
Sbarduno diwygio trafnidiaeth yn Ne Ddwyrain Cymru
Sefydlwyd Uned Cyflenwi Burns ym mis Ionawr 2021 i gyflymu gweithrediad 58 o argymhellion yr Arglwydd Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWTC).
Nod y gwaith yw darparu dewisiadau amgen i deithiau ar yr M4 ac annog dinasyddion y rhanbarth i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
Ariennir yr Uned gan Trafnidiaeth Cymru. Mae'n dwyn ynghyd arbenigedd y tîm Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth megis rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol i sicrhau datblygiad rhwydwaith integredig. Darperir cefnogaeth gan dîm technegol ehangach pan fo angen. Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r cyllid ar gyfer datblygu’r gwaith hwn.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Network Rail ac awdurdodau lleol Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy. Caiff ei gadeirio’n annibynnol gan yr Athro Simon Gibson CBE a Dr Lynn Sloman MBE.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rhanddeiliaid a thrwy ymgynghori â'r cyhoedd, mae'r Uned yn datblygu cynlluniau ar gyfer darparu seilwaith rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol newydd a fydd yn ffurfio 'rhwydwaith o ddewisiadau amgen' ar gyfer y rhanbarth. Mae argymhellion eraill sydd ar y gweill gan eraill yn cynnwys newidiadau i bolisïau rhwydwaith, annog newid ymddygiad teithio, llywodraethu trafnidiaeth, defnydd tir a chynllunio.
Adroddiad Blynyddol Cadeiryddion Bwrdd Cyflawni Burns:
Darllenwch fwy am ein gwaith yn Adroddiad Blynyddol y Cadeiryddion sy'n nodi rhai o'r cyflawniadau allweddol a'r heriau parhaus y mae Bwrdd Cyflawni Burns yn eu hwynebu.
2022/2023 - Adroddiad Blynyddol Cadeiryddion Bwrdd Cyflawni Burns
2021/2022 - Adroddiad Blynyddol Cadeiryddion Bwrdd Cyflawni Burns
Ymgynghoriadau cyhoeddus:
Rydym am greu gwasanaethau sy’n gweithio orau i’r cymunedau y byddant yn eu gwasanaethu, yn ogystal â sicrhau bod gan Dde-ddwyrain Cymru rwydwaith trafnidiaeth wyrddach, iachach ac un sy’n haws i’w ddefnyddio. I wneud hyn, rydym yn gwahodd y cyhoedd a sefydliadau allweddol i gyfrannu at ddatblygiad y prosiectau y mae Uned Cyflawni Burns yn gweithio arnynt.
Rhestrir yr ymgynghoriadau cyhoeddus yma.
Ymgynghoriadau agored
Nid oes unrhyw ymgynghoriadau agored ar hyn o bryd.
- Ymgynghoriadau wedi cau
-
Gwella Teithio yng Nghanol Casnewydd
-
Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Trafnidiaeth Cymru am wella’r profiad teithio i Orsaf Drenau Casnewydd, Glan yr Afon a thrwy Old Green. Ar hyn o bryd mae'n eithaf anodd symud rhwng y lleoliadau hyn oherwydd ffyrdd prysur a chyffyrdd cymhleth. Bwriad y cynnig hwn yw ei gwneud yn haws i chi deithio ar fws, cerdded a beicio. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 6 Ebrill 2023 ond gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y wefan o hyd.
-
Mynediad i Gyffordd Twnnel Hafren
-
Buom yn ymgynghori ar nifer o opsiynau sydd â’r nod o wella mynediad i’r rhwydwaith rheilffyrdd a’r cysylltiadau trafnidiaeth gerllaw. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 11 Mawrth 2022 ond gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y wefan o hyd.
-
Coridor Teithio Llesol a Bws Caerdydd a Chasnewydd
-
Gyda’ch help chi, rydyn ni’n gobeithio creu llwybrau bysiau a beicio o ansawdd uchel ar yr A48 a’r NCN88 rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Bydd pob gwelliant yn cynnig gwell cyfleoedd i deithio ar fws, ar feic neu ar droed, ac yn lleihau gorfod dibynnu ar y car rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 11 Mawrth 2022 ond gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y wefan o hyd.
-
Mae ein huchelgais i greu system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon sy’n cyfrannu at les cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd ein gwaith. Bydd eich adborth yn sicrhau bod y cynlluniau a ddewiswyd yn bodloni anghenion defnyddwyr.
Caiff crynodeb o'r ymatebion ei rannu yma yn fuan.