Estyniad Metro Aberdâr i Hirwaun

Aberdare to Hirwaun Metro extension

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i archwilio cynlluniau i ymestyn gwasanaethau trenau i deithwyr rhwng Aberdâr a Hirwaun.

Fel rhan o'r weledigaeth ehangach ar gyfer Metro De Cymru, gallai mynd ati i ymestyn y lein ar gyfer teithwyr olygu ailgyflwyno gwasanaethau i deithwyr ar hyd y coridor rheilffordd presennol rhwng Aberdâr a Hirwaun, gan helpu i wella cysylltedd ar draws Cwm Cynon Uchaf.

Bydd yr ymgysylltu ar agor o Dydd Llun 12fed o Hydref hyd at Dydd Sul 22ain o Dachwedd 2026, gan roi cyfle i drigolion lleol, busnesau a rhanddeiliaid helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth yn yr ardal.

Dyma rai o'r cynigion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd:

  • Ymestyn gwasanaethau trenau i deithwyr y tu hwnt i Aberdâr i Hirwaun.
  • Adeiladu gorsaf drenau newydd yn Llwydcoed a Hirwaun.
  • Gwella'r cyfleoedd i gerdded, olwynio a beicio.
  • Gwell cyfle i greu cysylltiad gyda gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus eraill. 

Pe bai'n cael ei ddatblygu, gallai'r cynllun wella mynediad at swyddi, gofal iechyd ac addysg ac ar yr un pryd, hwyluso teithio cynaliadwy ar draws y rhanbarth a helpu i leihau'r effaith y mae ein rhwydwaith drafnidiaeth yn ei chael ar yr amgylchedd.

Er mai dim ond megis dechrau mae'r trafodaethau hyn, mae astudiaethau cychwynnol eisoes wedi'u cynnal fel rhan o raglen Metro De Cymru. Gan mai dim ond yn y camau cynnar y mae'r prosiect hwn, bydd angen cynnal arolygon ac ymchwiliad pellach i bennu gofynion y seilwaith a datblygu'r achos busnes.

Bydd adborth gan y gymuned yn chwarae rhan bwysig wrth roi siâp i gam nesaf y prosiect a sicrhau bod pobl leol yn parhau i fod wrth wraidd cynigion wrth iddynt esblygu.

Yn rhan o raglen Metro a Mwy CCRTA, mae'r prosiect yn cael ei ystyried fel rhan o broses werthuso WelTAG Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn sicrhau y defnyddir dull cadarn i nodi heriau o ran trafnidiaeth, asesu opsiynau a dod o hyd i atebion.

I ddysgu mwy ac i gymryd rhan yn y cyfle ymgysylltu hwn, ewch i blatfform dweud eich dweud TrC neu e-bostiwch ymgysylltu@trc.cymru.

TfW Valley Lines Map