a chyfleoedd
- rhoi cyfle i ychwanegu £34 biliwn at y DU.
Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau rheilffyrdd cyflymach ac amlach i deithwyr a nwyddau ar eu ffordd. Rydyn ni’n anelu at wneud y canlynol:
- cyflwyno gwasanaethau pellter hir uniongyrchol newydd rhwng Gorllewin Cymru, Caerdydd a Bryste i gryfhau cysylltedd rhanbarthol a lleihau’r angen i newid trenau
- agor pum gorsaf newydd a gwasanaethau sy’n stopio’n aml rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste fel yr argymhellwyd gan yr Arglwydd Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru fel rhan o’r ‘Rhwydwaith Dewisiadau Eraill’ i deithio ar yr M4
- gwella amseroedd teithio yn gyffredinol drwy gynyddu cyflymderau llinellau lle bo hynny’n ymarferol, gan gynnwys mesurau ar raddfa lai o dan raglen ‘camau cyflym ymlaen’
- trydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe
- datrys tagfeydd ar wasanaethau cludo teithwyr a chludo nwyddau.
Prosiectau tymor hwy
Yn y tymor hwy, byddwn yn parhau i drydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd yn Ne-orllewin Cymru er mwyn datgarboneiddio a lleihau effaith trenau cludo teithwyr a nwyddau ar yr amgylchedd. Byddwn hefyd yn cefnogi rhagor o drydaneiddio yn Ne-orllewin Lloegr i Fryste Temple Meads, gan alluogi mwy o drenau trydan i gael eu defnyddio yng Nghymru a lleihau amseroedd teithio yn gyffredinol.
Fel rhan o’n cynllun tymor hir, byddwn hefyd yn gwneud gwaith i ddiogelu Prif Reilffordd De Cymru rhag effeithiau newid hinsawdd.