
Rydyn ni'n agor platfform newydd yng ngorsaf Aberdâr
Ar ddydd Sul 18 Mai 2025, byddwn yn agor ein hail blatfform newydd sbon yng ngorsaf Aberdâr. Mae'r platfform hwn wedi'i leoli i'r de o'r platfform presennol yng ngorsaf Aberdâr, gyferbyn â Chanolfan Hamdden Sobell.
Mae'r platfform newydd ar gyfer ‘trenau sy’n cyrraedd yr orsaf yn unig’. Mae hyn yn caniatáu i deithwyr ddod oddi ar y trên yn y lleoliad newydd hwn wrth deithio o Gaerdydd i Aberdâr.
Bydd teithwyr sy'n teithio o Aberdâr i Gaerdydd yn parhau i ddefnyddio'r platfform gwreiddiol (Platfform 1), gan na fydd trenau'n stopio ar y platfform newydd hwn i drenau sy’n cyrraedd yn unig (Platfform 2) wrth deithio tua’r de i Gaerdydd.

Sut mae hyn yn effeithio ar deithwyr sy'n teithio i Aberdâr?
Pan fydd y trên yn teithio tua'r gogledd (i gyfeiriad Aberdâr o Gaerdydd), bydd y trên yn stopio ar y platfform newydd, gan ganiatáu i deithwyr ddod oddi ar y trên yn y lleoliad newydd hwn. Ar ôl aros tua 1 munud, bydd y trên wedyn yn parhau fel arfer i orsaf Aberdâr, yn barod ar gyfer ei daith yn ôl tua'r de (o Aberdâr i Gaerdydd).
Pam ydych chi wedi cyflwyno platfform newydd i drenau sy’n cyrraedd yn unig?
Oherwydd lleoliad pont reilffordd Heol Abernant, nid oeddem yn gallu gosod ail drac rheilffordd a phlatfform yng ngorsaf Aberdâr heb wneud gwelliannau seilwaith helaeth a chostus er mwyn ehangu'r arglawdd. Yn lle hynny, mae platfform newydd wedi cael ei adeiladu, 125m i'r de o orsaf Aberdâr, sy’n darparu gwell cysylltiadau â chyfleusterau lleol gan gynnwys Canolfan Hamdden Sobell a'r ysgol uwchradd leol.
Mae'r ddolen basio newydd yn caniatáu i un gwasanaeth gyrraedd a stopio ar y platfform newydd, tra gall un arall aros yn yr orsaf wreiddiol, gan ganiatáu i wasanaethau basio ei gilydd. Bydd hyn yn hanfodol pan fydd gwasanaethau amlach yn cael eu cyflwyno ar lein Aberdâr, o'r 2 drên yr awr sydd ar hyn o bryd i 4 trên yr awr fel rhan o Metro De Cymru.
A allaf fynd ar y trên ar y platfform newydd hwn?
Os ydych chi'n teithio i gyfeiriad Gaerdydd, bydd angen i chi ddefnyddio platfform gwreiddiol gorsaf Aberdâr i fynd ar y trên. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg trwy'r platfform newydd ac ni fydd yn stopio.
A yw'r platfform newydd yn hygyrch?
Ydy. Mae gan y platfform newydd fynediad ar hyd rampiau a grisiau, a lefel wastad rhwng y platfform a’n trenau trydan newydd.
A allaf barhau i ddod oddi ar y trên ar y platfform gwreiddiol?
Gallwch. Pan fydd y trên yn teithio i gyfeiriad y gogledd (o Gaerdydd i Aberdâr), bydd yn stopio wrth y platfform newydd yn gyntaf ac yna’n parhau i'r platfform gwreiddiol, tua 1 funud yn ddiweddarach. Mae croeso i deithwyr aros ar y trên a dod oddi ar y trên ar y platfform gwreiddiol.
A allaf ddefnyddio talu wrth fynd ar y platfform hwn?
Rydym yn gweithio i osod dilysydd cerdyn talu wrth fynd ar y platfform newydd. Gan nad yw hwn yn barod eto, byddem yn annog teithwyr sydd angen tapio allan ar diwedd eu taith i ddod oddi ar y trên ar Blatfform 1 (platfform gwreiddiol yr orsaf). Mae dilysyddion talu wrth fynd wedi'u lleoli ar y platfform hwn, wrth ymyl swyddfa docynnau'r orsaf ac ar ddiwedd y ramp mynediad.
Pa mor bell yw'r daith ar droed o'r platfform gwreiddiol (platfform 1) i'r platfform newydd (platfform 2)?
Mae'r platfform newydd, ar gyfer trenau sy’n cyrraedd yr orsaf, wedi'i leoli tua 300m ar droed (tua 3-4 munud) o'r orsaf wreiddiol. Ceir mynediad i'r platfform newydd trwy faes parcio Canolfan Hamdden Sobell.